Moduro
Kadjar Renault – Diesel darbodus a gyrriant 4x4 atodol
ER mai achub Nissan rhag methiant wnaeth Renault ym 1999, Nissan fu’n ‘gymorth mewn cyfyngder’ i Renault yn ddiweddar. “Cynghrair” fu hi yn hytrach na cheisio uno dau gwmni a dau ‘ddiwylliant’ mor wahanol yn ffurfiol. Doeth fu hynny – aflwyddianus fu mwy nag un ymgais fel arall. Epil diweddara’r bartneriaeth hon yw Kadjar Renault.
Hwyrfrydig fu Ffrainc i gydnabod grym a gafael yr SUV. Renault arloesodd y cludydd cynnil (Scenic 1996; fersiwn ar y Megane canol-is) a dal i gloddio’r wythien honno wnaed tra arloesi’r car pontio SUV-debyg wnaeth Nissan a’r Qashqai cyntaf yn 2007.
Cynnig 4x4 ar rai fersiynau wnaeth hwnnw er hybu delwedd fwy hygred. Ysgubol-lwyddianus ydoedd a daeth y diweddaraf yn 2014 gan ymestyn yr arlwy trwy gynnwys yr X-Trail newydd (SUV mwy unswydd gynt) yn fersiwn hwy arno a lle i saith (5+2).
Chwaer-gar i Qashqai Nissan felly yw’r Kadjar ond Palencia, Sbaen yw ei gartref yn hytrach na Sunderland. (Ffatri yn Tseina hefyd.) Er newydd bob elfen weledol o’r bron, llwyfan CMF (canol-is/canol-uwch) Renault-Nissan sy’n sylfaen a thebyg y dewis Diesel serch un uned betrol 1.2 litr: 1.6 grymusach ar gael gyda’r Nissan.
‘Expression’, ‘Dynamique’, ‘Dynamique S’ a ‘Signature’ yr ystod: £17,995-£26,295. Daw ‘Nav’ (Mordwyo Lloeren) i ganlyn pob un heblaw’r Expression rhataf. Petrol 1.2 TCe 130mn, dau Diesel (1.5 dCi 110; 1.6 dCi 130) a blwch 6 ger nerth braich yn gyfrwng. Awto deu-afael ar gael gyda’r dCi 110 (£1,200) a, phwysicach dipyn, gyrriant 4x4 gyda’r dCi 130 (£1,500 – pob model heblaw’r Expression rhataf eto).
Er llwyddianus ddigon, gyrriant blaen 4x2 yn unig yw’r Captur llai ond caffaeliad yw cael cynnig 4x4 – er mai 8% o’r gynulleidfa fydd yn ei ddewis meddid. Mwy yw cyfran 4x4 y Qashqai ond, megis hwnnw, tua 80% fydd yn mynd am y Diesel mae’n debyg.
Model am fodel, rhatach yw’r Kadjar a hael ei arlwy yw’r Dynamique S – Mordwyo Lloeren, cymorth parcio clyweledol blaen ac ôl, awto-nawsaeru deu-barth ac ati. A hwnnw, gyrriant blaen a’r 1.5 dCi 110 dan ei gwfl fydd dewis y mwyafrif yn ol y cwmni – 99g/km CO2 ac osgoi’r Dreth Ffordd os ar olwynion 17” (Dynamique; 103g/km a £20 os yr ‘S’ ag olwynion 19” ond gellir archebu’r 17” llai ar ei gyfer).
Signature Nav 1.6 dCi 130 4WD (gyrriant 4x4) fu ar brawf. Daw olwynion aloi “diemwnt-debyg” eu cynllun (er 19” eto), to haul gwydr-banoramaidd, goleuadau LED cyflawn, corff-baneli atodol (ar gyfer y ‘diarffordd’), dodrefnu mothusach (addasu uchder sedd teithiwr blaen, e.e.) ac awdio BOSE amgenach 8-llefarydd i’w ganlyn.
Gyrriant blaen yn sylfaenol o fynd wrth eich pwysau hyd yn oed o osod y botwm y 4x4 ar “Auto”. Mantais amlycaf y ddyfais yw atal yr olwynion blaen rhag chwildroi wrth daro’r sbardun a symud ymaith yn chwim (ffordd wlyb yn arbennig). Gellir dewis “2WD” (gyrriant blaen yn unig) neu “Lock” (clo 50-50 blaen-ol hyd at 25mya) os gwaethygu wna’r amgylchiadau. O dynnu ôl-gerbyd/carafan a than dywydd mawr neu o synhwyro slip, cynyddu wna cyfraniad yr echel ôl ar amrantiad yn “Auto”.
Atebol ddigon yw llywio, cornelu a safon reid y Kadjar – cysur fu’r flaenoriaeth a ‘d oes fawr o darfu ar ei osgo ar ffyrdd cyffredin. Nid yw mor siarp-fanwl a Kuga Ford na deinamaidd-gystal ag CX-5 Mazda dyweder. Heblaw am y Qashqai, ei elynion amlycaf eraill yw Sportage newydd Kia ac CR-V Honda.
Hylaw a hydrin i’w yrru, caboledig yw caban y Kadjar. Trwy fabwysiadu’r Qashqai creodd Renault gar pontio canol-is apelgar tra-chystadleuol ei bris gofyn (fersiynau drytach hael eu harlwy yn arbennig). Mae’n haeddu lle ymhlith y blaenoriaid uchod.
Manylion: Signature Nav 1.6 dCi 130 4WD; £26,295; 118mya; 0-62mya 10.5 eiliad; 57.6myg swyddogol; 41-43 ar brawf (Gwibiadur 44-47); CO2 129g/km-Tr.Ff.’D’/£110; Yswiriant 18E; Uchafbwys ol-gerbyd a breciau 1,800kg.