Moduro

RSS Icon
07 Mehefin 2016

Clubman MINI: Ystâd fechan, heini, egniol a ffasiynol

CAMP BMW wrth atgyfodi’r MINI yn 2001 fu ail-greu doniau deinamaidd y gwreiddiol gyda char uwch-fini ei faint a drytach. Apeliodd at “yr ifanc” – nid car teulu bychan rhad mwyach. Daeth ail epil y llinach gyfoes yn 2006 a’r Clubman cyntaf yn 2007.

“Traveller” (Morris Mini Traveller gynt) fu’r bwriad ond gan eraill oedd yr hawl i’r enw a dyna droi at ‘Clubman’. Ymgais i adnewyddu’r Mini oedd y Clubman cyntaf (1969-1982).

Hirach oedd fersiwn ystâd hwnnw ar sail y fen fasnachol fechan ac arddel drysau cefn hwnnw wnaed megis y Traveller (“Countryman” os dan fathodyn Austin).

Gyda Clubman 2007 daeth corff hirach fymryn eto ond mwy o le ar gyfer trigolion y sedd ôl. Go fychan y ‘gist’ o hyd ond, o blygu’r sedd gefn wele ofod eitha’ sgwar-helaeth.

Arddel drysau fen-debyg y tu ôl wnaed hefyd: adlais “amlwg-retro” braidd ond agor yn ddefnyddiol lydan a sychwr-olchwr ar gyfer ffenest y naill a’r llall.

Ychwanegwyd un sgil-ddrws ar yr ochr dde (ochr y gyrrwr yma) – hanner maint un cyffredin gan agor allan o’r tu ôl yn yr hen ddull. Tri drws oedd patrwm sylfaenol y car a buasai’n rhaid symud y tanc petrol os am osod drws tebyg ar yr ochr arall.

Daeth y MINI diweddaraf yn 2014 a’r Clubman newydd y llynedd: 4 drws cyfarwydd bellach ond deu-ddrws ôl megis cynt. Teulu estynedig sydd erbyn heddiw: Hatch 3/5 drws; Convertible (to clwt agored); Clubman; Paceman (coupe-debyg 3 drws); Countryman (5 drws mwy ei faint SUV-debyg). Adnewyddwyd pob un heblaw am y Countryman. Daw olynydd hwnnw yn yr Hydref: 5 drws canol-is ei faint.

Nid atgyfodi’r MINI’n unig wnaed ond hefyd y cysylltiad â John Cooper greodd Mini Cooper a Cooper S chwedlonol y 60au. Modelau: ‘One’; ‘Cooper’; ‘Cooper S’; ‘John Cooper Works’ (trachwim). Peiriannau: 1.2, 1.5 a 2.0 litr petrol; 1.5 a 2.0 litr Diesel.

Daeth gyrriant ‘ALL4’ (4x4) ar gael gyda’r Clubman, Countryman a Paceman hefyd.
‘D oes dim ‘Clubman One’ yma – Cooper 1.5, Cooper S 2.0/4x4 (petrol); Cooper 1.5D, Cooper 2.0SD/4x4 (Diesel) yw’r arlwy. Dim fersiwn John Cooper Works ychwaith. Blwch 6-ger nerth braich (neu awtomatig) sy’n gyfrwng ond 8-ger awto newydd gyda’r 2.0 Cooper S/SD. Clubman Cooper S (egniol) 8-ger awto fu ar brawf.

Hwy a lletach na’i ragflaenydd (a’r MINI 3/5-drws cyfredol), mentro i diriogaeth y canol-is wna’r Clubman newydd. Gwnaed hyn gyda’r Countryman eisoes ond ystâd yw hwn rhagor rhywbeth ‘SUV-aidd’.

Tipyn mwy o le i deithwyr a’u trugareddau ond, er ei hyd a lled, is ydyw na hatch cyffredin. Rhwng hyn a’i olwg ac osgo amlwg “FINI-aidd” dal i arddel delwedd gynnil a heini wna hwn.

Dyna yw hi wrth y llyw hefyd. Deialau mawr crwn adnabyddus sydd ger bron y gyrrwr ond cartref i fap a dyfais mordwyo lloeren hynod hawdd a hwylus yw’r un canol erbyn hyn.

Daw digon o rym o grombil y peiriannau 2.0 litr (petrol 192mn neu Diesel 190) a hynod gyhyrog yw ymateb uned betrol y Cooper S hyd yn oed a’r awto-flwch 8ger.
Caffaeliad fuasai gyrriant 4x4 wrth gwrs a mwy o hwyl y 6ger nerth braich (rhatach £1,715 hefyd).

Ond eithriadol sicr ei droedle o hyd yw’r Clubman a ‘MINI-gywir’ y llywio, cornelu a chorff-reolaeth. Coeth yw cynllun y siasi a’i grogiant ôl annibynol aml-gymalog. Safon y reid yn well dipyn na chynt (sail olwyn hwy yn hybu hynny).

Wedi dweud hyn oll, drud yw prisiau gofyn y Clubman: £19,965-£27,390. Cooper S: £22,755 (£24,285 yr ‘ALL4’). Cynwys mordwyo lloeren wna’r Cooper S ond rhaid talu £655 am gymorth parcio clyweledol blaen/ôl, £270 am wresogi seddi blaen, £40 am addasu uchder sedd y teithiwr blaen, e.e. Egniol. heini a ‘ffasiynol’ yw’r ystad fechan hon ond mae’n cystadlu a blaenoriaid y canol–is: A3 Audi; Golf VW; Cyfres 1 BMW; V40 Volvo ac ati. ‘D oes dim edliw “cymeriad” unigryw y Clubman serch hynny.

Manylion: 142mya; 0-62mya 7.2 eiliad; 47.9myg swyddogol; 35myg ar brawf (8ger awtomatig); CO2 137g/km; Tr.Ff.’E’/£130; Tr.Ff.’E’/£130; Grŵp Yswiriant 22.

Rhannu |