Moduro

RSS Icon
26 Mai 2011
Huw Thomas

Gwefr os nad gwefreiddiol

DULL croesryw petrol-trydan Honda fu cyfuno’r uned drydan gyda’r gyrriant – IMA (Integrated Motor Assist). “Cymorth hawdd ei gael” wrth gychwyn o’r sefyll, cyflymu ac yna ysgafnhau’r baich ar y peiriant a hwnnw’n mynd wrth ei bwysau.

Cyfosod trydan a phetrol fu trefn Toyota (ac eraill – Jazz Ebrill, Civic newydd Rhagfyr Honda hefyd) gan neilltuo mymryn o yrru trydanol cyn i’r peiriant danio. Gyda’r naill a’r llall, adfywio’r batri wna’r peiriant (ac ad-gipio egni brecio) wrth iddo yntau ymsefydlu. Di-enaid a chlinigol yn aml fu’r ceir hyn, nid felly’r CR-Z.


Y Car

Fersiwn ar Insight Honda lansiwyd yn Sioe Detroit 2009 yw CR-Z 2010 Gyriant blaen cyfarwydd y patrwm a bendith yr IMA (rhatach hefyd) yw blwch 6 ger nerth braich rhagor awto CVT addasu di-fwlch. Gyda’r Insight diweddaraf (1.3 litr) serch hynny, awto.CVT yn unig yw hi ond daw blwch 6 ger N/B hefyd ar yr CR-Z.

Ychwanegu 14 marchnerth at 114m/n y peiriant 1.5 litr wna’r uned drydan – tipyn grymusach na 87m/n yr Insight. Coupe diamwys, isel ei osgo yw’r CR-Z a safle yrru gyffelyb ond cysurus a digon o le ar gyfer dau oedolyn. “2+2” ydyw ond prin y lle tu ôl ar gyfer neb ond baban neu gi. Hatch ydyw ac fe ellir plygu’r seddi (nid yn fflat ysywaeth) ond mae hollt y ffenest ôl yn amharu ar yr olwg drwy’r drych.

Go elfennol yw’r siasi ond diwygiwyd y crogiant a’r sadwyr er budd cornelu a dal y ffordd. Trydan yw’r llywio a marwaidd ydyw os manwl. O daro’r botwm ‘Sport’ daw ymateb mwy egnïol i’r sbardun trwy dynnu ar fwy o dorch ‘trydanol’ ac ychwanegu dogn o drymdra i’r llywio – hwnnw’n fwy cydnaws-siarp o’r herwydd.

Serch trawst-echel ôl ddigon elfennol, sad-gyson ond digon cysurus yw ansawdd reid y car. Mae llu wybodaeth ar y dasfwrdd i ysgogi gyrru ‘Eco’ neu ‘Normal’, dyfais ddiffodd-danio er arbed petrol – gellir gyrru’n “hamddenol” hefyd.


Manylion

CR-Z 6 ger N/B: S, Sport a GT;124mya; 0-62mya 9.9 eiliad; 56.4myg swyddogol; 44/45myg ar brawf; 117g/km-‘C’-Tr.Ff.£0; £17,695-£20,820; Yswiriant 16/17.


Y Gystadleuaeth

Dim yn uniongyrchol serch Scirocco VW, Cyfres1 BMW, C30 Volvo petrol/Diesel.


Dyfarniad

Arddel tipyn o wefr wna’r CR-Z os nad gwefreiddio. Ernes o’r hyn a ddaw ydyw ac os am gar glân (rhagor CO2 yn unig, e.e.) gall yr Honda heini hwn apelio.

Rhannu |