http://www.y-cymro.comY CymroCyfrol gyntaf, hunan-gyhoeddedig Iestyn Tyne, y bardd ifanc o Ben Llŷn
DYMA gyflwyno cyfrol farddoniaeth gyntaf Iestyn Tyne, addunedau.

Mae’r casgliad yn cynnwys deg ar hugain o gerddi a ysgrifennwyd rhwng 2015 a 2017, a hwythau oll yn adlewyrchu’r profiad o fod yn llanc ifanc yng Nghymru heddiw.

Mae’r cerddi’n adlewyrchu ar sawl thema – Cymreictod a chariad ac weithiau’r ddau, gwleidyddiaeth, iechyd meddwl a byd natur ymysg pethau eraill.

Cyhoeddwyd y gyfrol gan y bardd ei hun a gellir ei phrynu oddi wrtho’n uniongyrchol neu ar y we.

Wrth drafod y dewis i gyhoeddi’r gyfrol ar liwt ei hun yn hytrach na thrwy wasg, eglura Iestyn: “Roeddwn i am fynd o’i chwmpas hi fy hun fel rhyw fath o arbrawf – ydi’r peth yn bosib yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg?”

Ynghyd â hynny, mynega Iestyn mai cerddi cyfnod penodol yn ei fywyd yw cynnwys y gyfrol.

“Ro’n i’n teimlo pe bawn i’n cyhoeddi ymhen pum mlynedd i rŵan na fyddai’r cerddi sydd yn addunedau yn ei gwneud hi i’r gyfrol honno, ond doeddwn i ddim am adael iddynt bydru mewn drôr.

“Mae’n bosib y bydd rhai yn fy atgoffa bod nifer o feirdd sydd wedi cyhoeddi cerddi eu glaslencyndod yn y gorffennol wedi difaru gwneud, ond dydw i ddim yn credu y byddaf yn cywilyddo wrth y cerddi hyn ymhen blynyddoedd i ddod.

“Mae’r cerddi’n rhan o gyfnod arbennig yn fy mywyd, ac yn rhan bwysig o fy nhyfiant fel person ac fel bardd.”

Er yn fardd ifanc, mae Iestyn eisoes wedi gadael ei farc ar y sîn lenyddol a cherddorol yng Nghymru.

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyda chasgliad o ryddiaith yn 2016, ac roedd ei awdl, ‘Gwawr,’ yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yr un flwyddyn.

Fe’i ddisgrifwyd fel bardd â “chyfoesedd cwbl ddiymdrech ac amheuthun,” ac mae ganddo gasgliad o 10 cadair Eisteddfodol y mae wedi eu hennill, gan ennyn clod beirniaid megis Myrddin ap Dafydd, Tudur Dylan Jones, Ifor ap Glyn, a Karen Owen.

Ynghyd â hynny, mae’n un o olygyddion cylchgrawn llenyddol newydd sbon Y Stamp (http://ystamp.cymru) a bu hefyd yn fardd preswyl ar gyfer gwefan Y Neuadd (http://yneuadd.com) yn 2015.

Mae’n gerddor medrus gan chwarae’r ffidil a chanu gyda’r band roc-gwerin Patrobas.

Mae copïau o addunedau ar gael i’w prynu gan yr awdur yn uniongyrchol, ar y we o’r ddolen hon – www.addunedau.weebly.com – ac mewn llond llaw o siopau llyfrau lleol.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/5203/
2017-04-04T00:00:00+1:00Apêl cyfrol i goffau cymeriad unigryw
Ym mis Awst 2016, wythnos ar ôl Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, bu farw un o gymeriadau mawr y Gymru gyfoes, sef Ieuan Roberts neu Ieu Rhos fel y cai ei adnabod.

Yn ymgyrchydd dros yr iaith, bu, am gyfnod, yn ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith cyn iddo ddychwelyd i’w ardal enedigol, Rhosllannerchrugog.

Yn ôl yn yr ardal honno, bu’n weithgar iawn dros yr iaith ac achosion lleol fel y papur bro Nene, hanes y diwydiant glo a’r clwb rygbi. Fe wnaeth hyn i gyd heb dynnu sylw ato’i hun.

Nawr mae Arthur Thomas, colofnydd lliwgar Y Cymro yn bwriadu cyhoeddi cyfrol i goffau’r cymeriad unigryw hwn.

Meddai Arthur: "Eisoes, cysylltwyd â nifer o gyfeillion a chydweithwyr iddo er mwyn cael cyfraniad ganddynt ond gwn fod gan lawer iawn mwy ohonnoch atgofion neu straeon amdano.

"Felly, estynnaf wahoddiad i bob un sy’n dymuno gwneud hynny i yrru hwy ataf mewn e-bost i arthurm.machno@btinternet.com neu mewn llythyr i Brynteg, Ffordd Penamser, Porthmadog, Gwynedd LL499NY cyn diwedd mis Mawrth fan bellaf.

"Byddwn hefyd yn croesawu unrhyw luniau o Ieu i’w defnyddio yn y gyfrol. Y bwriad yw dod â hi i olau dydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn."

Llun: Ieu Rhos yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni y llynedd

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/5004/
2017-02-13T00:00:00+1:00Ail gyhoeddi campwaith olaf Gareth F Williams
Mae gwasg Y Lolfa wedi ail gyhoeddi campwaith olaf y diweddar Gareth F Williams, Awst yn Anogia, yn dilyn marwolaeth yr awdur llynedd.

Cyhoeddwyd Awst yn Anogia yn wreiddiol gan Wasg Gwynedd yn 2014.

Meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol gwasg y Lolfa: "Bu’r llyfr allan o brint ar ôl iddo ennill Llyfr y Flwyddyn, a bu galw mawr amdano ar y pryd.

"Dyma nofel orau Gareth F, un o'n nofelwyr mwya toreithiog a thalentog.

"Roedd colli Gareth yn golled enfawr i'r byd cyhoeddi, a gwych gweld y nofel hon nôl mewn print," ychwanegodd.

Fe gipiodd y nofel prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn yn 2015 gan ddenu canmoliaeth arbennig gan y beirniad, Annes Glynn, Hywel Griffiths a Gareth Potter.

Meddai Hywel Griffiths ar ran y panel beirniadu ar y pryd: "Mae Awst yn Anogia yn eithriadol yn y modd y mae’n creu cymeriadau a lleoedd y mae’r darllenydd yn poeni amdanynt.

"Dyma epig hanesyddol lle mae effaith rhyfel yn dod yn fyw drwy fywydau pobl gyffredin."

Nofel ysgytwol yw Awst yn Anogia, wedi’i seilio ar erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta oedd o dan rym y Natsïaid, a’r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth.

Derbyniodd ganmoliaeth sylweddol, megis gan yr awdur Bethan Gwanas a’i disgrifiodd fel "Nofel epig, wych, wedi ei sgwennu’n feistrolgar. Mi gydiodd ynof gerfydd fy ngwar, a gwrthod gollwng."

Bu farw Gareth F Williams ar 14 Medi yn 61 mlwydd oed yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn canser.

Roedd yn wreiddiol o Borthmadog ond wedi byw ger Pontypridd ers blynyddoedd lawer. Awst yn Anogia oedd ei nofel olaf i oedolion.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau llwyddiannus a phoblogaidd i blant a phobl ifanc gan ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith. Roedd hefyd yn ddramodydd ac yn sgriptiwr penigamp.

Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd, gwasg Y Lolfa: "Pleser pur oedd cydweithio â Gareth F.

"Roedd yn fwrlwm o syniadau ac roedd gwrando arno’n siarad am ei waith yn hwb i’r galon.

"Mae ei epig, Awst yn Anogia, yn un o’r nofelau gorau i mi ei darllen erioed, mewn unrhyw iaith.

"Mae mor bwysig ein bod ni’n gwerthfawrogi ac yn annog ein hawduron a’n llenorion, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

"Roedd gan Gareth gymaint mwy i’w gynnig, cymaint o syniadau wedi’u cynnau a chymaint o heyrn gwahanol yn y tân," meddai Meinir.

