Moduro

RSS Icon
05 Hydref 2012
Huw Thomas

Cyffro ac egni cystadleuol

DAETH Swift Sport 1.6 Suzuki yma fis Ionawr a bu cip arno bryd hynny. Cafodd groeso brwd gan y wasg a chwsmeriaid yn gytun. Car bychan sionc ac egniol, cystadleuol ei bris gofyn ydyw – costau cynnal a chadw rhesymol iawn hefyd.

Coethi elfennau (atebol) Swift cyfredol 2010 y gyfrinach gan ddatblygu cynllun y ‘Sport’ blaenorol (Siapan 2005, Ewrop 2006). Dyna wnaed gyda Golf GTi VW a thebyg yw Swift Sport 2012 (er yn uwchfini rhagor car canol-is) i GTi gwreiddiol 1975: 1.6 litr, chwistrellu petrol (yr “i”) a gloywi arno; crogiant/llywio ddiwygwyd a dasfwrdd/dodrefn cydnaws. (Gallai car 1975 daro 113mya; 0-62mya 8.9 eiliad.)

Magyar-Suzuki, Hwngari yw cartref Ewropiaidd y Swift. Fiesta Zetec S Ford, DS3 Citroen, Punto Sporting FIAT a MINI Cooper y gelynion amlycaf meddid. Twingo RenaultSport hefyd (1.3 litr). Nid yw’n cystadlu a grymusaf (a drytaf) y garfan – Clio RenaultSport (2.0), Polo GTi VW (180mn a thebyg SEAT, Audi, Skoda). Bwriad Suzuki yw cynnig car cynnil, bywiog, heini ond safonnol hefyd.

Ymatal rhag ychwanegu gwefrwr tyrbo wnaed (adlais eto o’r GTi ‘cywir’) ac er mai dim ond 13mn pellach ddaw o grombil y modur, tynnu’n gryfach drwy’r gers wna hwn gan fod mwy o dorch ar gael. Blwch 6 ger sy’n gyfrwng hapus i hyn oll – gwelliant mawr ar 5 yn unig y car blaenorol. Cywrain yw’r llywio, corff reolaeth a safon y reid – cyfuniad o rinweddau cymharol brin o hyd parthed ceir Siapan.

Sylweddol i gar bychan a chysurus y seddi (blaen yn arbennig), chwaethus yn gyffredinol yw’r dodrefnu (GTi-debyg eto y deunydd ‘tartan’) tra eglur a gweddol gyflawn y dasfwrdd. Os nad trachwim, mae digon o gyffro ac egni’n perthyn i’r Swift Sport diweddaraf. At ddant gyrrwr brwd, hatch 3 drws ymarferol yw hwn hefyd. Bydd cryn adnewyddu ar y Fiesta fis Ionawr (ac er egni tebyg o du’r Twingo chwim) yn y cyfamser ac am y pris, Swift Sport Suzuki sy’n mynd a hi.

Manylion: £13,499; 136mn; 121mya; 0-62mya 8.7 eiliad; 6 ger nerth braich; 44.1myg swyddogol; 41myg darbodus ac agos yn ol y ‘gwibiadur’; CO2 147g/km-Tr.Ff.’F’/£135); Yswiriant 19A. Penawdau’r offer: Olwynion aloi 17”; Nawsaerydd; Goleuadau blaen atodol a golchwr i’r prif oleuadau; cyswllt cyfathrebu Bluetooth.

 

 

Mwy o Geir Kia Newydd yn Sioe Paris

Bydd wythnos bellach cyn i Sioe Paris gau Ddydd Sul 14eg. Gwelwyd trydydd A3 Audi a Golf 2013 VW yma eisoes a golwg hefyd y tro diwethaf ar Sportwagon Kia. Fersiwn ystad ar y C’eed canol-is gyrhaeddodd ynghynt eleni yw hwnnw.

Daeth y C’eed cyntaf yn 2006 a dyma’r ail gyfres. Heblaw am y Sportwagon dangos y Pro_c’eed 3 drws ac olynydd i’r Carens (cludydd cynnil) yn Paris wna Kia hefyd. Er is a coupe-debyg, tebyg yw arlwy peiriannau’r 3 drws (1.4 ac 1.6 petrol a Diesel) ond mae gan y Grwp uned betrol 1.6 Tyrbo (newydd ymddangos yn Veloster 186mn Hyundai) a bydd hwnnw’n siwr o ddod ar gael dan gwfl y Pro_c’eed mwy egniol ei osgo yn y man. Aelod o’r un teulu yw Carens 2013 bellach, cwbl newydd, hirach fymryn a thalach, mae’n cynnig dwy sedd atodol (lle i 7 felly) a chaban hylaw hyblyg. Ym Mharis hefyd yw Sorento nesaf y cwmni, SUV safonol ei faint ddaw yma eto yn 2013. Rhwng popeth, tipyn o “stondin”

 

Rhannu |