Moduro

RSS Icon
03 Mehefin 2011
Huw Thomas

Mwy gwaraidd bellach

WFFTIO hunan-gyfiawnder gwleidyddol yr Efengyl Werdd wnaeth Mitsubishi wrth ddenu’r sawl oedd a’i fryd ar gerbyd hamdden 4x4 at y pick-up. Addasu cerbyd cydnerth hygred allai wneud ‘tyrn o waith’ fu’r gyfrinach. ‘Warrior’ ac ‘Animal’ yr enwau cyntaf, ‘Warrior’ a ‘Barbarian’ erbyn hyn – 80% y gwerthiant bellach. Pen-cerbyd y garfan ers tro, daeth yr L200 ym 1996 a’i epil diweddaraf yn 2006. Pen-llanw’r pick-up oedd 2006 a 40,103 yn gyfanswm. Erbyn 2009, 18,870. Uchaf-bwynt yr L200 fu 2003: 45.5% y farchnad; 23.9% yn 2009. Cynydd eleni: gw.isod.


Y Cerbyd

Erbyn hyn, ac ar ôl diwygio 2010, go wahanaol yw’r modelau ymarferol (4Work a 4Life) a’r Warrior/Barbarian. Gyrriant 4x4 oll, “Easy Select” yw enw’r cwmni ar drefn y 4Work/4Life sy’n arddel clo ar ddifferyn yr echel ol – gyrriant ôl ar y ffordd fawr, 4x4 o droi oddi arno. Addasu 4x4 y Shogun wna “Super Select” y Warrior a Barbarian gan ychwanegu glud-gyplydd canol sy’n caniatau 4x4 parhaol – caffaeliad wrth dynnu olgerbyd/carafan neu ddygymod â thywydd mawr.

Grymusach hefyd yw Diesel 2.5 litr y ddau flaenor: 175 marchnerth (13m/n rhagor na chynt) tra 134m/n (dim newid) yw hi gyda’r ddau arall. Pum ger nerth braich (caffaeliad fuasai 6ed) neu 5 awtomatig – hwnnw’n cynnig dull ‘Sport’ sy’n gadael i’r gyrrwr elwa’n well ar rym a thorch y peiriant. Daw sadio trydanegol hefyd gyda’r Super Select sy’n gaffaeliad pellach – go chwim yw hwn erbyn hyn.

Bu tipyn o ymbincio ar olwg yr L200, olwynion aloi 17” y peth amlycaf. Bu mwy o waith ar y caban gyda gwell dodrefnu sy’n fwy cysurus. Daw mordwyo-lloeren sy’n cynwys camera ar gefn y cerbyd (cymorth gweledol, os nad clywedol, wrth yrru tua’n ôl) – hyn ar ben nawsaerydd mwy cyflawn y Warrior. Caban dwbl (4 drws, 5 sedd) yw’r cyfryw - cabanau sengl neu ‘Club’ 2+2 ar gael gyda’r gweddill.


Manylion

Awto.5 ger: 2.5l 4sil.tyrbo; 109mya (111-5 nerth braich); 0-62mya 13 eiliad (12.1-5n/b); 30.1myg swyddogol (34-5n/b); 25/26myg ar brawf (amcan/awgrym o 30 yn bosib); CO2 248g/km (218-5n/b); Tr. Ff.’L’/£445 (‘K’/£260-5n/b); Yswiriant 10E (9E-5n/b); Uchafbwys llwyth 1,045kg; Olgerbyd 2,700kg (gyda breciau).


Y Gystadleuaeth

Navara Nissan, HiLux Toyota, Ranger Ford a Rodeo Isuzu sydd amlycaf ond, yn ôl SMMT Llundain, Mitsubishi oedd ar y blaen eto’r llynedd trwy gofrestru 6,418. Dros bedwar mis cyntaf eleni, serch hynny, bwrodd Nissan heibio iddo (Toyota, Isuzu a Ford: 3, 4, 5). Herio’r cyfan wna Amorok VW – mwy am hwnnw yn y fan.


Dyfarniad

Cysurus a llyfn iawn i ‘dryc ysgafn’, go egniol yw’r L200 ac fe ellir ei yrru’n eithaf brwd. Go waraidd yw’r “Barbarian” hwn ond blaenllaw o hyd ei gymwysterau.

Rhannu |