"Rydyn ni wedi colli un o awduron gorau Cymru. Braint oedd cael ei adnabod. Mae’n gadael bwlch enfawr ar ei ôl," ychwanegodd.

Mae Awst yn Anogia gan Gareth F. Williams (£14.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4894/
2017-01-09T00:00:00+1:00Cadw’r cof yn fyw am chwaraewyr pêl-droed Cymru
MAE llyfr newydd a gyhoeddir yr wythnos yma yn bwrw golwg unigryw ar chwarewyr pêl-droed rhyngwladol Cymru trwy lygaid cefnogwr sydd wedi dilyn y tim cenedlaethol er 1955 er mwyn cadw’r cof amdanynt yn fyw a’u hatal rhag mynd yn ‘dduwiau na ŵyr neb amdanynt nawr’.

Mae Y Crysau Cochion - Chwaraewyr Pêl-droed Cymru 1946 – 2016 gan Gwynfor Jones yn drysorfa o wybodaeth a storïau am bob un o’r chwaraewyr sydd wedi troedio’r cae yng nghrys Cymru o 1946 hyd at haf bythgofiadwy 2016.

Ceir hanes ac ystadegau y 331 o chwaraewyr, eu cefndir personol, eu clybiau a’u bywydau tu hwnt i bêl-droed, wedi eu cofnodi yn nhrefn yr wyddor.

O Mark Aizlewood a daflodd ei fedal Cwpan Cymru i’r dorf ar ôl colli yn y rownd derfynol yn 1994 i Eric Young a’i benrwymyn gwyn, dyma gyfrol o bortreadau diddorol a dadlennol am arwyr y bêl gron, sy’n cynnwys manylion chwaraewyr ymgyrchoedd Cwpan y Byd 1958 ac Ewro 2016.

Ceir hefyd restr gyflawn o’r 460 o gemau yn ystod y cyfnod a manylion yr holl reolwyr yng nghefn y gyfrol sydd yn ei gwneud yn gyfrol anhepgor i holl gefnogwyr pêl-droed Cymru.

“Aeth chwarter canrif heibio ers cyhoeddi Who’s Who of Welsh International Soccer Players roddodd sylw i’r cyfnod 1876-1991,” eglurodd Gwynfor Jones.

“Meddyliais ei bod yn hen bryd inni gael llyfr newydd a hynny yn y Gymraeg er mwyn cadw’r cof yn fyw am y chwaraewyr sydd wedi cyfoethogi ein gêm genedlaethol ac a gyfrannodd at osod y seiliau ar gyfer ein llwyddiant yn Ewro 2016.”

Ond mae Gwynfor yn pwysleisio mai nid llwyddiant Ewro 2016 eleni oedd y sbardun tu ôl i ysgrifennu’r llyfr.

“Dechreuais o ddifrif ar ysgrifennu Y Crysiau Cochion 1946-2016 ym mis Chwefror 2015, felly dim cysylltiad â’r lori lwyddiant gariodd gefnogwyr hen a newydd i Ffrainc eleni,” meddai.

“Cymerais 1946 fel man dechrau oherwydd mai dyna pryd yr ailddechreuwyd gemau ffurfiol wedi’r Ail Ryfel Byd, ac ymddangosai 2016 yn le da i orffen, sef pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 140 oed.

“Ond roeddwn i wrth gwrs ar ben fy nigon o weld llwyddiant y tim eleni,” ychwanegodd Gwynfor.

“Brith gof sydd gen i o Gwpan y Byd 1958, ac wedi inni foddi wrth y lan sawl tro dyma ein cyfle ni i gael haf yn yr haul.”

Mae Gwynfor Jones yn hanu o Fro Dysynni ym Meirionnydd ac mae’n byw yn Aberystwyth.

Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu’n dilyn Y Crysau Cochion er 1955 ac mae wedi gweld dros 150 o gemau rhyngwladol.

Bydd noson i ddathlu chwarewyr pêl-droed Cymru a sgwrs gyda Gwynfor Jones a Lyn Ebenezer yn Siop y Pethe, Aberystwyth am 5.30 o'r gloch nos Fercher 14 Rhagfyr.

• Crysau Cochion - Chwaraewyr Pêl-droed Cymru 1946 – 2016 gan Gwynfor Jones (£14.99, Y Lolfa).

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4819/
2016-12-13T00:00:00+1:00Effaith cynhesu byd-eang i'w gweld yng Nghymru?
A yw effeithiau cynhesu byd-eang i’w gweld yng Nghymru? Dyna gwestiwn sydd y tu cefn i’r gyfrol newydd Tywydd Mawr a gyhoeddir yr wythnos hon.

I chwilio am yr ateb, fe aeth y ffotograffydd Iestyn Hughes ati i bori drwy lu o archifau am dystiolaeth o effaith y tywydd dros y canrifoedd.

Gyda hinsawdd y byd yn newid fesul blwyddyn, mae’r gyfrol yn dangos lluniau o effaith hynny ar fynyddoedd yr Alpau a rhewlif yn crebachu yng Nghanada, ond golygfeydd dramatig o Gymru benbaladr a welir yma’n bennaf – eira 1947 ac 1978, sychder haf 1976 a llifogydd 2004, yn ogystal â stormydd 2013/14 ar hyd arfordir gorllewin Cymru.

Cyfrol gynhwysfawr sy’n cynnwys ymhell dros gant o ffotograffau a darluniau o dywydd eithafol yng Nghymru yw Tywydd Mawr. Ynddi ceir trysorfa o wybodaeth, atgofion, darluniau, llên gwerin a gwyddoniaeth am y tywydd a’r hinsawdd.

"Fe’m hysgogwyd i baratoi’r gyfrol fach hon yn dilyn stormydd 2013/14. Roeddwn wedi amau bod rhywbeth mawr ar droed o fis Hydref ymlaen, ac fe fues i’n weddol ddiwyd wedyn yn cofnodi effaith y tonnau mawr a’r llifogydd ar hyd yr arfordir o gwmpas Aberystwyth gyda fy nghamera," eglurodd Iestyn Hughes.

"Gofynnwyd i mi gyfrannu rhai o’r lluniau a fideo, nid yn unig i’r cyfryngau newyddion, ond hefyd at ffilm fer ar yr amgylchedd, ac fe ysgogodd hynny a holl brofiad erchyll y gaeaf i mi feddwl yn fwy dwys am newid hinsawdd, ac am y tywydd a fu," ychwanegodd.

"Ydi’r tywydd anwadal diweddar wedi dod yn sgil newid hinsawdd, neu, o’i osod mewn cyd-destun hwy na chof un genhedlaeth, a yw’n rhan o batrwm naturiol tymor hir?"

Daw’r lluniau sydd yn y gyfrol o wahanol ffynonellau, yn eu plith gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys y ffotograff cyntaf erioed o ddyn eira a dynnwyd tua 1854, ac un o bobl yn sglefrio ar afon Teifi yn 1891.

Yn ogystal â ffotograffau, cynhwysir paentiadau hefyd, megis rhai gan Breugel, Aneurin Jones a Kyffin Williams.

"I ni’r Cymry, fel i weddill pobl ynysoedd Prydain, mae’r tywydd yn rhan fawr iawn o’n bywydau.

"Pan ddaw hi’n dywydd mawr, mae ein hymatebion cymdeithasol a diwylliannol yn uniongyrchol, greddfol a chreadigol dros ben," meddai Dr Hywel Griffiths, sydd wedi ysgrifennu cyflwyniad i’r gyfrol, ac sy’n ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

"Yn farddoniaeth neu chwedlau, darluniau neu ffotograffau, mae rhywbeth am y tywydd sy’n ysbrydoli.

"Yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer o enghreifftiau o dywydd eithafol, yn enwedig stormydd a llifogydd, wedi taro Cymru.

"Mae’r gyfrol hon yn gymwynas fawr i’r drafodaeth gyhoeddus ar dywydd a hinsawdd gan ei bod yn dangos tystiolaeth hanesyddol a diwylliannol ein bod ni fel unigolion a chymunedau wedi profi, ac wedi ymdopi â’r digwyddiadau eithafol yma o’r blaen,’ ychwanegodd.

