Moduro

RSS Icon
04 Mawrth 2011
Huw Thomas

Sioe Genefa

AGORODD drysau’r Palexpo i’r cyhoedd ddoe. Daeth 10,000 o bobl y wasg i’r rhagolwg (Llun/Mawrth) a “thua 700,000” o ymwelwyr wedyn yw amcangyfrif y trefnwyr gan obeithio am gyfanswm agosach at 2008 a 714,000 rhagor 2009/10 na fu cystal. Trydydd fwyaf Ewrop ar ôl Paris a Frankfurt ond blynyddol gyfleus yw Genefa, am yn ail y ddau arall – un o “bum sioeau ceir gorau’r byd” meddid.

A mwy na “dim ond ceir”, mae 260 cwmni o 31ain gwlad a stondinau sy’n drwm dan offer, cyfarpar a chlasuron yn saith neuadd y Palexpo. Ewropiaidd os nad bydeang, wele lansio 170 car neu gydran/ddyfais newydd. Ar draws y ffordd o’r maes awyr, gellir mynd yno am y diwrnod (EasyJet o Lerpwl, e.e.). Gwybodaeth bellach ar y Sioe: www.salon-auto.ch

Dyma bedwar car ddenodd sylw.

i40 Hyundai

Wedi’r i30 wnaeth gryn argraff ar garfan y canol-is dyma anelu at y canol-uwch a char all gystadu a blaenoriaid Ewrop. Ystâd i ddechrau (fis Medi) gyda’r sedan yma ar gyfer 2012. “Cystadleuol” fydd y prisiau gofyn – tua £20,000 dyweder a’r sedan yn dechrau’r rhatach na hynny. Mondeo Ford ac Insignia Vauxhall fydd y gelynion amlycaf a £18,000 (cyn bargeinio) y man cychwyn. Diesel 1.7 litr cwbl newydd dan ei gwfl hefyd sy’n disbyddu CO2 113g/km prin (Tr.Ff.’C’-£30 y fl.).

Etherea Infiniti

Petrol-trydan (croesryw) pedwar silindr gyrriant blaen yw car arbrofol Infiniti (enw crachaidd Nissan), isod ar y chwith. Ond masnachol barod yw’r cynllun (hatch 5 drws) a bydd yma erbyn 2014 ar lwyfan canol-is nesaf Renault-Nissan. Dangosodd Audi a’r A3 (sy’n seiliedig ar Golf VW) mai dyma’r dull ar gyfer “glaswaed” y canol-is. Siawns mai efelychu hyn fydd A/B-klasse (ar ôl nesaf) Mercedes (partneriaeth rhwng Daimler a Renault-Nissan bellach); Cyfres 1 BMW/olynydd 308 Peugeot?


Captur Renault

Darpar gar arbrofol eto (ond mwy ‘haniaethol’) dyma ernes o ddelwedd Renault y dyfodol, dde. Coupe SUV-debyg a, serch olwynion aloi 22”, peiriant go iawn: 1.6 dCi 160 Diesel deu-dyrbo (99g/km-‘A’/£0); 131 mya; 0-62mya 8 eiliad yn ol y cwmni.


Zafira 2012 Opel-Vauxhall

“Arbrofol” meddid ond ar fin cyrraedd yw cludydd cynnil nesaf GM Ewrop (cyn diwedd eleni a thua’r un adeg a’r Astra 3 drws hwyrach). Bu gwaith pellach ar seddi “Flex7” (5+2) y caban (mwy hwylus a hyblyg) a bydd arlwy petrol/Diesel eang gydag offer megis “FlexRide” (addasu sadwyr y crogiant, ac ati). Petrol 1.4 litr Tyrbo (diffodd wrth stopio) yn hytrach na Diesel yw car y Sioe (arwyddocaol) a thebyg i heddiw fydd y prisiau gofyn mae’n siwr – cychwyn tua £15,000-£16,000?

Rhannu |