Moduro

RSS Icon
14 Mawrth 2016

CR-V Honda: SUV cyfarwydd ac ymarferol

“UN o geir SUV mwyaf poblogaidd y byd” yn ôl Honda a go deg yr honiad gan mor gyfarwydd yw’r CR-V ar ffyrdd Ewrop, Gogledd America a llawer gwlad Ddwyreiniol.

Gwerthwyd rhagor na 5m ers y dechrau ym 1995 a rhagor na 750,000 yn Ewrop meddid ers ei lansio yma ym 1997. Ffatri Swindon yn Lloegr sy’n ei adeiladu.

Diwygwyd car 1995 yn 2002 a thrachefn yn 2004 – gan gynnig Diesel (2.2litr, 4silindr ac allweddol i Ewrop) o’r diwedd. 

Daeth olynydd hwnnw yn 2006 (gyda dewis ychwanegol o beiriant petrol 2.4 litr ar gyfer UDA).  

Fe’i diwygwyd yntau yn 2010 ac adnewyddu’r peiriant Diesel. 

Dangoswyd y CR-V cyfredol yn Sioe Detroit 2012 a daeth Diesel newydd 1.6 litr ar ei gyfer yn 2013.  Bu’r diwygio diweddaraf y llynedd.
S, SE, SR ac EX yw’r modelau: £22,770-£34,710. Petrol 2.0 i-VTEC 155mn a Diesel 1.6 i-DTEC 120 neu 160 y peiriannau ar gynnig yma. 

Blwch 6ger nerth braich sy’n gyfrwng neu (1.6 i-DTEC 160 gyrriant 4x4 yn unig) auto-flwch 9ger newydd a wele ddiweddaru hefyd ar y Diesel 160 – gwefrwr tyrbo deu-ystod grymusach bellach.

Diesel gyrriant 4x4 (serch rhan-amser) y dewis amlwg ac, os hynny, £28,060 (SE) y rhataf.  

Dim ond gyda’r 9ger awto ddaw dyfais sy’n ffrwyno’r car os ar ei waered ond braf cael brec llaw go iawn (rhagor swits drydan) sy’n gydnaws gydfynd a gers nerth braich o droi oddi ar y tarmac a/neu dan dywydd mawr a/neu wrth dynnu ol-gerbyd.

Go elfennol yw’r ddarpariaeth 4x4; dim clo 50-50 (blaen-ôl) nac addasu ymateb (ar-ffordd egniol neu ‘eira’, e.e.). Ar amrantiad yw deffro’r echel ôl ac amrywio’r torch rhwng y ddwy echel wna’r ddyfais ond ‘cefnogi’ wna’r gyrriant ôl atodol ac ar gyfer mentro achlysurol oddi ar y tarmac y’i bwriadwyd.

Gwell gydag nac hebddo, serch hynny: dim chwildroi olwynion blaen o yrru ymaith ymhlith y manteison deinamaidd.

Gyrriant blaen yw’r S tra daw goleuadau blaen atodol, cymorth parcio clyweledol (blaen ac ôl), camera gyrru tua’n ôl ac ati gyda’r SE: £28,060*.

“Penawdau’r SR”: olwynion 18” (aloi eto), cysgod wydr, rheseli to, gwresogi seddi blaen, addasu uchder sedd y teithiwr blaen, golchi goleuadau blaen a mordwyo lloeren (allweddol bellach): £31,175*. 

Ychwanegu to gwydr, sedd yrru/llidiart ôl drydanol (defnyddiol) a ‘moethusrwydd’ pellach wna’r EX: £33,060*. (* Diesel 4x4 6ger NB. SR sy’n apelio.)

Blaenoriaid y garfan yw Qashqai Nissan/Kadjar Renault (chwaer-geir hynod atebol a hydrin), Yeti Skoda, X1 BMW, CX-5 Mazda a Sportage Kia.

Gall yr Honda gymharu â’r cyfryw (car pontio SUV-debyg ydyw rhagor SUV cyflawn) ond bydd angen caboli pellach cyn bo hir. 

Er hynny, amryddawn ac ymarferol yw caban yr CR-V (sedd ôl/llwyth-ofod) a safonol ei beirianwaith. Cymharol gryf ei werth yn ail-law hefyd.

Manylion: CR-V 1.6 i-DTEC 160 EX 6ger NB; 125mya; 0-62mya 9.7 eiliad; 55.4myg (swyddogol); 40myg (gwibiadur) ar brawf; CO2 133g’km; Tr.Ff.’E’/£130; Yswiriant 27; Uchafbwys ol-gerbyd a breciau 2,000kg.

Rhannu |