"Pan fyddwn ni, a brofodd stormydd 2013/2014, wedi hen fynd o’r tir a’n hatgofion gyda ni, bydd y lluniau arbennig yma, yn gelf ac yn gofnod, yn parhau."

Yn wreiddiol o ardal Llaniestyn, sir Fôn, fe drodd Iestyn yn Gardi dŵad, gan dreulio 35 mlynedd yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Gadawodd y sefydliad yn 2011 er mwyn dilyn llwybrau newydd mwy creadigol.

Mae wedi cyfrannu’n helaeth at lyfrau gan sawl gwasg ers hynny, un ai fel ymchwilydd lluniau, neu fel ffotograffydd.

Tywydd Mawr yw’r pedwerydd llyfr i ddwyn ei enw fel awdur, ac mae’n gyfrol sy’n cyfuno’i ddiddordeb mewn lluniau archif a’i ddawn fel ffotograffydd.

Mae Tywydd Mawr gan Iestyn Hughes (£14.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4777/
2016-12-05T00:00:00+1:00Bombscare, bagets, madfallddyn ac ibuprofen – atgofion bythgofiadwy Prysor yn yr Ewros
Datgelir anturiaethau gwallgo a swreal yr awdur a’r ffan pêl-droed Dewi Prysor yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016 mewn llyfr a gyhoeddir yr wythnos hon.

Wrth i Gymru, ei hiaith a’i chefnogwyr wneud argraff ar gyfandir cyfan, gadawodd Ffrainc ei hoel (yn llythrennol) ar Dewi Prysor.

Yn Ibuprofen S’il Vous Plait! ceir atgofion o’r rhan fwyaf o’r hyn mae’n gallu’i gofio – o ewfforia ac emosiwn y gemau eu hunain i’r profiadau bythgofiadwy – y digri a’r difrifol, y gwallgo, swynol a’r swreal.

"Fel ffan pêl-droed Cymru roedd cyrraedd ffeinals twrnameint rhyngwladol yn gwireddu breuddwyd.

"Roedd dilyn y tîm trwy gydol y twrnameint hwnnw yn ddim llai na byw y freuddwyd honno – yn enwedig wrth i Gymru wneud yn well nag unrhyw ddisgwyliadau a gobeithion wrth gyrraedd y rownd gyn-derfynol," meddai Dewi Prysor.

"Enillodd y tîm a’r cefnogwyr barch ac ewyllys da Ewrop gyfan yn ystod y mis hwn, ac mi ddyrchafwyd proffil Cymru fel cenedl o’r iawn ryw i uchelfannau na welwyd erioed o’r blaen," ychwanegodd.

Bu’r 33 diwrnod a’r 6,000 o filltiroedd yn gymaint mwy na stori bêl-droed.

Wrth i hanes, arwyr a chwedlau gael eu creu, llwyddodd Dewi Prysor i gael ei gloi mewn bar yn ystod bombscare yn Toulouse, ei fwyta’n fyw gan chwain ffyrnig yn Bordeaux, a’i hudo gan Ffrainc a’i phobol, ei bagéts, londréts a pharmacias – y llefydd cyfrin hynny lle mae gwellhad i hangofyrs yn cael ei greu.

"Mae’r gyfrol hon yn adrodd hanes fy nhaith ar hyd a lled Ffrainc wrth fyw y freuddwyd honno, trwy gyfrwng atgofion lliwgar (a niwlog weithiau!) a myfyrdodau dwys a digri a sgwennwyd mewn nodiadau dyddiadurol ar fy ffôn, ar gefnau pacedi rislas, ticedi trenau a beermats – gyda help sylweddol lluniau, negeseuon tecst, ypdêts Facebook a Twitter, a chyfathrebiadau efo teulu a ffrindiau nôl adra yng Nghymru," eglurodd Dewi.

"Dwi’n gobeithio ’mod i wedi gallu cyfuno cyffro, ewfforia ac emosiwn ymgyrch arwrol Cymru efo ychydig o gymeriad Ffrainc, a naws a natur sbesial iawn y teulu lliwgar a hynod hwnnw – cefnogwyr pêl-droed Cymru," ychwanegodd.

Daw Dewi Prysor o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn wreiddiol ac mae bellach yn enw cyfarwydd trwy Gymru. Mae’n un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru yn ogystal â bardd a chyflwynydd rhaglenni ar S4C.

Cyrhaeddodd tair o’i nofelau, Lladd Duw (2010), Cig a Gwaed (2012) a Rifiera Reu (2015) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Enillodd Lladd Duw Gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yn 2011. Dyma ei gyfrol hunangofiannol gyntaf.

Mae Ibuprofen S’il Vous Plaît! gan Dewi Prysor (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4758/
2016-12-01T00:00:00+1:00Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cyhoeddi llyfr coginio
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cyhoeddi llyfr ryseitiau Coginio efo’r Cofis fel rhan o’u hymgyrch godi arian ar gyfer yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal ar Fai 13eg, 2017.

Yn cynnwys ryseitiau gan bobl y dre, cogyddion enwog a bwytai poblogaidd Caernarfon - nod Coginio efo’r Cofis yw arddangos cymeriad coginio a bwyd y dref.

Bydd yr holl elw a wnaed o werthiant y llyfr yn mynd tuag at gynnal Gŵyl Fwyd Caernarfon 2017.

Un o’r cyfranwyr yw Nici Beech, sy’n rhan o drefnu’r ŵyl ac sydd wedi cyhoeddi ei llyfr ryseitiau Cegin ei hun yn ddiweddar.

Dywed: “Mae’r llyfr ryseitiau’n ffordd wych i arddangos beth sydd gan fwytai'r ardal i’w gynnig yn ogystal â bod yn ffordd wych i godi arian tuag at yr ŵyl ei hun.

"Rydym yn falch iawn o allu bod yn ŵyl agored i bawb o bob oed gyda mynediad am ddim, yn wahanol i nifer o wyliau bwyd eraill.

"Er mwyn ein galluogi i gynnal gŵyl am ddim, mae’r pwyllgor wedi bod yn brysur iawn yn meddwl am bob mathau o wahanol ffyrdd i godi arian gyda llawer o ddigwyddiadau ar y gweill yn 2017.”

Y cyfranwyr eraill yw Caffi Te a Cofi, Stones Bistro, Cigydd O G Owen, Tŷ Siocled, Iechyd Da, Mari Gwilym, Bryn Williams a Beca Lyne-Pirkis.

Bydd Coginio efo’r Cofis ar gael am £3 o amryw ffeiriau Nadolig yn ardal Caernarfon yn cynnwys Gŵyl Fwyd Fach Caernarfon, Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar y 10fed o Ragfyr rhwng 10:00 a 17:00, sy’n rhan o ddigwyddiad Nadolig Stryd y Plas.

Mae mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau codi arian, gwybodaeth am noddi’r ŵyl a llawer mwy ar wefan http://gwylfwydcaernarfon.cymru

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4757/
2016-12-01T00:00:00+1:00Y Lolfa yn dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant yn gynnar
Bydd gwasg Y Lolfa yn gweld dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant ers sefydlu’r wasg yn gynharach na’r disgwyl wrth lansio dyddiaduron personol sylfaenydd Y Lolfa a chyd-sylfaenydd y cylchgrawn Lol Robat Gruffudd heno, nos Wener.

Cyfrol o ddyddiaduron personol ‘ecsentrig a rhy onest’ a gadwodd Robat Gruffudd, ers y chwedegau yw Lolian. Ysgrifennwyd y dyddiaduron dros yr hanner canrif diwethaf ac fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf eleni.

Cyhoeddir y dyddiaduron cyn hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa flwyddyn nesaf ac mae’r llyfr yn sôn am rai o helyntion y byd cyhoeddi. Ond mae Robat am bwysleisio mai nad hunangofiant a geir yma na hanes y wasg fel y cyfryw.

"Byddwn yn dathlu pen-blwydd Y Lolfa yn y man. Gwyliwch y wasg am fanylion un parti anferth a rhes o ddigwyddiadau eraill!" meddai Robat.

Cynhelir noson lansio heno am 8 o’r gloch yn y Llew Du yn Nhalybont.

