Moduro

RSS Icon
19 Mawrth 2015
Gan Huw Thomas

Dau Suzuki Newydd a Thrydydd yn yr Arfaeth

Cwmni mawr ceir bychain, 9ed o blith 10 mwyaf y byd yw Suzuki. Daeth 3.0m cerbyd o’i ffatrioedd y llynedd. India ei brif farchnad, Siapan yn ail a’r bwriad yw cyfanswm o 300,000 led led Ewrop erbyn 2017. Sefyll oddi isod i’r Swift (uwch-fini) wna’r Celerio tra char pontio SUV-debyg yw’r Vitara a llai (fymryn) na’r S-Cross canol-is.

Celerio: SZ3 £7,999; SZ4 £8,999

Prynwyr preifat yw trwch cynulleidfa Suzuki a ffynnu wna ‘Carfan A’ sef ceir trefol-ddinesig bach (rhagor na 200,000 yw cyfanswm y sector). Petrol y dewis amlycaf a ‘d oes dim Diesel ar gael gyda hwn. Cystadleuol iawn y PCP (prydlesu preifat) misol.

Lle i 5 (os nad gydol siwrnai faith) a hael y llwyth-ofod (gorau’r garfan meddid). Tri phen y bregeth farchnata yw caban eang, llwnc petrol ac arlwy offer a chyfarpar hael – nawsaeru; radio DAB; cyfathrebu Bluetooth ac olwynion aloi ar y rhataf, e.e. Modur 1.0L, 3sil 68mn sydd dan ei gwfl (96mya; 0-62mya 13.5 eiliad; 65.7myg swyddogol).

Er boddhaol ddigon ymddygiad y car gydol rhagolwg y wasg fynychwyd, cafwyd nam ar y brec troed gan eraill wedi hynny. O archwilio, ar ddyfais sy’n datgysylltu’r brec troed mewn damwain (er lliniaru niwed i goesau’r gyrrwr) meddid oedd y bai. Cafwyd gafael ar bob un ers Chwefror 1af i’w atgyweirio, daeth y Celerio ar gael eto ymhen y mis ac ennillodd y cwmni gryn ganmoliaeth am ymateb chwim, agored a thrylwyr.

Dianc rhag y dreth ffordd wna’r car eisoes (CO2 - 99g/km) ond daw peiriant Dualjet y mis nesaf (84g/km-78.4myg swyddogol) ynghyd a dyfais awtomeiddio blwch gers (5 yn unig eto ysywaeth) y peiriant cyffredin. Blaenoriaid y garfan: Up! Volkswagen; Panda FIAT (4x4 ar gael); Picanto Kia ac i10 Hyundai. Cystadlu os nad rhagori wna’r Suzuki, cynnig tipyn go lew am bris cymharol rad a go addawol y rhagolygon ail-law.

Vitara Newydd: £13,999-£21,299; SZ5 4x4 £19,799/£21,299 (Diesel)

Enw enwog, daeth y Vitara cyntaf ym 1988 a hwn yw 6ed epil y llinach. SZ4, SZ-T ac SZ5 yr ystod; 1.6L petrol neu DDiS Diesel (120mn naill a llall); ALLGRIP (4x4) gyda’r SZ5 yn unig am £1,800 pellach. Rheseli to arian, olwynion aloi 16”, radio DAB/CrDd, USB, nawsaeru awtomatig a chyfathrebu Bluetooth ymhlith arlwy’r SZ4 olwynion 17”, cyswllt ffon-effro a Mordwyo Lloeren yw penawdau’r SZ-T anelwyd at “fyd masnach”.

Pum ger nerth braich yn unig eto (hen bryd gwella ar hyn) gyda’r petrol (6 ger awto hefyd erbyn yr Haf) tra 6 ger nerth braich cydnaws ddaw i ganlyn y DDiS. Go foethus yw’r SZ5 a thrueni mai hwn yn unig sy’n cynnig 4x4 – gellid gwneud heb offer atodol yr SZ5 a’r SZ-T sy’n apelio parthed pris gofyn a ‘chynhwysion’. Mae pecynnau ‘trefol’ neu ‘anturus’ ar gael (£500) a lliw gwahanol ar gyfer y to gyda’r SZ-T/SZ5 (£800).

Talfyrru llwyfan yr S Cross (hwnnw’n cystadlu a Qashqai Nissan a’i debyg) wnaed ar gyfer y Vitara sy’n brwydro’r Juke llai a llu cyffelyb bellach. Ymddygiad hatch heini a hyblygrwydd SUV-debyg fu’r bwriad a dyna, i raddau pell, gyflawnodd Suzuki gyda’r car newydd. Cam pellach iddo o fyd yr SUV i diriogaeth cerbydau pontio SUV-debyg.

‘D oes dim gers isel/uchel ond, serch gyrriant blaen sylfaenol, hygred y patrwm 4x4: ‘Auto’ 4x4 ar ofyn ar amrantiad; ‘Sport’ sy’n tynnu ar y 4x4 ynghynt a hefyd fywiogi ymateb y car drwyddo; ‘Snow’ ar gyfer tir llithrig; ‘Lock’ sy’n cloi gyrriant blaen ac ol os gwaethygu fydd hi (a mae cymorth esgyn/disgyn ar lethrau). Hydrin a hylaw ar y ffordd fawr, hyderus o droi oddi arno (yn achlysurol). Prin y brychau: ysgafn a ‘di-dweud’ braidd y llywio; hyglyw a chras y Diesel ar brydiau tra’r petrol sy’n llyfn ond rhaid pwyso’r sbardun – elwa’n well ar ei rym fuasai blwch 6 ger. Daw yma fis nesaf.

iK-2 Suzuki (Sioe Genefa eleni; Yma 2016)

Darpar-gar sy’n fasnachol-barod yw’r iK-2. Cydsefyll a’r Swift wna hwn meddid nid ei olynu a chynnig dewis mwy teuluol-ymarferol hwyrach. Peiriant BOOSTERJET 1.0L 3sil chwistrellu petrol uniongyrchol a gwefrwr tyrbo sydd ganddo a llwyfan newydd oddi-isod sy’n rhan o gynllun adeiladu holl geir y cwmni ar 3 sylfaen hyblyg rhagor 4.

Rhannu |