Moduro

RSS Icon
18 Mai 2012

50 milltir i'r galwyn

Mae gan drefn yr awdurdodau o fesur llwnc car bwrpas. Dull wyddonol ydyw o gymharu un yn erbyn y llall. Mae dwy raglen gyfrifiadurol – un sy’n adlewyrchu gyrru trefol, gyrru tu hwnt iddo y llall. Cyfartaledd y ddau yw’r “llwnc swyddogol” bondigrybwyll. Gwahanol yw hi gan amlaf ar ffyrdd go iawn. Tipyn o beth yw cael car car teulu all arddel 50myg – ond dyna’n union wnaeth yr Hyundai hwn.

Cyfrif y milltioredd rhwng un tanc llawn a’r nesaf ddaw agosaf at union lwnc y car. (Gall offer trydanegol y dasfwrdd – gwib-gyfrifiadur – roi syniad go dda bellach hefyd.) Mae mwy o ewyn ar derv (Diesel) na phetrol gan greu’r argraff o bryd i’w gilydd fod y tanc yn llawn. Mae’n werth gadael iddo setlo a gwneud yn siwr.

Pum mlynedd ers yr i30 cyntaf daeth olynydd fis Mawrth. Mae’n efelychu goreuon y dosbarth (Golf a Focus, e.e.), trwy arddel echel ol aml-gymalog a chrogiant annibynol. Hyn er budd doniau deinamaidd heb aberthu safon y reid.

Datblygwyd y car yn yr Almaen a ffatri yn y Tsiec Weriniaeth sy’n ei adeiladu. Tri Diesel a dau betrol (1.4/1.6 litr), blwch 6 ger nerth braich sy’n gyfrwng (awtomatig ar gael ar fodelau neilltuol). Blue Drive yw enw Hyundai ar y ceir Diesel mwyaf darbodus a CO2 lanaf, y cyfryw’n arddel diffodd-tanio a dulliau arbed ynni eraill.

Classic, Active a Style yw’r ystod (‘Style Nav’ mordwyo lloeren hefyd), £14,495-£20,795 y prisiau gofyn a 7E-14E y tocynnau yswiriant. Cyfathrebu Bluetooth a llafar-ymateb, goleuadau blaen atodol, nawsaerydd, ffenestri blaen/drychau drws trydan, awdio RDS/Cr.Dd./MP3/iPod/Aux/USB a sedd yrru sy’n esgyn/disgyn ddaw gyda’r rhataf, e.e. Ychwanegu olwynion aloi 15”, corffwaith a dodrefnu amgenach, ffenestri ol trydan, cymorth parcio (ol) clywedol ac ati wna’r Active.

A nid y tlotaf un lwyddodd i gyrraedd 50myg ond yr 1.6 CRDi 110 (mae Diesel 128 marchnerth hefyd). Pris gofyn: £17,995. Gall daro 115mya a 62mya ymhen 11.5 eiliad. Ei lwnc swyddogol yw 76.3myg – 50myg ar brawf gan awgrymu mwy eto gyda gyrru beunyddiol tynerach. CO2: 97g/km, Tr. Ff. ‘A’ – sef dim i’w dalu.

Serch crogiant ol cymeradwy, llyfndra yw pwyslais hwn rhagor llywio a chorff reolaeth fanwl. Nid model ‘GTi-debyg’ mohonno. Mae gan yr Active ‘Flex Steer’ Hyundai sy’n gadael i’r gyrrwr ddewis rhwng ymateb ‘Comfort’, ‘Normal’ a ‘Sport’. Trymach a mwy “sylweddol” yw’r llywio gyda’r ‘Sport’ ond nid gwell o’r herwydd.

Mae ganddo 6 ger o leiaf – caffaeliad wrth dynnu’r gorau o’r peiriant – a nid rhy eco-wantan yw’r ymateb. Serch hynny, safon yr adeiladwaith a chostau cynnal a chadw yw ei brif atyniadau - heb anghofio ei fod bellach ymhlith y blaenoriaid.

 

 

RXH 508 Peugeot (£33,695) –

Peugeot fu’r cyntaf i hebrwng car Diesel-Trydan croesryw i’r farchnad gyda’r 3008 Hybrid4. Hatch cludydd-debyg canol-is (os go hael ei faint) yw hwnnw. Dim ond mis neu ddau’n hwyrach wele fersiwn tipyn uchelgeisiol. Seiliedig ar 508 Ystad canol-uwch y cwmni (hwnnw nemor blwydd oed) mae’n arddel yr un peiriant 2.0 HDI 163 marchnerth Diesel a lleoli modur trydan yn yr echel ol.

Gyriant blaen yw patrwm ceir Peugeot ond gyrru’r echel ol wna uned drydan yr Hybrid4. Gall deithio rhwng 1-2 filltir ar y batri’n unig meddid cyn i’r peiriant danio o ddeialu ZEV (‘Zero Emissions Vehicle’) ar y das-fwrdd. Hyn ar gyfer y dagfa drefol. ‘Auto’, ‘Sport’ a ‘4WD’ yw’r gosodiadau eraill – Auto yn amrywio’r cyfrwng yn ol y galw; Sport yn tynnu ar y ddwy uned, 200m/n o gyfanswm ac ymateb cyhyrog i’r sbardun; 4WD yn ffrwyno’r echel ol a sicrhau gyrriant 4x4 parhaol.

Ond ystad SUV-debyg yw hwn nid cerbyd 4x4. Defnyddiol uwch ei osgo, tywydd mawr neu’r diarffordd addfwyn fydd ei orwelion – trac lleidiog neu faes sioe. Nid maes carafannau: 1100kg prin uchafbwys olgerbyd. Anghydnaws yw tynnu a char croesryw wrth gwrs gan mai gweithio o hyd fydd y peiriant. Nid yw’r llwnc mor wych a hynny ychwaith (68.9myg swyddogol) gan awgrymu tipyn llai gyda gyrru beunyddiol. Ei rinweddau yw CO2 isel (107 g/km), trethi (ffordd a busnes) rhad. Serch hynny, hael yw’r arlwy (Mordwy Lloeren Bluetooth, Nawsaeru deu-barth, gwybodaeth ar y sgrin ger bron y gyrrwrr. Graenus ei gaban gallai apelio.

 

 

Rhannu |