Yn ogystal ag adloniant cerddorol gan y cerddor Tecwyn Ifan bydd yr academydd Simon Brooks yn holi’r awdur.

Yn y dyddiaduron mae ymateb i ddigwyddiadau a darlun ‘answyddogol’ a gwreiddiol o’r profiad o fyw yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf ynghyd â sylwadau cyffredinol, trwm â’r ysgafn.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cymysgedd o straeon doniol, sylwadau pryfoclyd ac atgofion am helyntion y byd cyhoeddi a chyfarfodydd ag awduron ac eraill yng Nghymru ac mewn bariau ar y cyfandir.

Fel ymgyrchydd iaith o'r dyddiau cynnar, mae yna sôn am helyntion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, Cymuned, Dyfodol i'r Iaith -- ac ymgyrch i wrthod siarad Saesneg. Sonir am brotest Pont Trefechan a’r cais i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.

Sonir hefyd am arestio ef a’i wraig Enid ar amheuaeth o fod yn rhan o ymgyrch llosgi tai haf yn ystod yr 80au.

Ceir cip hefyd ar ei gefndir Almaenaidd Iddewig a chyfeiriad at erlid y teulu yn yr Almaen ac ymweliad Robat â gwersyll Ravensbrück ble llofruddiwyd ei Fam-Gu gan y Natsiaid.

"Mae yma straeon doniol am nifer fawr o bobl, a dyna rwy'n ofni: be fyddan nhw'n dweud pan welan nhw eu henwau mewn print?

"Mae ffurf y dyddiadur yn gofyn am onestrwydd." meddai Robat. "Os nad y'ch chi'n onest, beth yw'r pwynt? Ond buasen i'n hoffi petai'n bosib i fi ddianc o'r wlad am fis neu ddau wedi cyhoeddi'r llyfr!"

Mae Lolian gan Robat Gruffudd (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4735/
2016-11-25T00:00:00+1:00Cyhoeddi hunangofiant 'trysor cenedlaethol'
Mae’r enwog Dai Jones Llanilar yn cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos hon fydd yn olrhain ei hanes dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Bydd Tra Bo Dai yn dilyn hynt a helynt gyrfa Dai Jones dros yr ugain mlynedd diwethaf, fel ffarmwr, cyflwynydd a darlledwr mwyaf poblogaidd Cymru. Cydysgrifenwyd gyda'i gyfaill mawr, Lyn Ebenezer.

Yn ffermwr, cyflwynydd teledu a radio ar raglenni megis Cefn Gwlad neu’r Sioe Fawr, Dai Jones yw un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus cefn gwlad Cymru.

Ei lyfr cyntaf oedd un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn y degawdau diwethaf gan werthu dros 10,000 o gopiau ac mae ei raglenni teledu a radio yn parhau i fod yn boblogaidd tu hwnt.

Mae Cefn Gwlad, a’i raglen radio, Ar Eich Cais, yr un mor boblogaidd ag erioed, a Dai yn ei elfen yn cyflwyno’r ddwy raglen. Cawn wybod mwy am y cymeriadau ac am sawl tro trwstan a ddigwyddodd yn ystod ffilmio’r rhaglenni teledu.

Oherwydd ei waith fel cyflwynydd a’i gyfraniad i fyd amaeth, mae Dai wedi derbyn nifer o anrhydeddau dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Cymrodoriaeth BAFTA Cymru, a’i wneud yn Athro yn y Celfyddydau gan Brifysgol Cymru.

Ond yr anrhydedd fwyaf iddo oedd cael bod yn Llywydd Sioe’r Cardis yn 2010.

Meddai: "Rwy wedi mwynhau bron bob eiliad o ’mywyd.

"Ond ffermwr ydw i ac mae gen i ychydig mwy o amser y dyddiau hyn i fwynhau’r pethe sy’n agos at fy nghalon.

"Ond dyw perfformio ar lwyfan neu ar sgrin yng nghwmni, neu o flaen cymeriadau, yn ddim ond estyniad o’r hyn a wnawn i pan oeddwn i’n blentyn."

Ond er yr holl enwogrwydd a phoblogrwydd, mae ei draed ar y ddaear.

"Pobol sydd wedi bod yn bwysig i fi erioed. Yn ddaearyddol, fe grwydrais ar draws y byd ond yn ysbrydol, wnes i erioed adael y fro," meddai.

"Ble bynnag y bues i, ac i ble bynnag yr af, yn ôl wna i ddod. Chwedl Dafydd Iwan, ‘Yma mae nghalon, yma mae nghân’."

Ond nid oes terfyn ar ei weithgareddau,

"Dwi ddim yn mynd i fod yn brin iawn o bethe i’w gwneud. Rhyw newid mae’r gweithgareddau, nid diflannu neu grebachu," meddai.

"Rwy bellach wedi cyrraedd 73 oed ac yn dal i fynd. Neu’n ‘dal i geibo’, fel y dywedir yn yr ardal hon," ychwanegodd Dai.

"Mae’r Hollalluog wedi bod yn eithriadol o hael wrtha i. Yn un peth, fe ganiataodd i fi iechyd reit dda. Rwy cystal fy iechyd nawr ag y bues i erioed.

"Yn bwysicach i bob dyn a menyw yn y byd yma na bod yn filiwnydd yw cael iechyd, a chael cyfle i’w fwynhau.

"Yn wir, petai mwynhad yn arian, fe fyddwn innau’n filiwnydd."

Mae Tra bo Dai gan Dai Jones Llanilar (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4709/
2016-11-17T00:00:00+1:00Hen chwedl o Ben Llŷn yn sbarduno nofel rymus
Stori wir a oroesoedd ar lafar gwlad yw testun nofel newydd sbon a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon.

Yn Pantywennol gan Ruth Richards, olrheinir hanes Elin Ifans - merch fywiog yn ei harddegau sydd yn gaeth i rigolau bywyd cefn gwlad Pen Llŷn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Oherwydd ei hobsesiwn â’r goruwchnaturiol caiff Elin yr enw Bwgan Pantywennol gan y bobl leol, gan godi tensiynau a gwrthdaro yn y gymuned rhwng crefydd ac ofergoeliaeth.

Mae’r nofel yn seiliedig ar stori wir a gadwyd yn fyw ar lafar gwlad.

"Mae'n debyg mai'r hyn a’m hysbrydolais oedd cyfuniad o astudio llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer fy M.A ac atgofion o hen straeon Pen Llŷn a glywais yn nhai fy nwy Nain," meddai Ruth Richards.

"Cefais afael ar lyfr Moses Glyn Jones a Norman Roberts am hanes y bwgan wedyn a synnu braidd nad oedd neb wedi ei throi'n nofel.

"Yr hyn oedd mor gyffrous oedd bod digon o'r hanes wedi goroesi i ffurfio sylfaen i mi gael llunio naratif fy hun o'i chwmpas."

Cnewyllyn y stori yw rhwystredigaeth merch yn ei harddegau wedi iddi sylweddoli na fydd rhigolau ei bywyd Fictoraidd yn cynnig llawer o gyfle nac antur iddi.

"Roedd y ffaith y bod Elin mor ifanc pan ddigwyddodd yr helynt yn apelio'n fawr ataf," eglurodd Ruth.

"Mynnais adnabod ryw ysbryd 'Pync' yn perthyn iddi.

"Y math o egni a herfeiddiwch amrwd sy'n gwneud y broses o'i chywilyddu mor anghyfiawn, a'i ffawd yn dristach byth."

Fe gafodd y nofel ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 gan ddod yn agos at gipio’r brif wobr.

Meddai un o feirniaid y gystadleuaeth, Dafydd Morgan Lewis: "O’r dechrau’n deg fe wirionais ar y nofel hon.

"Cwympais mewn cariad â hi mewn gwirioned.

"Nid stori afaelgar yn unig sydd yma ond ysgrifennu gwirioneddol rymus hefyd."

Ychwanegodd Jane Aaron fod y nofel yn adleisio testunau llên Gothig Americanaidd, megis dramau enwog Arthur Miller, The Crucible.

Pantywennol yw nofel gyntaf Ruth Richards.

Cafodd Ruth ei magu yng Nghemaes, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw ym Miwmares.

