Moduro

RSS Icon
25 Chwefror 2011
Huw Thomas

iX20 Hyundai - Cynnil, cyfoes a thaclus


DAL i dyfu wnaeth Hyundai-Kia gydol 2010 hyd yn oed wrth i’r cynlluniau sgrapio ddirwyn i ben. Pumed o blith cwmniau ceir mwayf y byd ers 2007, tua 3.6 miliwn oedd cyfanswm Grwp De Corea y llynedd. Yn ol ACEA Brwsel, 605,386 fu hi ar draws Undeb Ewrop sef 4.5% y farchnad (gan guro Toyota-Lexus sylwer).

Yn ol SMMT Llundain, 5.8% fu cyfran y ddau yng Ngwledydd Prydain gyda Kia yn agosach at Hyundai: 2.76% a 3.04% - y naill a’r llall yn gwerthu rhagor na 56,000 (sef 112,840 a mwy na Renault, Peugeot neu BMW, e.e.). Nodweddiadol gyfoes yw ix20 Hyundai. Sioe Paris fis Medi, daeth yma fis Tachwedd y llynedd.


Y Car

Uwchfini cludydd-debyg yw’r ix20 – talach na’r i20 cyffredin, mwy defnyddiol yw’r caban serch lle i ddim rhagor na 5 wrth gwrs. ‘Cyffredin’ hwyrach yw’r gair am yr i20 ond gwahanol yw hi wrth lyw hwn. Uwch yw’r safle yrru a chlir yr argraff mai tipyn mwy o gar sydd yma. Petrol 1.4 litr (89 marchnerth), 1.6 (123m/n) neu 1.4 CRDi Diesel (89m/n eto); ‘Classic’, ‘Active’ a ‘Style’ yw’r ystod: £11,845-£15,420.

Hael yw’r arlwy gyda’r rhataf yn arddel nawsaerydd, ffenestri blaen trydan, sadio trydanegol ESP, twll USB a phlwg atodol, sedd yrru sy’n esgyn/disgyn, felly hefyd yr olwyn lywio ynghyd ag altro’i bellter, e.e. Prif benawdau’r Active yw olwynion aloi 16”, drychau drws trydan-a-gwresogi, ffenestri ol trydan a cymorth parcio (ol).

Gyrriant blaen confensiynol yw’r patrwm a daw blwch 5 ger i ganlyn yr 1.4 petrol, 4 ger awtomatig yr 1.6 tra 6 ger nerth braich yw’r 1.4 CRDi. Drytach £1,430 yw hwnnw, arafach fymryn ond ysgafnach ei lwnc - a chaffaeliad yw’r 6ed ger.


Manylion

ix20 CRDi Active: £14,395; 104mya; 0-62mya 14.5 eiliad; 65.7myg swyddogol; 47/48myg ar brawf; CO2114g/km-Tr.Ff.’C’-£30; Yswiriant 10; Gwarant 5 mlynedd.


Y Gystadleuaeth

Note Nissan/Modus Renault (chwaer-geir) a Jazz Honda (diwygio ar ddigwydd) heb anghofio Venga Kia – chwaer-gar eto ond drytach.


Dyfarniad

Atebol yw doniau deinamaidd yr ix20 ond nid car ar gyfer gyrrwr brwd mohonno. Digon cysurus hefyd er ei daldra (cymharol) - sy’n golygu tynhau’r crogiant fel arfer. Ymarferol, cynnil, cyfoes, a thaclus – Hyundai pellach sy’n taro deuddeg.

 

Rhannu |