Moduro
Cludydd cynnil ond caboledig
TEBYG i hel achau yw ceisio didoli holl epil Grŵp Volkswagen. Nid un llinach ond llinachau bellach - prysur symud tua Rhif.1 y byd modurol wna’r cwmni.
Mabwysiadu llwyfan y Golf V wnaeth Golf VI 2008 a Touran 2003 oedd y cyntaf i arddel hwnnw. Coeth ydoedd gan arddel crogiant ôl aml-gymalog annibynol – er budd llywio, cornelu a chorff-reolaeth manwl heb aberthu safon reid llyfn-gysurus. O’i ddatblygu, mwy nag atebol ydoedd, meddid, ar gyfer y genhedlaeth gyfredol.
Mae sôn am Golf VII erbyn diwedd 2012 ond daeth y Touran diweddaraf ar gael fis Medi diwethaf (ar ôl diwygio sylweddol yn 2007). Eleni bu adnewyddu ar y Tiguan (SUV) ynghyd a Golf Cabriolet (to clwt agored) a Jetta (sedan 4 drws) – y naill a’r llall yn fodelau newydd. A mae’r Eos (to caled agored) yma o hyd hefyd.
Trwy ddull adeiladu modiwlar y Grŵp mae gan y cyfryw fersiynau fodolaeth sy’n fwy fwy annibynol. Nid un llwyfan sy’n sylfaen ond cyfuniad o gydrannau a bydd yr uchod yma am beth amser eto.
Y Car
S, SE a Sport yw’r ystod a phetrol (1.2 TSI 105 neu 1.4 TSI 140) a Diesel (1.6 TDI 90 neu 105; 2.0 TDI 140 neu 170) y peiriannau. Bu ehangu yma eto ar dechnoleg ‘BlueMotion’ VW gyda’r 1.2 TSI 105, 1.6 TDI 105 a 2.0 TDI 104 yn arddel y bathodyn. Olwynion aloi a theiars sy’n llusgo llai sydd ganddynt, dyfais diffodd-tanio wrth sefyll ac ail-gychwyn ynghyd ag adgipio ynni wrth frecio – hyn yn hwb i’r eiliadur a’r batri gan ysgafnhau’r baich ar y peiriant o gynhyrchu trydan.
Daw blwch 6 ger nerth braich (cydnaws a slic) i ganlyn pob model heblaw’r 2.0 TDI 170. Chwe ger deu-afael awtomatig yw hwnnw (ar gael am arian pellach ar y 2.0 TDI 140 hefyd). Ond y blwch nerth braich yw’r dewis amlwg.
Yn groes i lawer o’r rhelyw, un model sylfaenol sydd i’r Touran (‘d oes dim un ‘Grand’ estynedig). Ond, megis Zafira Vauxhall, mae lle i saith (5+2) ynddo beth bynnag – gyda’r dewis o hepgor y ddwy sedd ôl achlysurol. Plygu i’r llawr wna’r ddwy res ôl wrth gwrs a mae digon o le ar gyfer offer, geriach a thrugareddau. Go hael yw’r arlwy. Daw nawaerydd; olwynion aloi 15”; rheseli to; awdio Cr.Dd.; breciau ABS a sadio trydanegol ESP a chwe swigen awyr achubol ar y rhataf un.
Manylion
SE 1.6 TDI 105: £22,025* (£18,175-£26,520 rhataf-drytaf); 114mya; 0-62mya 12.8 eiliad; 55.4myg swyddogol; 41-43myg ar brawf - 45beunyddiol ddarbodus dyweder; CO2 134g/km; Tr.Ff.’E’/£115; Yswiriant 13E. Ymhlith cyfarpar ychwanegol yr SE: olwynion aloi 16”; cymorth parcio clyweledol; USB iPod-MP3 awdio; seddi blaen mwy cysurus all esgyn/disgyn. (*BlueMotion: £22,250).
Y Gystadleuaeth
C-Max(5 sedd)/Grand C-Max(7 sedd) Ford; Mazda5; Peugeot 3008/5008; Scenic/Grand Scenic Renault; Zafira Vauxhall (olynydd ar gyrraedd).
Dyfarniad
Manwl a siarp yw doniauau deinamaidd y Ffordyn a’r Vauxhall ond glan ei wedd a’i ddiwyg a hynod gaboledig (caban a chorffwaith) yw Touran VW. Cysur a llyfndra y flaenoriaeth ond mwy nag atebol yr ochr ddeinamaidd, darbodus hefyd.