Bu’n fyfyrwraig ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n gweithio i’r mudiad lobïo, Dyfodol i’r Iaith.

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhwllheli am 2 o’r gloch dydd Sadwrn, 26 Tachwedd.

Bydd darlleniadau o’r nofel a perfformiadau o ‘Baled y Bwgan’ sef hen faled gyfoes am yr helynt.

Bydd yr Athro Angharad Price a’r Athro Gerwyn Wiliams yn holi Ruth Richards.

Mae Pantywennol gan Ruth Richards (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4696/
2016-11-16T00:00:00+1:00Ein perthynas â'n hiaith yn ysbrydoli cyfrol o straeon byrion gan Lleucu Roberts
Cymreictod â’r iaith Gymraeg sydd wedi ysbrydoli un o awduron amlycaf Cymru yn ei chyfrol newydd.

Yr eliffant hardd, y rhodd fregus, y llifeiriant yn y pen a’r bachyn yn y galon: mae hi yma yn ei hamryfal liwiau – y Gymraeg.

Hi yw’r llinyn sy’n cydio’r wyth stori fer yng nghyfrol newydd Lleucu Roberts, Jwg ar Seld, a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn y straeon byrion fe ddarlunir cymeriadau amryliw o bob rhan o’r Gymru gyfoes gan rychwantu sawl haen o gymdeithas.

Portreadir eu cariad, eu difaterwch a’r gwrthdaro – rhwng cenedlaethau, dosbarth, diwylliant, gogledd a de, iaith a hunanlywodraeth gan gynnig cipolwg ar y patrymau sy'n codi o'r mathau o ddefnydd a wna bobl o’r Gymraeg.

"Mae yma gymeriadau sy’n siarad Cymraeg bron heb sylwi eu bod yn gwneud hynny, ac eraill sy’n ymwybodol iawn ohoni," meddai Lleucu.

"Y nod oedd edrych o bell ar gymlethdodau ein harwahanrwydd ieithyddol, a phatrymau ein hymwybyddiaeth o'n hiaith.

"Ond er mai’r iaith yw’r llinyn sy’n gyffredin rhwng y straeon, mae’r gyfrol yn gyfuniad o’r difrif a’r digri a dwi’n gobeithio bydd amrywiaeth y straeon yn apelio at bob math o ddarllenwr."

Enillodd Lleucu Roberts Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 am y gyfrol o straeon byrion Saith Oes Efa, gan ddenu canmoliaeth eang gan feirniaid a darllenwyr fel ei gilydd.

"Ar ôl sgwennu Saith Oes Efa roedd arna i flys rhoi cynnig cynnig ar wneud rhywbeth tebyg eto – a dyma ddigwydd glanio ar y Gymraeg fel ‘bachyn' sy’n clymu’r straeon," eglurodd Lleucu.

"Mae mwy nag un wedi dweud mai peth annoeth yw gwneud yr iaith yn destun llenyddiaeth yn hytrach na’i chadw fel cyfrwng yn unig. Rwy’n mentro mynd yn groes i hynny yn y gyfrol hon."

Cafodd Lleucu Roberts ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion ond mae’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon ers bron i chwarter canrif.

Ysgrifennodd sawl nofel i oedolion gan gynnwys Rhyw Fath o Ynfytyn a Teulu yn 2012. Enillodd wobr Tir na n-Og i ieuenctid ddwywaith.

Bydd noson i ddathlu cyhoeddi Jwg ar Seld yn cael ei gynnal ym Mhalas Print yng Nghaernarfon nos Iau y 1af o Ragfyr.

Mae Jwg ar Seld gan Lleucu Roberts (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4671/
2016-11-14T00:00:00+1:00Cyfrol newydd yn edrych ar ddylanwad y Cymry ar Manchester Utd
MAE Cymru wedi gwneud cyfraniad amrhisadwy i un o glwbiau pêl-droed mwyaf poblogaidd y byd, Manchester United, yn ôl llyfr a gyhoeddir yr wythnos hon.

Mae The Manchester United Welsh gan Gwyn Jenkins a Ioan Gwyn yn cynnig mewnwelediad i gyfraniad Cymru i un o glwbiau pêl-droed enwocaf y byd.

O’i dechreuad bron i ganrif a hanner yn ôl a chwarewyr megis Jack Powell a Billy Meredith, drwy Oes Aur yr 1950-60au gyda Jimmy Murphy a Matt Busby, i ogoniant y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad Alex Ferguson gyda chwarewyr byd enwog megis Mark Hughes a Ryan Giggs, mae Cymry wedi chwarae rhan hanfodol yn siapio llwyddiant clwb sydd yn denu cefnogaeth ar draws y byd.

“Beth sydd yn unigryw am y llyfr yw ei fod yn edrych ar y clwb o safbwynt Cymreig, gan olrhain cyfraniad sylweddol gan rhai unigolion i lwyddiant enfawr y clwb – a rhain oll yn dod o wlad fechan ond balch,” meddai un o’r awduron, Gwyn Jenkins.

Mae’r llyfr yn teithio nôl at enedigaeth y clwb ac yn cynnwys hanesion di-ri am fywyd a gemau’r clwb mewn cyfnodau a fu gan ei wneud yn lyfr hanfodol ar gyfer holl gefnogwyr Manchester United a Chymru ac i’r rheiny sydd â diddordeb yn natblygiad pêl-droed dros y blynyddoded.

Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu sawl cyfrol ar hanes Cymru a phêl-droed. Mae’n byw yn Nhalybont yng Ngheredigion. Mae ei fab, Ioan Gwyn, yn actor sydd wedi etifeddu diddordeb ei Dad ym mhêl-droed. Mae’n byw yn Llundain.

Mae The Manchester United Welsh gan Gwyn Jenkins a Ioan Gwyn (£6.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4653/
2016-11-10T00:00:00+1:00Ffans pêl-droed yn cofio llwyddiant Cymru yn yr Ewros
Mae geiriau’r Prifardd Aled Gwyn yn crynhoi teimladau ffans pêl-droed Cymru sydd wedi dod ynghyd er mwyn dathlu llwyddiant ein tîm cenedlaethol yn yr Ewros mewn cyhoeddiad newydd a gyhoeddir yr wythnos hon.

Casgliad o ysgrifau i ddathlu a chofnodi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru eleni yw Merci Cymru gyda chyfraniadau gan ffans, sylwebwyr a rhai o enwau mawr y gêm gan gynnwys y sylwebydd Dylan Ebenezer, y cyn-chwaraewr ac academydd Laura McAllister, a’r Prifeirdd Aled Gwyn a Rhys Iorwerth.

Ynddo darlunir bwrlwm yn y gêmau, ar y strydoedd, yn y fanzones, ar y soffa ac yn y tafarndai ac argraffiadau byw o gyfnod arbennig iawn yn hanes pêl-droed Cymru.

Golygwyd y gyfrol gan yr awdur â’r newyddiadurwr Tim Hartley ac mae’n cynnwys cyfraniad gan ei fab ef, Rhys, sydd hefyd yn chwarae i dîm y cefnogwyr.

"Cofnod yw’r llyfr yma. Cofnod o ddigwyddiad na fu rhai ohonom yn ddigon ewn i freuddwydio y gallen ni ei brofi yn ystod ein hoes.

"Mae yma ddathlu a chyfeillach, atgofion a darogan," meddai Tim Hartley.

"Ond, yn sail i hyn oll y mae’r ffaith hyn: Bu tîm pêl-droed Cymru mewn ffeinals pencampwriaeth ryngwladol."

Ychwanegod: "Mae’n diolch i ymdrech carfan o bêl-droedwyr sy’n perthyn i genedl fach – ac yng ngolwg llawer o bobol cyn y gamp hon – cenedl ddi-nod.

"Mond gêm yw hi wedi’r cyfan,” medden nhw – ond na. Maen nhw hefyd yn dweud mai’r siwrne ei hun ac nid y cyrraedd sy’n bwysig yn y bywyd yma. Nid y tro yma, gyfeillion."

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yng nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd ar yr 11eg o Dachwedd, noson cyn y gêm fawr yn erbyn Serbia, am 7 o’r gloch.

