Moduro

RSS Icon
16 Medi 2011
Huw Thomas

Haeddu mwy o sylw

Cafodd Honda gryn hwyl gyda’r Jazz (uwchfini) a’r CR-V (SUV cynnil) – Civic hefyd i raddau (olynydd i hwnnw ar gyrraedd). Peirianneg coeth a chywrain yw sylfaen enw bydeang y cwmni. Daeth cerbydau croesryw petrol-trydan Honda’n adnabyddus hefyd. Ond, am ryw reswm, taro llai na deuddeg fu hynt yr Accord.

Marchnata llai na chraff hwyrach? Lle didrugaredd yw carfan y canol-uwch – digon anodd i gar a chrach-fathodyn bellach. Os am lwyddo ymhlith y gwerin, rhaid canolbwyntio ar brynwyr masnachol y lleng a’r lliaws. Yn draddodiadol (yma o leiaf) prynwyr preifat yw cynulleidfa Honda a phrin yw’r cyfryw yno.

Y Car

Gyrriant blaen confensiynol, daeth y cyntaf ym 1981, y car cyfredol yn 2008 a bu diwygio arno eleni. Mae peiriannau petrol 2.0/2.4 litr 156/201 marchnerth a Diesel 2.2 i-DTEC 150/180. Sedan neu Tourer (ystâd) sydd ar gael. Daeth CO2 y 2.2 i-DTEC awtomatig a’r 2.0i petrol yn is na 160 g/km syn bwysig ar gyfer lwfansau busnes ac is na 140g/km yw’r DTEC 6 ger nerth braich. Bu gwaith aerodeimaidd ar waelodion corff y car hefyd.

Mae safon reid ac ymddygiad y car yn well a bu ymbincio oddi allan ac oddi mewn gydag arlwy fwy hael, olwynion aloi 17”, goleuadau blaen sy’n troi gyda’r llyw, ac ati. Mwy cysurus yw hi yn y caban a thawelach hefyd. Daw mordwyo lloeren llafar-ymateb i ganlyn y model drytach (£1,150 fel arall) a mae hyn yn cynwys cyfathrebu Bluetooth a chymorth parcio clywedol yn ôl y model.

Eang yw’r adnoddau trydanegol: sadio; llywio; brecio gan gynwys tynnu ôlgerbyd – trwy dawelu unrhyw arwydd o siglo.

Mae digon o fynd yn y DTEC 150 hyd yn oed a slic-gydnaws yw’r blwch 6 ger nerth braich. Hynod ddefnyddiol ar ffyrdd gwledig Cymru yw 4ydd ger y model hwnnw.

Cymeradwy yw doniau deinamaidd yr Accord – llywio, dal y ffordd a safon y reid. Cysurus gynhaliol yw’r safle yrru.

Manylion

Accord 2.2 i-DTEC 6 ger NB: £24,700 (2.0i rhataf £21,605); 132mya; 0-62mya 9.5 eiliad; 52.3myg swyddogol; 38/39myg ar brawf sy’n awgrymu 45 darbodus dyweder yn feunyddiol; CO2 g/km; Tr.Ff.’E’/£115; Yswiriant 25E.

Y Gystadleuaeth

Mondeo Ford, Passat VW, Superb Skoda, Insignia Vauxhall, Mazda6; 508 Peugeot, i40 Hyundai, S60 Volvo, A4 Audi, Exeo SEAT.

Dyfarniad

Nid yw mor lyfn a diymdrech â’r Passat nac mor loyw ei rinweddau deinamaidd â’r Mondeo – hwnnw a Superb Skoda’n cynnig mwy o le oddi mewn (Skoda’n arbennig). Ond coeth ei beirianwaith ydyw. Os nad cystal â goreuon yr uchod (Mondeo, Passat, Superb), mae’n haeddu lle gyda’r blaenoriaid – a mwy o sylw.

Rhannu |