Moduro

RSS Icon
17 Mawrth 2011
Huw Thomas

Laguna Coupe ‘Monaco GP’ Renault

ERS 2000 bu ailwampio ar Laguna Renault yn 2007 a diwygio pellach y llynedd. Daeth y Coupe yn 2009. Rhwng Gorffennaf a Medi 2010 bu model ‘Monaco GP’. Eleni bydd ar gael eto – ynghynt, y mis nesaf.

Dwyn i gof ymgyrch rasio F1 y cwmni yw’r bwriad. Amlwg yw rhinweddau’r ceir RenaultSport: Twingo, Clio a Megane (ni fu Laguna). Datblygwyd nifer o fodelau sy’n “llenwi’r gofod” rhyngddynt a’r rhelyw – GT/GT Line a wedyn atgyfodi enw (a lliwiau) Gordini, e.e. Llwyddiant meddid fu Monaco GP y llynedd a dyna pam mae’n dychwelyd eleni – gyda fersiwn tebyg ar y Megane Coupe.(hatch 3 drws).


Y Car

Llugoer fu croeso’r wasg i’r Laguna serch ystâd ‘Sport Tourer’ taclus ac atebol. Di-drugaredd yw hi ar y canol-uwch gwerinol sydd dan warchae y criw crachaidd. Gyrriant blaen y patrwm, amlwg yw’r deinamaidd ragorol: Mondeo Ford; Insignia Vauxhall, Mazda6, Exeo SEAT, Superb Skoda (Vauxhall/Skoda: ceir 4x4 hefyd).

Dyfalbarhau a thrawst-echel ôl wna’r Laguna. Arddel crogiant annibynol aml-gymalog wna’r uchod er budd llywio/cornelu/corff-reolaeth manwl heb amharu ar safon y reid. Ateb y Laguna (GT/GT Line) yw cynnig llywio 4 olwyn. “4Control”. Wrth barcio/gyrru’n araf troi fymryn i’r gwrthwyneb wna’r olwynion ôl (da mewn lle cyfyng) ond troi gyda’r olwynion blaen ar dramwy. Siarp fanwl yw’r ymateb.

Egniol gyhyrog yw’r Diesel 2.0 dCi180 marchnerth a chydnaws y blwch 6 ger nerth braich. Gwyn ‘perl-fetalaidd’ yw’r lliw a thywyll drawiadol yr olwynion aloi 18”. Daw dodrefnu neilltuol, mordwyo lloeren Carminat Tom Tom, cymorth parcio ôl, awdio Bose 10 seinydd/MP3 ynghyd a chyfathrebu Bluetooth.


Manylion

Cyrraedd 4ydd Ebrill, £23,800 (2.0 dCi 150 rhatach heb y llywio 4olwyn £22,300); 138mya; 0-62mya 8.5 eiliad; 49.5myg swyddogol; 35-37myg da iawn ar brawf; 40myg beunyddiol dyweder; CO2 -150/km./Tr.Ff.’F’.£125; Yswiriant 36E.


Y Gystadleuaeth

Unigryw ydyw ymhlith lleng a lliaws y canol-uwch. Gellid cymharu Scirocco neu Passat CC (4 drws) Volkswagen (y naill yn llai a’r llall yn fwy) C70 Volvo hefyd hwyrach er mai to caled sy’n agor sydd gan hwnnw. Wedyn, Cyfres 3 BMW, A5 Audi neu C-klasse Coupe Mercedes yw hi – mwy a mwy o le ond llawer drytach.


Dyfarniad

Cryno (nid cyfyng) yw caban 4 sedd y coupe hwn (lle i bedwar oedolyn) a daeth a thipyn o gyffro i diriogaeth y Laguna. Heini a hygred, coupe go iawn ydyw am bris gofyn (cynnal a chadw hefyd) tebyg i gar ‘cyffredin’. Cadarn, mae’n wir, yw ansawdd y reid ond nid anghydnaws nac anghyffyrddus a mae’n hwyl i’w yrru.

 


“Bulli” Sioe Genefa: Cludydd Cynnil Nesaf Volkswagen?


“Bulli” oedd llysenw T1 (fen fasnachol wreiddiol VW - ‘Transporter’ 1950). Adlais o’r “Samba” deu-liw adnabyddus (ffenestri a seddi) seiliedig arno oedd Bulli Sioe Genefa eleni. Arbrofol meddid ond masnachol-barod yn ôl pob sôn. Llwyfan y Golf (estynwyd) yw’r sylfaen a thrydan 100% (modur 85kw a batri 45kw) oedd y car ar y stondin. Serch hynny dywed VW y gallai dderbyn peiriannau petrol neu Diesel cyfredol y cwmni. Caban 3+3 sydd ganddo a hyblyg amryddawn y caban a’i ddodrefn. Bu arbrawf tebyg o’r blaen ond llai ei faint ac ‘agosach ati’ yw hwn. Heini a Hygred

Lluniau:
Laguna Coupe ‘Monaco GP’ Renault

Bulli VW

Bulli VW - Lle i dri yn y blaen

Rhannu |