Mae Merci Cymru (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4637/
2016-11-09T00:00:00+1:00O gyffordd i gyffordd gydag Ian Parri
MAE’R ffaith bod ein rheilffyrdd yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd gan gwmni sydd ym mherchnogaeth llywodraeth Yr Almaen yn dangos na ellid diystyru eu gwladoli gan y Cynulliad, yn ôl awdur llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol cyn hir yn penderfynu pwy gaiff yr hawl i redeg y trenau yng Nghymru a’r Gororau o 2018 ymlaen.

A chyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi dangos cynnydd calonogol yn y niferoedd sy’n ei ddefnyddio ers i Lywodraeth Cymru ei brynu am £52m yn 2013, gan ei achub rhag mynd i’r wal, teimla Ian Parri na fysai ymyrraeth y wladwriaeth o angenrheidrwydd yn ddrwg o beth i’n rheilffyrdd chwaith.

Teithiodd mwy na 500 o’r 675 milltir sy’n ffurfio’r rhwydwaith yng Nghymru tra’n ymchwilio i’w deithlyfr Cyffordd i Gyffordd, sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn, ac mae’n teimlo bod angen ail-feddwl dybryd am sut y mae’r gyfundrefn drenau yn cael eu rhedeg.

“Does dim dwywaith bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn drewi o’r diffyg buddsoddiad mae wedi ei ddiodde’ dros y degawdau,” meddai.

“Ond bellach ei fod yn cael ei gydnabod fel rhan eglur o isadeiledd trafnidiaeth Cymru, yn hytrach na rhyw gornel o rwydwaith Lloegr sydd wedi ei esgeuluso ers degawdau, mae hi’n bryd cymryd golwg ffres Gymreig ar bethau.

“Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhedeg yr hawlfraint am elw ers 2003, a’u perchnogion nhw ydy Deutsche Bahn, sef rheilffyrdd gwladoledig Yr Almaen.

"Rhoddodd John Major y rheilffyrdd yn anrheg i gwmniau preifat pan oedd yn brif weinidog Prydain, can fynnu na allai cludiant oedd ym meddiaeth y wladwriaeth fyth dalu ei ffordd.

"Roedd honno’n ddadl ryfedd ar y naw pan fo llywodraeth Yr Almaen yn gallu rhedeg ein rheilffyrdd am elw.

"Dylai’r elw yna fod yn aros yng Nghymru er mwyn ei fuddsoddi mewn gwelliannau pellach i’r rhwydwaith.”

Dywed na fasai raid o reidrwydd seilio unrhyw gyfundrefn ar un yr hen Reilffyrdd Prydeinig, pan oedd pryderon bod y wladwriaeth yn ymyrryd gormod yn y busnes o redeg trenau o ddydd i ddydd.

“Efallai y basen ni’n gallu edrych mwy ar fodel busnes hyd braich fel Glas Cymru, sy’n rhedeg Dŵr Cymru fel cwmni nid-er-elw. Does dim amheuaeth, tra bod enghreifftiau o welliannau hwnt ac yma, dylen ni fod yn edrych ar fuddsoddi hyd yn oed fwy ar wneud ein rheilffyrdd yn rhan o rwydwaith cludiant integredig a chyfoes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”

Mae ei lyfr, sydd yn fwy o deithlyfr tafod-yn-y-boch na’n gyhoeddiad am drenau, yn mynd ag o ar gylchdaith o amgylch Cymru gan gychwyn a diweddu yn yr enwog Gyffordd Dyfi ym Mhowys.

Aiff ar daith with diwrnod ar ffurf y ffigwr with sy’n mynd ag o i Amwythig, Caerdydd, Abertawe, Llandeilo, Llandrindod, Wrescam, Rhyl, Blaenau Ffestiniog ac ar dren bach Ffestiniog i ymuno gyda Lein y Cambrian ym Minffordd.

Cyffordd i Gyffordd, gan Ian Parri. Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn. £9.95.

Llun: Ian Parri yng Nghyffordd Dyfi

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4621/
2016-11-07T00:00:00+1:00Jonathan Davies yn dewis tîm delfrydol y Llewod…
Mawr yw’r dadlau ymysg cefnogwyr rygbi am dimau delfrydol ac mewn llyfr newydd mae un o sêr rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair, Jonathan Davies, yn taclo’r cwestiwn dadleuol: pwy oedd y 15 chwaraewr gorau erioed i gynrychioli’r Llewod?

Ar deithiau’r Llewod i Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia mae chwaraewyr da wedi datblygu’n chwaraewyr gwych. Ond pwy yw’r gorau oll, meddech chi?

Oedd Willie John McBride yn well na Martin Johnson?

Oedd Barry John yn well na Jonny Wilkinson?

Oedd unrhyw un yn well na Gareth Edwards?

Mae Jonathan Davies yn trin a thrafod hyn a llawer mwy yn ei lyfr newydd, The Greatest Lions XV Ever.

Dyma’r teitl diweddaraf yng nghyfres rygbi boblogaidd Gwasg Gomer.

Mae Jonathan yn cyfaddef mai un o’r pethau mae’n difaru fwyaf yw na chafodd y cyfle i wisgo crys y Llewod.

“Er mod i wedi joio chwarae rygbi’r gynghrair mae ‘na rywbeth arbennig am y Llewod.

"Mae’r camaraderie sy’n bodoli pan fo’r gwledydd yn dod ynghyd i greu’r tîm yn unigryw a dwi wir yn gobeithio y bydd y Llewod yn parhau ymhell i’r dyfodol ac yn mynd o nerth o i nerth.”

Meddai Jonathan: “Efallai fod y ffaith na chwaraeais i i’r Llewod yn rhoi mwy o wrthrychedd i’r dewisiadau dwi’n gwneud yn y llyfr hwn.

"Dyma fy nhîm i yn seiliedig ar berfformiadau unigol a llwyddiant wrth wisgo crys y Llewod.

"Pe bai’n rhaid i fi ddewis y XV Gorau Erioed o’r pedair gwlad yna Brian O’Driscoll a Martin Johnson fyddai’r ddau enw cyntaf ar y rhestr.

"Dwi’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r llyfr – a chofiwch mai fy marn i yw hyn – a dwi’n llawn sylweddoli fod barn pawb yn gallu bod yn wahanol!”

Mae The Greatest Lions XV Ever gan Jonathan Davies ac Alun Wyn Bevan ar gael am £19.99 yn eich siopau llyfrau lleol ac ar-lein neu’n uniongyrchol o wasg Gomer ar www.gomer.co.uk

Mae’r gyfrol yn gynnyrch a drwyddedwyd yn swyddogol gan y Llewod ac mae ar gael hefyd oddi wrth www.lionsrugby.com

Bydd y Llewod yn teithio Seland Newydd rhwng 3 Mehefin a 8 Gorffennaf 2017.

Bydd canran o werthiant y llyfr yn cael ei roi i Ganolfan Ganser Velindre, yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

The Greatest Lions XV Ever, Gwasg Gomer, £19.99, clawr caled

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4617/
2016-11-04T00:00:00+1:00Gomer yn cyhoeddi Bolycs Cymraeg!
Llawn lluniau, llawn hiwmor a llawn cyfeiriadau at sefydliadau Cymru, mae Bolycs Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.

S’neb yn saff wrth i awdur Bolycs Cymraeg dynnu blewyn o sawl trwyn.

Mae Bolycs Cymraeg yn gyfrol sy’n darlunio llwyddiant y ffenomen boblogaidd sy’n neud i’r genedl chwerthin bob dydd gyda’r pyst doniol a deifiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Bolycs Cymraeg yn awdur toreithiog ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn anhysbys i bawb ond ef neu hi ei hun mae’n postio a thrydar yn ddyddiol gan daflu sen, gwawdio a chorddi am y diweddara sy’n digwydd – ond nid mewn ffordd atgas, ciaidd ond gyda thinc yn y llais a fflach yn y llygad a pinshad fawr o ddrygioni.

Mae Bolycs Cymraeg yn mwynhau dilyniant torf o bobl sy’n taro mewn bob dydd i weld sut mae’n ail ddweud hanes Cymru llun wrth lun, a gair wrth air.

