Llyfrau
Cefnogi E-lyfrau o Gymru
Mewn datblygiad pwysig i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print.
Mae’r wefan, a sefydlwyd yn 1999 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn ffynhonnell gynhwysfawr o lyfrau a deunydd darllen o Gymru yn y ddwy iaith.
Ers ei sefydlu, datblygwyd y wefan i wasanaethu llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd yn ogystal â’r cyhoedd, ac mae ei llwyddiant yn deillio o’r ffaith bod modd i gwsmeriaid o bob cwr o’r byd ei defnyddio i ddod o hyd i wybodaeth ac archebu llyfrau. Daw canran uchel o’r archebion a dderbynnir o’r tu allan i Gymru.
“Mae’n holl bwysig, y dyddiau hyn, ein bod yn hyrwyddo e-lyfrau yn ogystal â fersiynau print,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. “Mae’r datblygiad hwn, felly, yn gam pwysig arall yn y broses o gynnig dewis eang o ddeunydd i’r darllenwyr.”
Mae bron i 150 o teitlau o Gymru ar gael fel e-lyfrau ar y wefan yn barod, a rhoddir pwyslais yn awr ar ehangu'r dewis, yn enwedig o ran y deunydd Cymraeg. Eisoes mae llyfrau yn y gyfres Stori Sydyn, a nofelau gan Geraint Evans, Gareth F. Williams ac Euron Griffith ymhlith yr arlwy sydd ar gael. Yn fuan iawn bydd rhai o glasuron yr iaith megis Cysgod y Cryman, Y Stafell Ddirgel a Traed Mewn Cyffion a gwaith T. Llew Jones yn ymddangos fel e-lyfrau, yn ogystal â chyfrolau gan awduron cyfoes megis Bethan Gwanas, Jon Gower ac Alun Jones.
Gyda’r Cyngor yn gwerthu e-lyfrau ar ffurf EPUB i’w lawrlwytho ar amrywiaeth o declynnau darllen – ac yn datblygu perthynas gyda’r dosbarthwyr Gardners – fe fydd modd i’r siopau llyfrau hefyd fod yn rhan o’r datblygiad gan gynnig e-lyfrau ar eu gwefannau. Yn yr un modd, bydd llyfrgelloedd yn gallu cynnig y llyfrau hyn i’w darllenwyr.
“Roedd yn holl bwysig ein bod yn sicrhau bod y siopau llyfrau’n rhan o’r datblygiad cyffrous hwn,” meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo’r Cyngor. “Mae mwy a mwy o bobl yn mwynhau darllen llyfrau ar declynnau electronig erbyn hyn, gan gynyddu’r galw am ddeunydd darllen o Gymru yn y ddwy iaith.”
Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu e-lyfrau ar wefan gwales.com. Mae’n galonogol y bydd darllenwyr bellach yn gallu archebu e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o wefan Gwales ac rwy’n falch y bydd y datblygiad hefyd o gymorth i siopau llyfrau, llyfrgelloedd a’r cyhoedd.”
Llun: Huw Lewis