Moduro

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011
Huw Thomas

Dau sy’n denu sylw

Amorok Volkswagen

DWY garfan bwysig yw’r Pick-Up a’r Hatch Poeth a daeth dau gerbyd newydd gan Grŵp Volkswagen i ddenu sylw’r naill gynulleidfa a’r llall. Cyrhaeddodd Amorok VW fis Mai a bydd nifer dethol o brynwyr yn cael gafael ar RS3 Audi y mis hwn.

Bu cip ar L200 Mitsubishi y mis diwethaf. Hwnnw fu’n arwain carfan y pick-up yma ers tro gyda’r model cyfredol ar gael ers 2006. Yn ôl yr SMMT, yr L200 oedd ar y blaen eto gydol y llynedd gyda Navara Nissan, HiLux Toyota, Ranger Ford a Rodeo Isuzu’n ei ganlyn. Dros bedwar mis cyntaf eleni, serch hynny, bwrodd y Nissan heibio iddo gyda Toyota, Isuzu a Ford yn 3ydd, 4ydd a 5ed.

Herio’r cyfryw yw bwriad VW gyda’r Amorok. Volkswagen yr Arianin sy’n ei adeiladu ac aeth ar werth yn Ne America, Asia, Awstralia a De’r Affrig eisoes.

Cab dwbl, 4 drws 5 sedd, Startline, Trendline a Highline yw ystod y modelau. Er confensiynol yr adeiladwaith: siasi ar wahân, trawst echel ôl a dolennau dur yn grogiant (annibynnol gyfoes – blaen), dywed VW mai cynnig cysur ac offer mwy car-debyg eto na’r rhelyw wna’r Amorok. Wele flwch 6 ger nerth braich ar bob un ac addaswyd y sadio trydanegol ESP a brecio ABS ar gyfer y diarffordd – esgyn a disgyn llethrau. Daw clo trydanegol ar y differyn (EDL) ac ASR gwrth-slip hefyd.

Gall gyflawni tyrn o waith: ysgwyddo llwyth trymach na 1,000kg (oll ond un*); llawr ddigon llydan ar gyfer ewro-baled wysg ei ochr; tynnu olgerbyd a breciau hyd at 2,690kg; gerio 4x4 uchel/isel; uchder ac adnoddau diarffordd cymeradwy.

Rhan-amser yw 4x4 y cerbyd safonol ond mae fersiwn 4x4 parhaol heb gers isel. Anelwyd hwnnw at brynwyr preifat – 750kg yw uchafswm y llwyth*. A dyma lle mai gan yr L200 fantais o hyd. Ar y Warrior/Barbarian (mwy moethus a drytach) mae SuperSelect Mitsubishi’n cynnig 4x4 uchel (parhaol) ar y ffordd fawr (sy’n gaffaeliad wrth dynnu olgerbyd, e.e.) ynghyd a 4x2 cyffredin a 4x4 isel oddi arno.

Peiriannau: Diesel 2.0 TDI 122; 100mya; 0-62 - 13.7 eiliad; 37.2myg swyddogol; CO2 199g/km. Diesel 2.0 TDI 163 deu-dyrbo; 112 mya; 0-62 - 11.1 eiliad; 35.8 myg swyddogol; CO2 209g/km. Prisiau: £16,995-£21,575 heb TAW; £21,343-£26,839 gyda TAW ac ati. Caboledig a char-debyg fu’r argraff gyntaf – addawol.

RS3 Audi –

Pum silindr a 2.5 litr o faint yw peiriant A3 (Sportback – 5 drws) grymusaf Audi. Efelychu’r TT (Coupe/To Clwt) RS wna hyn ond mynd yn groes i’r S3 (3 drws) a’i uned 4 silindr 261m/n a hefyd Golf 2.0 TSI 270 R Volkswagen. Modelau hatch trachwim y Grwp yw’r cyfryw – cyflymach na’r Golf GTi 210, e.e.

Gyrriant blaen yw’r GTi ond 4x4 y criw crasboeth. Seiliedig ar gyfundrefn Haldex IV diweddaraf, ar allu deinamaidd cyflawn y car mae’r pwyslais yn hytrach na ‘chymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder’. Daw 340m/n o’i grombil -155mya (gyfyngwyd) tra 4.6 eiliad yw’r naid 0-62mya. Ei lwnc yw 31myg (ar gyfartaledd swyddogol) a 212g/km yw’r CO2 (‘K’-£260). Dywed Audi mai’r RS3 sydd ratach (£39,930), ysgafnach ei lwnc a CO2 lanach na modelau cyfatebol BMW (Cyfres 1 M Coupe) neu Mercedes-Benz (C63 AMG). Gyda CAP Monitor yn prophwydo gwerthoedd ail-law cryf, hwn meddid sydd rataf i’w gynnal a’i gadw.

‘D oes dim blwch gers nerth barich ar gael ysywaeth, “S tronic” (deu-afael DSG gynt) 7 ger yw’r cyfrwng. Cymeradwy ddigon ydyw – newid di-oedi a llif gyrriant yn gyson ond braf fuasai rheolaeth fwy cyflawn blwch confensiynol ar gar o’r fath.

Trwm dan dechnoleg (ABS, ESP), cyson-fanwl yw’r llywio trydan-fecanyddol os marwaidd a “thawedog” braidd. Cyson yw’r cornelu a dal y ffordd ond sadrwydd rhagor llyfndra yw blaenoriaeth y reid – iawn ar ffyrdd llyfn a di-graith. Archebwyd y cyfan o’r 500 cerbyd glustnodwyd ar gyfer y farchnad hon mae’n debyg a bydd olynydd, yn ol pob son, i’r A3 (a’r Golf?) y flwyddyn nesaf. O gadw’r danteithiol rymusaf tan y diwedd, dyma ddull cofiadwy o ganu’n iach.

Rhannu |