Moduro

RSS Icon
11 Ebrill 2016
Gan HUW THOMAS

Atgyfodi llinach ceir campau hygred

Dangoswyd yr F-Type yn Sioe Paris 2012 a daeth ar gael yn ystod 2013. ‘Roadster’ to clwt agored oedd hwnnw ond erbyn diwedd 2013 (ar gyfer 2014) daeth Coupe to caled.

Y llynedd ychwanegwyd dewis o flwch 6ger nerth braich (8ger awto fel arall) a gyrriant 4x4 hefyd rhagor patrwm gyrriant ôl clasurol y car sylfaenol.

Ystod y modelau erbyn hyn: F-Type 3.0 litr V6 silindr 340mn; F-Type S 3.0 V6 380; F-Type 5.0 V8 R 550; F-Type 5.0 V8 SVR 575 4x4 sef y pencar (200mya; 0-60mya 3.5eiliad; £110,000 Coupe/£115,485 To Clwt). Arddel uwch-wefrwr wna’r cyfryw oll. Dim ond gyda’r ddwy uned V6 a gyrriant ôl ddaw’r dewis o flwch 6ger nerth braich.

F-Type S Coupe 3.0 V6 380 (£60,775) fu ar brawf – model sydd un cam yn uwch na’r 340 “rhataf” (£51,775). Gyrriant ôl a 6ger nerth braich felly. Seiliedig ar adeiladwaith aliwminiwm yr XK ddaeth i ben yn 2014 ydyw – ond fe’i talfyrrwyd. Wele gaban dwy sedd ddigyfaddawd rhagor “2+2” yr XK felly. Car mwy cynnil ac unswydd.

Bwriadol hefyd fu dewis yr enw. Creu dilyniant wnaed: E-Type eiconaidd 1961-1975 yr ysbrydoliaeth (a ‘chynsail’) i’r F-Type. Hyn gan ymneilltuo rhag XJS (GT-teithiol) 1975, XK8 1996 ac XK 2006-2014. Cyn yr E-Type, rhyfeddodau prin oedd yr C a D-Type.

Fersiwn rasio yr XK 120 (1948-1954) oedd y C-Type (1951-1953), esblygiad arno y D-Type (1954-1956). Ceir oes aur buddugoliaethau rasio Jaguar.

“Competition” oedd ystyr “C” yr C-Type (dim ‘A’ neu ‘B’ cyn hynny). Ar y cyd a’r D-Type daeth XK 140 masnachol 1954-1957 ac XK 150 (1957-1961) gan ddatblygu ymhellach beiriannau ‘XK’ 6 silindr unionsyth 3.4 a 3.8 chwedlonol y cwmni. Seren syfrdanol Sioe Genefa 1961 oedd E-Type Jaguar – car “allai gyrraedd 150mya” ar gael i’r cyhoedd am brisiau rhatach lawer nag ‘exotica’ eraill Lloegr neu’r Eidal.

Tyfodd peiriant yr E-Type i 4.2 litr ym 1964 cyn ei ddisodli gan uned newydd 5.4 litr V12 ym 1971. Braenaru’r tir wnaeth y Gyfres III honno ar gyfer XJS gwahanol iawn 1975 – coupe deu-ddrws ar lwyfan XJ6/XJ12 sedan y cyfnod addaswyd ar ei gyfer.

Gyda diflaniad yr XK, rhaid i’r F-Type gystadlu â Boxster (to clwt), Cayman (coupe) Porsche ar y naill law a’r 911 mwy (2+2) a drytach-amgenach. A siarad yn fras ac yn fuan, drytach yw’r Jaguar na fersiynau rhataf y Boxster/Cayman tra rhatach (dipyn), e.e., yw’r F-Type S 3.0 V6 380 na’r 911 cyfatebol. Mae gan Mercedes, BMW ac Alfa Romeo fodelau sy’n cystadlu – Mercedes hwyrach â’r arlwy rymusaf-gyflawn agosaf.

Serch hynny, arwyddocaol yw gweld mor agos y daeth Jaguar a’r F-Type at flaenor carfan mor ragorol. Cyhyrog yw ymateb yr F-Type tra disglair ei ddoniau deiamaidd: llywio siarp-fanwl; cornelu a chorff-reolaeth cyson-sicr. Car campau o arddeliad.

Ymarefol hefyd, hwylus yw’r hatch a hael ei faint y gist. Mae digon o le i yrrwr go dal os cyfyng braidd a llai nag egonomaidd-rwydd ambell weithred. Nid yw’r newid ger mor slic-lyfn a hynny a go drwm (a siarp) y gafael troed – blinedig yw ymlwybro drwy dagfeydd trefol. Haws na fuasai hi wrth lyw E-Type y 60au serch hynny! Golygus a gosgeiddig unau’n sefyll neu ar garlam, ‘d oes ganddo mo hud-a-lledrith aesthetaidd hwnnw ond campawith yw’r F-Type sy’n atgyfodi llinach ceir campau hygred Jaguar.

Manylion: 171mya; 0-62mya 5.5 eiliad; 28.8myg swyddogol; 24 ar brawf; 27 go ddarbodus yn ol y Gwibiadur; 234g/km CO2; Tr.Ff.’L’/£500; Grwp Yswiriant 47.

Rhannu |