Moduro
Cysur ac amgylchedd
Leaf Nissan (£25,990 – gan gynwys £5,000 o gymorthdal cyhoeddus)
Car y Flwyddyn (Ewrop) 2011, Leaf Nissan oedd y car trydan cyntaf i ennill y gystadleuaeth. ‘D oes ganddo ddim modur wrth gefn ond mae digon o fywyd ynddo, meddid, ar gyfer 100 milltir cyn gorfod adfer y batri. Gyda plwg trydan cyffredin yn gyfrwng, gall hyn gymeryd 8 awr – h.y.dros nos.
Daw plwg newydd (ar y car) ar gael yn 2012 all “lenwi’r” batri hyd at 80% mewn rhyw hanner awr yn ol pob tebyg. Mae gan rhai modurdai Nissan ddyfais all wneud hyn eisoes – a’r bwriad yw ehangu’r rhwydwaith. Bydd ffatri Sunderland yn dechrau adeiladu’r Leaf yn 2013 (gyda’r QashQai a Juke cyfredol).
Er mai tua 80 milltir sy’n debycach yn feunyddiol (tynnu ar yr un gronfa drydan wna’r nawsaerydd, ffenestri a drychau, e.e.), dywedir fod hyn y ddigon ar gyfer mwyafrif ‘gweithlu’ gorllewin Ewrop. Pe bai modd adfer y batri yn ystod y dydd (gwethle neu faes parcio) gellid ‘comiwtio’ cryn bellter. Mae cynlluniau ar gyfer hyrwyddo darpariaeth debyg mewn llefydd mwy cyfleus a chyhoeddus.
Un peth yw gyrru a dychwelyd o’r gwaith (ac ai hwnnw fydd y patrwm “llethol” tua’r dyfodol?) ond rhinwedd car modur yw hwyluso gweithgareddau fin nos – cymdeithasol, diwyllianol neu deuluol. Mae hyn yn wir ar gyfer y penwythnos – mae mwy i’w wneud na dim ond mynychu’r dref a/neu archfarchnad agosaf. Dyma fantais Ampera Opel-Vauxhall, e.e., a’i beiriant petrol wrth gefn.
O gydymffurfio a “dalgylch” y Leaf, serch hynny, digon cysurus a chyfarwydd yw hi wrth y llyw. Heblaw am ‘garped’ o fatriau ion lithium dan y llawr, hatch canol-is 5 drws gyrriant blaen cwbl gonfensiynol sydd yma. Crogiant blaen annibynol a thrawst-echel ol, cymorth trydanol i’r llyw ac ati. Go gaboledig yw’r caban a chysurus y seddi (blaen, o leiaf) – a thawel hollol yw elfennau’r gyrriant.
Mae pentwr o dechnoleg gwybodaeth (hybu gyrru darbodus, hoedledd y batri ac ati) ger bron y gyrrwr a thebyg i gar awtomatig yw’r ymateb: 80kW-109 march-nerth; 90mya; 0-62mya ymhen 11.9 eiliad. ‘D oes dim treth ffordd, wrth gwrs, a thua £2 meddid fuasai cost adfer y batri dros nos. Gellir cadw golwg ar bethau drwy ffon mudol a gosod y nawsaerydd,e.e. Wedi dweud hynny, dinasoedd yr iseldir a’u maesdrefi fydd cynefin y car hwn – a drud iawn y pris gofyn.
XJ 3.0 V6D Jaguar (£55,500-£69,500)
Go wahanol yw cysur ac amgylchedd XJ Diesel diweddaraf Jaguar. Ond er 155mya (gyfyngwyd) a 60 ymhen 6 eiliad, nid afradlon mohonno: 39.2 myg ar gyfartaledd swyddogol a 189g/km (‘J’/£245 y flwyddyn). Hyn i ganlyn y fersiwn hir (mwy o le y tu ol) – ysgafnach 20kg yw’r car safonol, 184g/km (‘I’/£210).
Corff aliwminiwm drwyddo draw (etifeddwyd gan ei ragflaeynydd ac esblygwyd) gyfranodd - ysgafnach 200kg na dur - ac hefyd egni darbodus y Diesel 3.0 litr AJ-V6D Gen III dan ei gwfl. Arddel hwn ddau wefrwr tyrbo sy’n gweithio’n ddilynol gan greu bwrlwm o dorch gan dynu’n gryf drwy chwe ger y blwch awtomatig.
Gyrriant ol clasurol, megis Mercedes-Benz a BMW, yw patrwm y gyrriant a mae dyfais sy’n amrywio’r ymateb (‘Cyffredin’, ‘Gaeaf’, ‘Deinamaidd’). Wedyn, mae tri gosodiad i’r “Trac DSC” (sadio trydanegol). Rhwng hyn oll a phedalau newid ger yr olwyn lywio, gall y gyrrwr reoli ymddygiad y car yn fanwl pan ar garlam.
Ar garlam neu beidio, hybu cysur y car cyfan wna crogiant ol aer atodol. Camp hynod fu cyfuno cystal lyfndra a llywio, cornelu a chorff-reolaeth mor eithriadol fanwl. ‘D oes dim byd cyfatebol all ymateb mor siarp a chytbwys gyson a hwn.
Luxury, Premium Luxury a Portfolio yw’r ystod a daw arlwy go foethus i ganlyn – gan gynwys dyfais i ymestyn gwaelodion y seddi blaen (ar ben “bopeth” arall) sy’n gaffaeliad ar unrhyw daith i’r neb sy’n dalach neu hirgoes. Car rhagorol yw’r XJ – cabolrwydd, cysur, peirianwaith coeth a doniau deinamaidd sy’n disgleirio.