Moduro

RSS Icon
18 Chwefror 2011
Huw Thomas

Swift 2011 Suzuki - Hwyliog a hygred

CAFODD Suzuki hwyl ar greu ceir bychain smart os deinamaidd gyffredin y cyfryw. Tipyn gwell yn ddiweddar, cymeradwy fu Swift newydd Medi 2010 ar gyfer eleni.

Er edwino yn Undeb Ewrop y llynedd (i raddau o ddirwyn i ben y Swift blaenorol a lansio’i olynydd) bu ffyniant yn India (Maruti-Suzuki yw ‘Rhif 1’ yno), Tseina a gweddill Asia. Parthed yr Yen-Ewro, caffaeliad yw ffatri Magyar-Suzuki Hwngari. Daw’r Swift oddi yno a’r “cyd-geir” Splash (Agila Vauxhall), SX4 (Seicento FIAT).


Y Car

SZ2, SZ3 ac SZ4 yw ystod y modelau ac uned betrol 1.2 litr i’w canlyn. Mae 1.3 DDiS Diesel ar gyrraedd (Gwanwyn) ac erbyn Hydref eleni bydd Swift Sport 1.6 petrol tipyn mwy egniol meddid gan arddel gwedd a diwyg i “adlewyrchu” hyn.

Ond eitha’ bywiog yw’r 1.2 – effeithlon a CO2 lan trwy reolaeth drydanegol dros y falfiau, llogi/disbyddu sy’n hyrwyddo “anadlu” gwell. Nawsaerydd ac olwynion aloi ddaw i ganlyn yr SZ3 tra nawsaerydd awtomatig, niwl-oleuadau atodol, sbid –reolydd, cyfathrebu ‘Bluetooth’ a chysgod-wydr y tu cefn yw penawdau’r SZ4.

Esblygu pryd a gwedd glan a thaclus ei ragflaenydd wnaed y tro hwn. Dealladwy ddigon fu hynny. Ond yr hyn sy’n apelio gyda Swift 2011 yw ei allu deinamaidd. Cyson y cornelu, sad hyderus yw’r corff-reolaeth heb amharu gormod ar safon y reid tra rhwydd yw’r llywio os nad llwyr gyson-fanwl Aeddfedu amlwg welwyd yma ac amlygu hyn wna dwy sedd flaen sylweddol i gar bychan. Esgyn a disgyn wna un y gyrrwr, felly hefyd yr olwyn lywio ac fe ellir altro’i bellter gyda’r SZ4.


Manylion

Swift 1.2 petrol; 3/5 drws; £10,210-£12,505; 94m/n; 103mya; 0-62mya 12.3 eiliad (5 ger nerth braich-4 ger awto’n arafach); 56.5myg swyddogol; 36-41 ar brawf (45+ beunyddiol dyweder); CO2 116g/km-Tr.Ff.‘C’-£30; Yswiriant 8E/9E (1-50).


Y Gystadleuaeth

Polo Volkswagen, Fiesta Ford, Mazda2, Ibiza SEAT a Fabia Skoda. Polo’n rhagori drwyddo draw tra’r Fiesta sy’n cyfuno doniau deinamaidd a chysur orau.


Dyfarniad

Hwyliog a hygred yw’r car bach safonol hwn serch caban heb fod mor gaboledig a goreuon yr uchod a blwch (n/b) 5 ger yn unig ysywaeth. Coeth ei beirianwaith, mae’n haeddu lle ar restr fer sy’n cynwys goreuon y garfan – er clod iddo.

Rhannu |