Mae gan Bolycs Cymraeg 17,349 o ddilynwyr ar Facebook, 4,844 ar Instagram, a 7,872 ar Twitter.

Mae Bolycs Cymraeg bellach ar werth yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk. Pris £4.99

Does dim sicrwydd pwy yn union yw Bolycs Cymraeg.

Cred rhai y crëwyd Bolycs Cymraeg fel enaid arallfydol o niwloedd a llynnoedd Eryri

Cred eraill mai gyrru lori yn ardal Croesoswallt yw hanes yr awdur.

Enillodd yr awdur ddim o wobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985.

Os hoffech wybod rhifau llwyddianus y loteri ar gyfer nos Sadwrn nesa – cysylltwch â Bolycs Cymraeg.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4593/
2016-10-31T00:00:00+1:00Nici Beech yn cyhoeddi llyfr coginio newydd
FYDDAI Nici Beech byth yn cymryd rhan yn y Great British Bake Off. “Tydw i ddim digon o berffeithydd,” meddai Nici, wrth drafod ei chyfrol goginio, newydd, Cegin.

Coginio bwyd blasus, maethlon, rhesymol ei bris ac yn ei dymor; dyna yw nod Nici Beech yn ei llyfr coginio cyntaf, Cegin.

Ac yn wir, cymryd sedd yng nghegin Nici a wnawn wrth droi tudalennau’r gyfrol hon.

Mae’r gyfrol yn cynnig ryseitiau o bob math; o benodau ar fanion i gawliau, o brydau llysieuol i bennod ar bysgod, a phennod arall ar brydau cig.

Wrth gwrs, caiff neb adael cegin Nici heb bwdin, felly mae digon o ryseitiau yma hefyd i’r rhai sydd â dant melys.

Ydi, mae Nici’n hen law yn y gegin, yn barod am heriau, ac yn ei geiriau ei hun “Byth yn dweud ‘Na’!”

“Cynnig bwyd iach, lleol ac o safon uchel heb greu gwastraff,” oedd moto ei chaffi Cegin yng Nghaernarfon, ac er bod drysau’r caffi ar gau am y tro, mae’r feddylfryd o baratoi bwyd da, gyda’r rhyddid i addasu ryseitiau yn ôl eich anghenion deiet personol, boed yn ddeiet figan, diwenith, neu brydyn sydyn, yn gryf yn y gyfrol hon.

“Dwi wastad wedi mwynhau coginio, a gwneud bwyd i lawer o bobl,” meddai.

“Mae’r elfen o ddiddanu fy ffrindiau gyda bwyd a diod da yn bwysig i mi.

“Fydda i ddim yn cynllunio llawer, jest treulio diwrnod yn y gegin, a mynd.

“Rhyw agwedd go with the flow sydd gen i yn aml wrth baratoi bwyd, ac addasu ryseitiau yn ôl be sy yn fy nghwpwrdd, arbrofi gyda blasau gwahanol, a be mae pobl yn eu hoffi.

“Dwi’n cael bag o lysiau ffres wedi eu tyfu’n lleol bob wythnos, felly dwi’n trio fy ngorau i ddefnyddio cynnyrch yn eu tymor, a gwneud y mwya o’r hyn sy gynnon ni.

“Ond wrth gwrs, does dim o’i le ar ddefnyddio ambell lysieuyn egsotig chwaith … mae ryseitiau’r gyfrol yn adlewyrchu hynny. Mae naws Cymreig a rhyngwladol i amryw o’r ryseitiau.”

Rhan bwysig o’r gyfrol yw lluniau lliw’r ffotograffydd Iolo Penri, sy’n rhoi blas cyflawn o gegin Nici, a’i steil unigryw.

Meddai Nici am y profiad o weithio gydag Iolo: “Roedd Iolo sy hefyd yn ffrind, yn arfer byw efo fi, felly mae o’n nabod fy null i o goginio a fy steil yn dda.

“Roedd o hefyd yn brofiad da gweithio efo rhywun sy’n eich deall chi, roedd Iolo’n awgrymu cefndiroedd i osod y prydau, hyd yn oed mewn berfa, ac ar stepen llechen, ac roedden ni’n dau’n cytuno ar be oedd yn gweithio, cyn i’r dylunydd Iestyn Lloyd, osod popeth yn y llyfr.”

Cegin brysur sydd yma, gyda’r prydau wedi eu gweini ar lestri lliw ac amrywiol o bob math, ar lieiniau bwrdd retro, matiau o garthenni Cymreig traddodiadol, ac offer arbennig gan gynnwys sosbenni dur a’r cymysgwr bwyd a brynodd Nici mewn siop ail law am £20.

“Mae ail-ddefnyddio pethau, a rhoi ail fywyd iddyn nhw yn bwysig i mi.

“Dwi’n prynu llawer o lestri o siopau ail law.

“Hefyd, dwi’n hoff o sut mae pethau wedi eu pacedu, mae hyd yn oed llun o dun anchovies gwag sy ar fy silffoedd mewn un llun, gan fy mod mor hoff o’r pacedu.

“Mi fyddai hyd yn oed yn cadw tun paprika, a storio pethau ynddo.”

Mae cyffro rhyfeddol am raglenni coginio ar y teledu wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, o gegin dymhestlog Gordon Ramsay, i gael y trwch crwst perffaith ar y Great British Bake Off.

Ydi, mae ein llygaid ni’n gaeth i geginau sy’n stemio dan bwysau amser, ond naws hamddenol braf sydd i gegin Nici yn y gyfrol hon.

Mae’r pwyslais ar fwynhau coginio gyda chynnyrch o safon ond fforddiadwy, a ryseitiau’n gymysg o gynhwysion cyfarwydd, a rhai llai cyfarwydd er mwyn creu prydau maethlon.

Ond mae bod yn ymarferol yn bwyisg i Nici wrth goginio, a’r lleiaf gwastrafflyd ydyn ni gyda bwyd, gorau oll: “Dwi’n ofnadwy am beidio taflu sbarion, a dwi wastad yn ffeindio ryseitiau newydd efo’r hyn sy gen i ar ôl.

“Ac er fod ryseitiau’r gyfrol yn cynnwys cynhwysion penodol, dwi hefyd yn hoff o arbrofi.

“Hynny ydi, fe wnes i couscous y diwrnod o’r blaen, a wnes i ddefnyddio cawl miso oedd gen i ar ôl yn lle stoc, roedd o’n hyfryd.

“Dwi eisiau i bobl ddilyn fy ryseitiau i efo meddwl rhydd, a rhoi’r hawl i bobl addasu neu arbrofi efo fy ryseitiau.”

Er mai Cegin yw llyfr coginio cyntaf Nici, mae hi wedi bod yn rhan o sawl menter blasus dros y blynyddoedd, o fod yn westai ac yn adolygydd ar raglen coginio Blas ar Radio Cymru, rhedeg caffi pop-yp, darparu’r bwyd ar gyfer lansiadau a digwyddiadau o bob math, cyn agor ei chaffi Cegin ei hun yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.

Bellach hi yw Cadeirydd Gŵyl Fwyd Caernarfon ers cael ei phenodi yn 2015, a’i phrosiect nesaf yw llunio rysait ar ffurf cywydd ar gyfer Barddas!

Bydd Nici yn Lansio ei chyfrol yn Clwb Canol Dre, Nos Wener, 4ydd o Dachwedd yng nghwmni Dyl Mei a Hywel Pitts.

Cyhoeddir gan Gwasg Carreg Gwalch. £16

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4583/
2016-10-28T00:00:00+1:00Sêr pêl-droed Cymru yn canmol llyfr newydd sy'n cofnodi eu llwyddiant
Mae chwarewyr o dîm pêl-droed Cymru wedi canu clod llyfr newyd sydd yn adrodd hanes y llwyddiant anhygoel brofodd y tîm yn ystod yr haf eleni.

Mae When Dragons Dare to Dream, a gyhoeddir yr wythnos hon, yn ddilyniant i gyfrol lwyddianus Jamie Thomas’ The Dragon Roars Again ac yn olrhain cynnydd anhygoel tîm pêl-droed Cymru drwy rowndiau terfynol Ewro 2016.

