Moduro

RSS Icon
11 Mawrth 2011
Huw Thomas

HiLux Toyota - diwygio cerbyd hygred

“RHIF 1” o blith cerbydau Pick-Up Ewrop, yn ôl Toyota, yr HiLux hwn yw 6ed epil y llinach a bu diwygio arno’r llynedd. Gwydn-unplyg a hygred oddi ar y ffordd fawr, enillodd enw da led led y byd fel creadur gweithgar a hynod hir-hoedlog.

Yma ers 1972, daeth y gyfres gyfredol ym 1997 gydag adnewyddu a diwygio go fynych: 2000, 2004, 2005 a 2008. Bwriad newidiadau 2010, mae’n debyg, yw ei gadw’n gystadleuol am flwyddyn neu ddwy eto. ‘Cystadleuol’ yw’r gair: cerbyd masnachol ar gyfer “tyrn o waith” neu beidio, berwi wna’r garfan hon bellach.

Prin heddiw yw SUV 4x4 all arddel siasi ar wahân a phrinhau y sawl sy’n cynnig gers uchel/isel. Ond dyna’n union wna’r Pick-Up 4x4 a denu prynwyr preifat fwy fwy hefyd gan gynnig dodrefnu cysurus ac arlwy offer neu gyfarpar tebycach i gar modur safonol. Trawiadol, hefyd, yw gwedd a diwyg L200 blaenllaw Mitsibishi.

Nid arwynebol yn unig y newid. Crogiant blaen annibynol ers tro, wele drawst-echel y tu ôl a dolennau dur yn grogiant – cyntefig ond cryf, gall y cerbyd gludo llwyth a thynnu olgerbyd trwm. Ond bu ymdrech yn ddiweddar i wella safon y reid trwy addasu crogiant blaen SUV-debyg a soffistigeiddio drefn y cefn rywfaint.

Cadw at y dull confensiynol wna Toyota – mae’r HiLux ar gael mewn llefydd go anghysbell. Atebol yw patrwm y 4x4. Rhan amser, gyrriant ol yn sylfaenol, gellir tynnu ar y 4x4 heb orfod sefyll a mae gers isel yn ogystal â’r pump (dim 6ed ysywaeth) uwch. Ar ben hyn mae differyn gwrth slip blaen ac ôl (ar y 2.5 ond nid ar y 3.0 litr gellir cloi hwnnw) – allweddol yw’r cyfryw os am elwa’n llawn ar y 4x4.

HL2, HL3 ac ‘Invincible’, cab unigol, extra (+2) neu ddwbl yw ystod y modelau: £18,543-£23,943 (o adennill TAW: £15,495-£19,995). Daw nawsaerydd a gwres i’r tanwydd gyda’r rhataf ond penawdau’r HL3 yw gwydr ôl tywyll, drychau drws trydan, niwl-oleuadau blaen, olwynion aloi 15” a dyfais golchi’r prif oleuadau.

Cynyddu 20% wnaeth grym D-4D 2.5 litr Diesel yr HiLux yn 2010 (142m/n) tra 343Nm yw’r torch (cystal a’r 3.0 D-4D 169 marchnerth). HL3 2.5 cab dwbl: 106 mya; 0-62mya 12.5 eiliad; 34myg swyddogol; 27-29 go resymol ar brawf (30+ beunyddiol dyweder); CO2 219g/km-Tr.Ff.’K’/£245; Yswiriant 10A.

Yn ôl yr SMMT, ail yma i L200 Mitsibishi oedd yr HiLux yn 2010 - Navara Nissan 3ydd, Ranger Ford 4ydd (olynydd ar gyrraedd) a Rodeo Isuzu 5ed. Daw Amorok cwbl newydd Volkswagen fis Mai tra ergyd carreg oddi wrtho yn Sioe Genefa oedd ‘SUT 1’ SsangYong – arbrofol pnd ernes o gerbyd Pick-Up go arloesol.

Rhannu |