Moduro

RSS Icon
12 Awst 2011
Huw Thomas

‘Almaenwr’ cynnil a chyfoes

SUV cyntaf BMW oedd X5 1999 o ffatri newydd yn Spartanburg, De Carolina. UDA fuasai prif farchnad yr SUV ysgafnach a mwy heini hwn. Ar y ffordd fawr oedd ei bwyslais hefyd serch 4x4 go atebol ar gyfer troi oddi arno’n achlysurol.

Datblygodd yr “xDrive” erbyn hyn. ‘D oes dim gers isel/uchel ond 4x4 parhaol ydyw a 40%-60% ei osgo blaen/ôl (gan efelychu gyrriant ôl clasurol). Gall symud rhwng yr echelau ar amrantiad a rhwng olwynion yr echel ôl hefyd (megis differyn gwrth slip). Sadio’r car wrth gornelu ar garlam wna hyn neu, oddi ar y ffordd fawr, hybu gwell gafael – caffaeliad ar neu oddi ar y tarmac felly.

Dyna’r gyfrinach. ‘SAV’ – Sport Activity (nid Utility) Vehicle yw enw BMW ar ei X-gerbyd. Daeth yr ail X5 (7 sedd) yn 2006 ac X6 (pontio 4x4-Hatch) yn 2008. Bu gofyn am rywbeth tebyg ond mwy cynnil – wele X3 2003, ddiwygwyd yn 2006. Daeth ail epil hwnnw y llynedd gan ddilyn X1 (llai fymryn a mwy car-debyg) 2009.


X3 BMW

Cwmni Magna Steyr, Graz, Awstria (Steyr Daimler Puch gynt) adeiladodd yr X3 cyntaf dan gontract. Y tro hwn, magwyd yr X3 diweddaraf ar aelwyd BMW. Fe ddaw, fel yr X5/X6 o Spartanburg. Hwy a lletach yw’r X3 gan greu “mwy o le” ar gyfer yr X1 (dyna wnaed â’r X5). Gyda’i arlwy, rhatach meddid yw’r car newydd.

Diesel 2.0 litr neu 3.0 Diesel, wyth ger awtomatig yn unig yw’r 30d tra 6 ger nerth braich yw’r 20d (8 ger awto - £1,525). Os am gymorth llywio amgenach: ‘Servotronic’ £180;‘Variable Sport’ £380. Rheoli sadwyr: £930. Hepgor y cyfryw sy’n syniad a phrynu olwynion mwy 19” (£845) a seddi blaen ‘Sports’ (£440).

Eithaf hael yw’r offer a chyfarpar: nawsaerydd deu-barth; cymorth parcio blaen ac ôl clywedol; pentwr o ddyfeisiadau trydan (ffenestri, drychau) a thrydanegol (brecio, sadio ac ati). Ond maith a drud yw’r rhestr (a phecynnau) offer atodol. Serch awtomatig y mwyafrif, daw rheolaeth lwyrach gyda blwch nerth braich.


Manylion

X3 2.0D 8 ger awtomatig: £32,665 (£31,140 – 6 ger n/b); 184m/n; 130mya; 0-62mya 8.5 eiliad; dyfais diffodd-tanio ac adgipio egni; 54.4myg swyddogol; 31-36myg ar brawf gan awgrymu 40 beunyddiol; CO2 147g/km-Tr.Ff.’F’-£130; Breciau ABS/DBC/CBC; Sadio/Gafael DSC/HDC (ffrwyno’r car ar lethrau serth/llithrig); Uchafbwys ôl-gerbyd a breciau 2,400kg; Yswiriant 28.


Y Gystadleuaeth

Freelander Land Rover, Q5 Audi, Tiguan VW, XC60 Volvo. Evoque Range Rover ar gyrraedd os drytach – megis EX 30d Infiniti ond 3.0 V6 serch ‘cynnil’ ei faint.


Dyfarniad

Tipyn o gamp fu cael awtomatic sydd gystal a 6 ger n/b (chwimdra, glendid CO2 a llwnc swyddogol). X3 BMW sydd ar y blaen gyda hyn oll. ‘D oes dim gers isel gan y Freelander (na’r gweddill) ond hwnnw sy’n rhagori oddi ar y ffordd fawr. Er hynny ‘Almaenwr’ Spartanburg, drwyddo draw, yw’r SUV cynnil mwyaf cyfoes.

Rhannu |