Moduro

RSS Icon
19 Ebrill 2016
Gan HUW THOMAS

Korando Sports SsangYong: gwneud argraff a denu cynulleidfa

“Dwy Ddraig” yw ystyr SsangYong. Yn ôl chwedl gwlad, bu’n rhaid i’r ddwy aros am fileniwm cyn cael hedfan i’r nefoedd gan nad oedd un yn barod i fynd heb y llall.

Sefydlwyd y busnes gwreiddiol ym 1939, dechrau adeiladu tryciau a bysiau ym 1954 a’r Jeep wedyn ar gyfer byddin UDA ym 1964. Prynwyd cwmni Keohwa ym 1986 gan elwa ymhellach ar arbenigedd 4x4 hwnnw. Daeth y ‘Ddwy Ddraig’ yn enw ym 1988.

Prynodd Daimler-Benz gyfran o stoc y cwmni yn y 90au ond gydag argyfwng cyllid Asia ddiwedd y ganrif cafodd Grwp Daewoo feddiant arno. Hoe fer fu hi serch hynny cyn i Daewoo yntau fethu gan adael SsangYong yn annibynol-amddifad eto yn 2000.

Y cam nesaf fu cytundeb a SAIC (Shanghai Automotive Industry Corp) yn 2003 cyn dod yn is-gwmni iddo yn 2004. Erbyn 2008 ysywaeth wele gais am warchodaeth gyfreithiol dros asedau Ssang-Yon ac ymadawiad SAIC. Wedi cyfnod dan reolwr benodwyd gan y llys, fe’i prynwyd yn 2011 gan Grŵp Mahindra a Mahindra, India.

Adeiladu’r Jeep dan drwydded fu dechrau gyrfa gynhyrchu Mahindra ym 1947 ac fe dyfodd yn gorfforaeth enfawr: ceir a cherbydau masnachol; cerbydau amaethyddol; awyrofod; cychod; technoleg; cyllid; dur; amddiffyn; eiddo; ynni a gwestai/arlwyo. Ehangu strategol yw’r bwriad gyda SsangYong: ceir a cherbydau ysgafn yn neilltuol.

Eisoes (2010) lansiodd SsangYong y Korando: car pontio SUV-debyg cynnil ei faint sy’n arddel corff unedol. Daeth y Tivoli (llai eto) y llynedd. Gyrriant blaen a 4x4 atodol eu patrwm, gwahanol ydynt i’r Actyon (nad yw ar gael yma) a’r Rexton sy’n gerbydau 4x4 deu-ddiben mwy sylweddol gyrriant ol/4x4 a siasi ar wahan. Serch tebygrwydd yr enw, fersiwn pick-up ar yr Actyon/Rexton nid y Korando yw’r Korando Sports.

Cydnaws a gorchwylion pick-up yw perthyn i’r cyfryw mwy traddodiadol. Dyna yw hi’n fydeang heblaw am y bychain sy’n seiliedig ar feniau ysgafn. Rhesymau: gwytnwch/hir-hoedledd; cludo llwyth trwm unau’r tu cefn neu wrth dynnu ôl-gerbyd.

O’r herwydd, trawst-echel ol a dolennau dur hynafol yn grogiant fu’n “de rigeur”. Blaenoriaid y garfan yma: Mitsubishi (L200), Ford (Ranger), Nissan (Navara), Isuzu (D-Max), Toyota (Hi-Lux) a Volkswagen (Amarok). Dim ond Navara newydd Nissan (o blith yr uchod) dorrodd ar yr hyn a fu gyda chrogiant ôl aml-gymalog annibynnol.

Dull Siapan a Korea (a Tseina erbyn hyn) ar y dechrau fu allforio cerbydau cyntefig (os dibynadwy) ond rhad a hael eu harlwy (offer a chyfarpar). Yn groes i hyn ennill y blaen ar Nissan wnaeth SsangYong gyda chrogiant ôl annibynnol y Korando Sports.

Prynwyr preifat (fwy fwy) sy’n gynulleidfa bellach ac, ar y dechrau, llai na thunell uchafbwys y llwyth. Erbyn hyn, tunnel (a mwy fymryn) yw hi gan ddianc rhag treth ar werth os at ddibenion masnachol. Parthed ôl-gerbyd (a breciau), 2.7 tunnell yw hi – nid cystal â’r 3t disgwyledig bellach neu, e.e., 3.5t (gyda’r gorau) D-Max Isuzu.

SX ac EX y modelau (£14,995-£18,495 cyn TAW), gyrriant 4x4 (rhan amser) y naill a’r llall, 6ger nerth braich neu awto sy’n gyfrwng ac mae gers isel/uchel wrth gwrs ar gyffer y diarffordd. Eithaf hael yw’r arlwy: olwynion aloi 16” (SX) neu 18” (EX) a daw gwresogi seddi blaen, addasu sedd yrru trydan a chymorth parcio ôl, e.e., gyda’r EX.

Serch hynny (a’i grogiant cyfoes) nid yw ymddygiad y SsangYong mor gywrain â’r Mitsubishi neu VW, e.e., nac ychwaith ddiwyg y caban. Unioni’r cam i raddau pell wna’r prisiau: drytach fymryn na Great Wall (Tseina); tipyn rhatach na’r blaenoriaid uchod. Yn ôl ystadegau 2015 yr SMMT, ‘Rhif 3’ y garfan oedd y Korando Sports yma – dim ond ar yr L200 a Ranger fu mwy o fynd. Gwnaeth argraff a denu cynulleidfa.

Manylion: Diesel 2.0 e-XDi 4 silindr 155mn; 6ger NB/6awto (ar brawf); 106mya; 35.3 myg (swyddogol); 27 ar brawf (27/28 Gwibiadur); CO2 212g/km; Tr.Ff.£230; Gwarant 5 mlynedd (heb gyfyngu milltiroedd); Yswiriant 6E; Mordwyo Lloeren £999.

Rhannu |