Moduro

RSS Icon
25 Mawrth 2011
Huw Thomas

Diymdrech a defnyddiol

HWYR (a hwyrfrydig) fu cwmniau Ffrainc cyn ymateb i ddyfodiad yr SUV 4x4 a cherbydau (pontio) SUV-debyg wedyn. Mabwysiadu Outlander Mitusbishi wnaed yn 2007 parthed SUV ond 308 cyfredol Peugeot fu sylfaen y 3008 a chafodd echel flaen hwnnw ddyfais i hybu gwell gafael cyn dyfodiad dull 4x4 go arloesol.

Daw ‘Hybrid4’ Peugeot fis Tachwedd eleni a hwn fydd y car croesryw Diesel-Trydan cyntaf i’r frachnad (petrol-trydan fu hi hyd yn hyn). Gyrru’r echel ôl fydd y modur trydan – 4x4 heb gysylltiad mecanyddol. Awtomatig yn unig ysywaeth fydd hwnnw gan mai dyna’r dull o gyfuno’r ddwy uned yrru.

Y Car Cyfredol

Aros fydd modelau cyfredol y 3008. Gyrriant blaen a chonfensiynol hefyd y crogiant – trawst-echel ôl. O dyfu’n dalach gall reid car o’r fath ddirywio os am gorff-reolaeth, cornelu a llywio sad-gyson. Lliniarwyd hyn trwy wneud i’r crogiant wthio yn erbyn siglo tua’r chwith neu dde. Nid cystal â 4x4/crogiant ôl aml-gymal ond, ar garlam o leiaf, digon cysurus yw hwn (sadio trydanegol ESP ar bob un).

‘D oes dim cyfundrefn 4x4 ar gael ond (o dalu ychwaneg) daw “Grip Control” trydanegol ar yr echel flaen. Efelychu differyn gwrth slip wna hwn a defnyddio’r ESP a chyfundrefn ABS y brecio i hybu gafael yr olwynion blaen. Gall atal olwyn sy’n llithro a chyfeirio’r gyrriant fwy fwy wedyn i’r llall – dyfais ddefnyddiol ar faes gwlyb a llithrig neu dan dywydd mawr, e.e., (yn arbennig gyda teiars pwrpasol).

Caban 5 sedd sydd gan y 3008 ond hyblyg hylaw yw’r dodrefn gyda nifer o lefydd ar gyfer trugareddau. Mae tri llawr y tu ol ar gyfer gwhanol offer, geriach, siopa ac ati (a’u cuddio hefyd) tra agor yn ddwy ran gyfleus wna’r llidiart cefn.

Manylion

Petrol 1.6 THP (120/156 marchnerth) neu Diesel 1.6/2.0 litr (gwefrwr tyrbo eto; 112 /150 – mae awtomatig 163m/n hefyd. HDI 150 a blwch 6 ger nerth braich sydd orau (llyfn a diymdrech gyhyrog): 121mya; 0-62mya 9.7 eiliad; 50.4myg swyddogol; 40-42myg da iawn ar brawf; CO2 146g/km(Tr.Ff.’F’)£125; Ys.20E.

Y Gystadleuaeth

QashQai Nissan amlycaf ond SUV debyg yw hwnnw a 4x4 ar gael. Golwg SUV-aidd sydd gan hwn. Haws ei gymharu hwyrach a Scenic Renault neu C-Max Ford (cludyddion cynnil 5 sedd) – Ffordyn yn rhagori’n ddeinamaidd.

Dyfarniad

Caffaeliad yw’r “Grip Control” (ol-ferbyd/carafan – 1500kg uchafbwys a breciau) ond 4x4 go iawn sy’n rhagori. Cysurus a diflino yw 3008 Peugeot os dewis yr HDi 150 (serch gorffwys i droed chwith y gyrrwr sy’n rhy gyfyng) ac amgenach hwyrach na dim ond cludydd cynnil - caban hael ei faint a char defnyddiol.

 


Picanto Kia (Sioe Genefa ac yma fis Mehefin eleni) –

Ennyd cyn y Rio (Medi), uwchfini yw hwnnw tra ‘mini’ (llai eto) yw hwn. Hatch 5 drws i gychwyn bydd y 3 drws yma ddiwedd y flwyddyn ar gyfer 2012. Prisiau’n dechrau tua £8000 a’r 3 drws fymryn rhatach hwyrach. Peiriant 3 silindr 1.0 litr newydd 69m/n a llai na 100g/km CO2. Ka Ford/500 FIAT ac ati y gystadleuaeth.

Rhannu |