Moduro

RSS Icon
25 Awst 2011
Huw Thomas

O na fyddai’n Haf o hyd!

Tri car safonol Audi yw’r A4, A6 ac A8. Gyda’r criw cyfredol serch hynny, daeth nifer o fodelau A5 ac A7. Gwneud mwy na llenwi bwlch wna’r cyfryw a nid Sport-back (hatch) coupe-debyg yn unig mo’r A5 – Coupe a Cabriolet hefyd.

Cabriolet yw enw Audi ar ei geir to clwt agored (heblaw am y TT ‘Roadster). A tho clwt fu hi – nid ‘Coupe Cabriolet’ (to caled all blygu ymaith). Symud ynghynt, mwy syml y peirianwaith, mynd a llai o le yn y gist ac ysgafnach ydyw – er budd osgo deinamaidd y car. Tawel a chlud oddi mewn bellach a gellir arddel ffenest ôl wydr a gwresogydd. Gall y to esgyn neu ddisgyn heb stopio (hyd at 31mya).

Y Car

Daeth yr A5 Coupe i Sioe Genefa fis Mawrth 2007 tra diwedd 2008 oedd hi cyn lansio’r Cabriolet, Hydref 2009 y Sportback 5 drws. ‘Ymestyn’ yr A4 wnaed – ‘d oedd dim Coupe neu Sportback gynt ond olynydd uniongyrchol yw’r Cabriolet i’r A4 blaenorol. Glan a chaboledig, denodd gynulleidfa selog. Gweddu’n well eto wna corff hwy yr A5 ac chafwyd hwyl ar osgo ynghyd a gwedd a diwyg y cynllun.

Pris gofyn yr A5 rhataf (1.8 TFSI 158 marchnerth petrol) yw £28,915 – ‘SE’ ac ‘S line’ yw’r fersiynau drytach a mae S5 V6 3.0 333m/n trachwim yn ben ar y cyfan: £45,150. Gellir talu crocpris am fodelau V6, quattro 4x4 a/neu grogiant arbennig ond y mwyaf “naturiol” o blith ystod go eang yw’r llai drud a gyrriant blaen syml.

Heblaw am yr 1.8 litr, mae 2.0 TFSI 210 petrol neu 2.0 TDI 170 Diesel. Daw blwch 6 ger nerth braich slic a chydnaws i’w canlyn (awto am arian pellach) a swynol-egniol yw’r 2.0 TFSI petrol (ysgafnach rywfaint na’r Diesel). Eitha’ hael yw’r arlwy: olwynion aloi 17”; nawsaerydd; ffenestri/drychau trydan sy’n cydweithio â’r to; diffodd-tanio ac ail-gipio egni; ABS-ESP ac ati. Ond rhaid talu £1,995 am “Becyn Technoleg” (lloeren-fordwyo, gwell Awdio a sbid-reolydd).

Manylion

2.0 TFSI 211/SE 6 ger NB: £31,815/£33,745; 155mya; 0-62mya 6.9 eiliad; 41.5 myg swyddogol; 29-34myg ar brawf; CO2 159g/km-Tr.Ff.’G’/£165; Yswiriant 33E.

Y Gystadleuaeth

Cyfres 3 BMW (‘CC’ to caled) neu E-klasse cabriolet Mercedes-Benz (to clwt).

Dyfarniad

O na fyddai’n Haf o hyd – ond ar gyfer yr ysbeidiau heulog sydd ohonni, digon egniol yw Cabriolet 2.0 TFSI A5 Audi. Rhatach na BMW neu Mercedes – sy’n denu gwario mwy am fersiynau grymusach er elwa ar y gyrriant ôl clasurol. Caboledig, darbodus a chysurus mae dewis o fodelau am brisiau lled resymol – a dal eu tir yn well yn ail-law hefyd mae’n debyg wna’r cyfryw.

Rhannu |