Moduro
Diwygio ac ‘e-Diesel’ newydd
ENBYD gystadleuol yw carfan y canol-is. Serch poblogrwydd y cludydd cynnil, hynod bwysig o hyd yw’r hatch, ystâd ac eraill. Rhagorol yw safon deinamaidd y blaenoriaid – a nid dim ond y “GTi-debyg”. Er yn amlwg, llai na ‘blaenllaw’ fu 308 Peugeot ond gwerthwyd tua miliwn a chafwyd hwyl ar y 3008 (cludydd debyg) a’r 5008 (7 sedd) mwy diweddar. Addawol felly yw’r argoelion.
Y Car
Daeth 308 cyfredol Peugeot yn 2007 (Hatch 5 drws) a’r ‘SW’ (ystâd) yn 2008. Eleni bu diwygio drwyddo draw gan gynwys peiriannau newydd a chaboli oddi mewn ac allan. Sylfaen y 308 yw’r 307 blaenorol – cadwodd lwyfan hwnnw gan arddel corff a chaban newydd (megis Golf V a VI 2009 Volkswagen). Er gwella arno, ar gysur fu’r pwyslais rhagor llywio, cornelu a chorff-reolaeth siarp-fanwl.
Access, Active, Allure, GT, Oxygo ac SR yw’r ystod, £15,245-£21,645 y prisiau gofyn a mae peiriannau petrol 1.4 ac 1.6 litr (98, 120, 156 a 200 marchnerth) neu 1.6 HDI Diesel (92, 112 a 150m/n). Diesel newydd yw’r e-HDI 112m/n – ar gael gyda phob fersiwn heblaw’r GT (petrol 200m/n yn unig). Daw blwch 6 ger nerth braich i’w ganlyn neu ffon ‘hanner awtomatig di-afael’: £17,645-£19,565.
Chwe ger nerth braich yw’r dewis amlwg a rhwng 109g/km a 118g/km yr CO2 (yn ôl yr arlwy, teiars ac ati). Heblaw am ddiffodd-tanio wrth sefyll ac ail-gychwyn, gweithredu’n amgenach wna eiliadur (ynghyd ag uwch-gynhwysor) y car. Yn hytrach na dim ond cynhyrchu trydan, hwn sy’n ail-ddechrau’r peiriant (a mae cyfundrefn ad-gipio egni hefyd). Mwy sydyn a llai herciog yw’r ail-danio meddid.
Manylion
Allure e-HDI 5 drws, 6 ger NB: £19,565; 118mya; 0-62mya 11.4 eiliad; 67.2 myg swyddogol a c50+ beunyddiol dyweder; CO2 118g/km; Tr.Ff.£30; Yswiriant 15E.
Y Gystadleuaeth
Golf VW (Leon SEAT, A3 Audi, Octavia Skoda), Focus Ford a Giulietta Alfa Romeo ar y blaen (deinamaidd a chyffredinol) gydag Astra Vauxhall yn agos ond go gaboledig yw caban y 308 bellach, cyson ei ymateb ar y ffordd a chysurus.
Dyfarniad
Nid rhad mohonno a serch olwynion aloi 18”, seddi (hanner) lledr, nawsaerydd mwy cyflawn, to gwydr, cymorth parcio (ôl) ac ati’r “Allure”, un rhatach all ddenu. Eang yw’r argraff oddi mewn ond cyfyng braidd y safle yrru i’r tal a hirgoes er addasu i “bob-cyfeiriad”. Darbodus yw e-Diesel 2011 ond rhaid cloriannu’n fanwl i sicrhau mai dim ond “ceiniog” fydd hi ar “ddiwedd y gân”.