Moduro

RSS Icon
05 Medi 2016
Gan HUW THOMAS

Superb Skoda - Car o sylwedd enillodd sylw

DYWEDIR mae Vaclav Havel, diweddar Arlywydd y Tsiec-Weriniaeth fu’n gyfrifol am Superb 2001 Skoda. Erbyn 1999 rhoddodd Tryciau Tatra’r gorau i wneud ei car mawr (a swyddogol y llywodraeth). Gofynnodd Havel i Skoda (eiddo i VW ers degawd) am rywbeth yn ei le. Cafwyd gafael ar lwyfan Audi estynedig gan Grŵp VW Tseina, ei ail-gorffori ac atgyfodi enw pencar Skoda’r 30au.

Camp fu lansio car safonol ei faint i ganol tiriogaeth “glaswaed” Ewrop. Ond wedi saith mlynedd a 170,000 (bu diwygio arno yn 2006) gellid cyfiawnhau olynydd yn 2008. Gyrriant blaen eto a mwy confensiynol ond arlwy ehangach: 4x4, e.e.

Mwy o faint eto na rhelyw’r ‘canol-uwch’ (cymaint â char safonol y garfan uwch) ac, er siap sedan-debyg, hatch ydoedd. Allweddol fu lansio fersiwn Ystâd arno yn 2009 a bu cryn ddiwygio yn 2013 gan gynwys peiriannau newydd mwy darbodus.

Daeth Superb newydd fis Medi’r llynedd (hatch ac ystâd gyda’i gilydd). Mymryn mwy eto, hwy hefyd y sail olwyn (pellter rhwng yr echelau). Mwy o le i drigolion y sedd ôl na llawer i gar “mawr” ac ar eu hennill yw’r gyrrwr a chyd-deithiwr blaen.

Cam pellach ym menter (un sylfaen hyblyg) MQB enfawr Grŵp VW, chwaer-gar yw’r Superb III i Passat VIII VW. (Dan adain yr MQB yw modelau uwch-fini hyd at y canol-uwch tra chyfundrefn MLB/MLBevo sy’n gofalu am y mwy ac amgenach.)

O ganlyniad, unplyg-wytnach ond ysgafnach yw corff y Superb newydd meddid – hyn er budd llwnc a CO2: 1.4 TSI 125 petrol (125g/km-Treth Ffordd ‘D’ a £110); 1.6 TDI 120 Diesel ‘Greenline’ (95g/km-Tr.Ff.’A’ a £0). Amrywio rhwng £19,005 a £34,120 wna prisiau gofyn arlwy cyfan yr hatch; £20,205-£35,320 yr Ystâd.

Petrol: 1.4 TSI 125/150; 2.0 TSI 220/280. Diesel 1.6 TDI 120; 2.0 TDI 150/190. Chwe ger nerth braich neu 6/7 DSG (deu-afael awto heblaw’r 1.4 TSI 125). Gyrriant 4x4 ar gael gyda’r 2.0 TDI 150 (6NB)/190 (DSG) a 2.0 TSI 280 (DSG).

‘S’, ‘SE’, ‘SE L Executive’ a ‘Laurin & Klement’ yr ystod. Rhaid esgyn i barthau’r SE L Executive cyn cael mordwyo lloeren ysywaeth: £24,640-£31,885. Ond daw ‘Smart Link’ gyda’r SE (£21,610-£25,255) sy’n cydweithio â MirrorLink, Apple Car Play ac Android Auto all hefyd gynnig mordwyo trwy app ffon fudol. Sgrin 8” dasfwrdd yr SE sy’n gyfrwng (radio hefyd) megis y modelau drytach.

Daw’r adnoddau cyfathrebu/cyswllt a gwybodaeth/diddanu disgwyledig gyda phob un (Bluetooth ac ati) ynghyd â WiFi yn yr SE L Executive ac L&K. Mae cymorth parcio (ôl yn unig) ar yr SE tra llidiart ôl trydan a dyfais addasu ymateb y car ddaw gyda’r SE L Executive. Serch atyniadau (cysur a chyfarpar) yr L&K, modelau rhatach na £30,000 fydd yn denu. Y dewis amlwg o hyd yw’r Ystâd 2.0 TDI 150 a 6-ger nerth braich. Ond mae dau beiriant petrol tra-chyhyrog hefyd.

Peiriant Golf GTi VW yn wreiddiol, daeth y 2.0 TSI 220 ar gael gyda’r SE L Exec neu L&K (os DSG-awto’r unig gyfrwng yma). Felly hefyd y 2.0 TSI 280 grymusaf er ychwanegu 4x4: pen-peiriant Scirocco R (gyrriant blaen) VW yw hwn.

Cydnerth ond darbodus yw’r TSI 280 a mwy nag atebol y car yntau (caffaeliad y 4x4). Cysur y flaenoriaeth, ‘d oes ganddo mo osgo manwl-ddanteithiol y GTi ond sicr ei droedle ydyw. Diymhongar (dim bathodyn “vRS”) ond ymhlith goreuon y canol-uwch gwerinol os nad deinamaidd gystal â Mondeo Ford neu’r Mazda6.

Mwy amlwg-gaboledig yw’r Passat neu V60 Volvo hwythau’n ymylu at grachach y dosbarth canol. Agosau at y cyfryw grachach wna pris gofyn y Skoda hwn ond o daro bargen glos, wele gar o sylwedd, mwy lawer o faint, enillodd gryn sylw.

Manylion: SE L Executive 2.0 TSI 280 DSG 4x4; £31,445-£32,745; 155mya; 0-62mya 5.8 eiliad; 39.8myg swyddogol; 31 ar brawf (Gwibiadur); CO2 160-164 g/km; Tr.Ff.’G’/£185; Yswiriant 27E; Uchafbwys ôl-gerbyd a breciau 2,200kg.

Rhannu |