Moduro

RSS Icon
26 Ebrill 2016

Zafira Tourer Vauxhall: cludydd hyblyg-ymarferol

WRTH lansio’r Zafira ym 1999 Opel-Vauxhall fu’r cyntaf i ymateb i Scenic 1996 – Renault arloesodd y cludydd cynnil Ewropiaidd. Seiliedig ar y Megane canol-is, buan ddaeth hwnnw’n gar teulu cyfarwydd. Gwnaed mwy nag ymateb: y Zafira oedd y cyntaf o’i fath a saith sedd (5+2) megis cerbydau ‘MPV’ mwy eu maint.

Ateb Renault oedd cynnig fersiwn ychwanegol sef Grand Scenic 2004 – hwy a 5+2. Felly fu hi gyda Ford (C-Max/Grand C-Max) a Peugeot (3008 a 5008), e.e. Megis Vauxhall, cadw at un cerbyd 7 sedd wnaeth Touran VW a’r Mazda5.

Erbyn hyn wrth gwrs yr ‘SUV’ sy’n prysur “ymdeyrnasu” dros bob carfan o’r bron. Allweddol iddo yntau fu mabwysiadu caban hyblyg hylaw yr MPV (‘Multi Purpose Vehicle’) a dyna fu hi gyda’r ceir pontio SUV-debyg bondigrybwyll ddaeth wedyn.

Ni fydd olynydd i’r Mazda5, gyda llaw. Yn ôl y cwmni am yr CX-3 ac CX-5 SUV-debyg fydd y gofyn a mudo tua’r math hwn o gar fydd cynulleidfa’r cludydd. Go SUV-debyg ei olwg yw olynydd y Scenic (ddangoswyd yn Sioe Genefa fis Mawrth; yma yn y Gaeaf) a chynnig gyrriant 4x4, e.e., wna’r BMW 2 Tourer.

Eistedd rhwng y canol-is (Astra) a chanol-uwch (Insignia) wna’r Zafira Tourer ac mae’n gar mwy na’i ragflaenydd. Os bydd dyfodol i gludyddion, un carfan neu “gorlan” ganolig ei maint (a chanol-uwch) fydd hi. Ers ei lansio (Sioe Frankfurt 2011; yma 2012) buddsoddwyd ynddo – peiriannu newydd petrol a Diesel, e.e.

Daeth Astra newydd eleni a disgwylir olynydd i’r Insignia yn 2017. Gan mai unigryw i raddau yw llwyfan y Zafira, diwygio/adnewyddu welir ar gyfer 2017 mae’n debyg yn hytrach na cherbyd cwbl newydd. Mwy am hynny cyn bo hir.

Trawst-echel ôl (er un leolwyd yn sicrach a chyswllt Watts) sydd ganddo rhagor crogiant annibynol (aml-gymalog) yr Insignia. Llai na hollol lyfn yw’r reid dros frith-frychau ffyrdd heddiw. Nid anghysurus serch hynny ac atebol ddigon weddill y doniau deinamaidd: llywio, cornelu a chorff reolaeth. Sicr ei droedle ydyw.

Design, Exclusiv, Energy, Sri, SE ac Elite yr ystod: £17,815-£27,320. Fersiynau 120/140mn ar yr 1.4i Tyrbo petrol sydd ar gael yma bellach a dau fodur Diesel: 1.6 CDTi 136 neu 2.0 CDTi 170. Blwch 6 ger nerth braich neu 6 awto. Er cyfoes yr uned betrol, Diesel y dewis amlwg a thynnu’n gryf wna’r 2.0 CDTi 170 gyda’r blwch chwe ger nerth braich yn gyfrwng. SE 2.0 CDTi 170 (£25,450) fu ar brawf.

Hyblyg-ymarferol oddi mewn: dwy sedd gefn sy’n plygu’n fflat a rhes ganol tair rhan sy’n plygu 35/30/35. Go hael yw arlwy’r SE: Awto-Nawsaerydd; Adnoddau Cyfathrebu/Adloniant disgwyleddig; sbid-reolydd; olwynion aloi 17”; goleuadau blaen atodol; cymorth parcio clyweledol blaen/ôl; ffenestri a drychau (wresogwyd) trydan; rheseli to “arian” ac ati. Ond swits drydan sydd rhagor brec llaw go iawn a £1,200 pellach yw pris Mordwyo Lloeren (er cyswllt ‘Intellilink’ amgenach i’w ganlyn). Serch hynny, cludydd cyfoes mwy nag atebol yw’r Zafira diweddaraf.

Manylion: 129mya; 0-62mya 9.1 eiliad; 57.7myg swyddogol; 45/46 (Gwibiadur) ar brawf; CO2-129g/km-Tr.Ff.’D’/£110; Yswiriant 21E; Uchafbwys ol-gerbyd a breciau 1,650kg.

Rhannu |