"Roedd cyraedd Ewro 2016 yn golygu popeth i ni, fel tîm, fel cenedl o bobl sydd wedi aros i weld Cymru yn cystadlu mewn pencampwriaeth fel hon," meddai Joe Ledley.

"Roedd cyraedd y pencampwriaeth ei hun yn deimlad anhygoel, ac roeddem ni ar dân i gyraedd Ffrainc a rhoi ein gwlad ar y map a gwneud y genedl yn falch ohonom unwaith yn rhagor.

"Fel chwarewyr fe gawsom ni amser arbennig – roedd pob dydd yn bleser i ni, ac rwy’n hoffi meddwl fod y cefnogwyr wedi mwynhau lawn cymaint a ni; doeddem ni jesd ddim eisiau i’r cyfan ddod i ben!" meddai Joe.

"Nid yw ceisio adrodd stori anhygoel ein cenedl yn ystod yr haf yn dasg hawdd ond mae Jamie wedi gwneud gwaith gwych ohoni gyda’r llyfr newydd.

"Mae’n lyfr y bydd rhaid i unrhyw gefnogwr pêl-droed ei ddarllen!" ychwanegodd.

Ewro 2016 oedd y pencampwriaeth mawr cyntaf i’r tîm cenedlaethol er 1958.

Gwireddodd lwyddiant y tîm freuddwyd sawl un o’i cefnogwyr gan arwain at y tîm yn cyraedd rownd cynderfynol Ewro 2016.

Mae’r gyfrol yn cynnwys dadansoddiadau manwl a mewnwelediad i’r daith a gymerwyd yn ystod yr haf ac yn cynnwys cyfweliadau ecsgliwsif gyda Mark Evans o Gymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW) sy’n cynnig cipolwg ar rai o’r paratoadau yn ystod y pencampwriaeth.

Mae rhai o’r chwarewyr a’r staff hefyd yn cynnig sylwadau gan gynnwys Joe Ledley a Chris Gunter.

"Rwy’n falch iawn o ddweud fod yma lyfr da iawn arall sydd yn adrodd stori anhygoel Cymru o safbwynt gymaint o bobl oedd yn rhan o’r cyfan – o’r chwarewyr i’r hyfforddwyr, y cefnogwyr, y newyddiadurwr – pawb!" meddai Chris Gunter.

Magwyd Jamie Thomas ar Ynys Môn. Bellach yn 23 mlwydd oed mae ganddo radd Meistr yn y Cyfryngau ac mae’n gefnogwr gydol oes sydd yn ysgrifennu ar llawer o agweddau ar bêl-droed Cymru i amryw o gyfryngau gwahanol.

"Roeddwn ar ben fy nigon o weld y canmoliaeth gafodd fy llyfr cyntaf i – o glod gan y bobl sydd yn ymwneud â charfan Cymru o ddydd i ddydd, i fy nghyd-gefnogwyr neu newyddiadurwr eraill," meddai Jamie.

Mae When Dragons Dare to Dream gan Jamie Thomas (£9.99, Y Lolfa) yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 1af.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4576/
2016-10-26T00:00:00+1:00Buddugoliaeth y cawr cenedlaetholgar yn 1966 – atgofion am is-etholiad y ganrif
Dyma gyfrol fydd yn eich cymryd chi ’nôl i 1966 ac i’r sgwâr yng Nghaerfyrddin ar y noson dyngedfennol honno yn ein hanes ni yng Nghymru - y noson pan aeth Gwynfor Evans mewn i’r Senedd fel aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru.

Y noson pan newidiodd tirwedd wleidyddol Cymru’n llwyr.

Cyfrol fechan, arbennig a phwysig yw hon, sy’n dal ysbryd y cyfnod cynhyrfus hwn yn ein hanes ac yn rhoi’r teimlad o fod yng nghanol yr holl gyffro i ni.

Dyma ddathliad o fuddugoliaeth etholiadol ysgubol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin yn 1966.

Yn y gyfrol ceir atgofion hynod bersonol gan bobol oedd yno ar y noson fawr honno, atgofion gan y teulu ac ar ben hynny dangosir beth yw gwaddol ‘Caerfyrddin yn ’66’ a bod hwnnw’n dal i atseinio ar hyd y degawdau.

Mae yma gerddi gan feirdd yn distyllu anferthedd y fuddugoliaeth ac yn clodfori gwaith Gwynfor dros ein cenedl.

Ceir cyfraniadau gan ymgyrchwyr a gwleidyddion sy’n cynnwys Leanne Wood, Dafydd Wigley, D. Cyril Jones, Winnie Ewing - Aelod Seneddol cyntaf yr SNP, a Bois Parc Nest.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys casgliad o luniau sy’n adlewyrchu prysurdeb y cyfnod yn ogystal â detholiad o adroddiadau’r wasg yn dilyn y canlyniad.

Daeth tro ar fyd yn 1966 pan etholwyd Gwynfor yn aelod seneddol cyntaf y Blaid yn Sir Gaerfyrddin, a gyda hanner can mlynedd ers yr is-etholiad hwnnw dyma gyfrol sy’n dangos ysbryd chwyldroadol y cyfnod ac sy’n rhoi atgofion y rhai oedd yng nghanol y bwrlwm ar bapur.

Meddai Dafydd Wigley: “Heb gyfraniad enfawr Gwynfor, ni fyddai gennym Gynulliad.

"Mae ei etifeddiaeth wedi rhoi hyder am obaith newydd.

"Ni fyddai chwaith gan genhedlaeth nesaf gyfle i adfer ein hiaith a’n diwylliant os y mynn, fel y mynnodd Gwynfor, nad yw tranc ein hunaniaeth yn anorfod.”

Mae golygydd y gyfrol, Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, yn byw gyda’i wraig, Siân, yn Llandysul ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Cymod.

Yn fab i Gwynfor Evans mae’n Weinidog gyda’r Annibynwyr.

Mae Gwynfor: Cofio ‘66 ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol wrth y cyhoeddwyr, Gwasg Gomer / 01559 363090

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4552/
2016-10-24T00:00:00+1:00Noson i ddathlu partneriaeth Gomer ag Ysgol Bro Teifi ac i lansio nofel newydd gan Branwen Davies
Ar nos Fawrth, 1af o Dachwedd bydd noson lansio partneriaeth Gomer ag Ysgol Bro Teifi yn Llyfrgell yr ysgol.

Yn ogystal, bydd Branwen Davies, awdures newydd a chyn-ddisgybl o’r ardal, yn lansio ei nofel gyntaf i blant, Seren y Dyffryn, yno.

Dyma noson i ddathlu’r cydweithrediad rhwng y ddau le ac i gael blas ar nofel newydd sbon.

Bydd hefyd cyfle i weld y stôr arbennig o lyfrau mae’r wasg wedi rhoi i lyfrgell yr ysgol a chael cip o amgylch yr adnoddau newydd sydd yno.

Nofel afaelgar gyntaf Branwen Davies yw Seren y Dyffryn, awdures sy’n gyfarwydd iawn â byd ceffylau ac sy’n byw yn ardal Llandysul.

Mae’r stori yn un ysgafn ac yn seiliedig ar helyntion merch ifanc sydd wrth ei bodd â cheffylau.

Mae ysgrifennu cryno a chlir y nofel yn addas i blant rhwng wyth ac unarddeg mlwydd oed.

Gydag arlunwaith Jessica Thomas yn addurno sawl tudalen, fydd y gyfrol hon yn annog plant, sydd yn dwlu ar geffylau, i ddarllen.

“Wedi cyfnod gweddol anodd gartref a’i rhieni wedi gwahanu, mae Cadi Rowlands wrth ei bodd yn cael anghofio’r cyfan drwy ymweld â fferm Blaendyffryn, a’i ffrind arbennig, Seren – un o’r merlod prydferthaf i gael ei magu gan y fridfa erioed

Wrth i’r berthynas rhwng y ddwy ddatblygu, dyna ddechrau ar ambell antur gyffrous hefyd!”

Mae Branwen wedi bod yn gweithio ym myd y cyfryngau ers dros ugain mlynedd bellach, gan weithio gyda chwmnïau fel Pedol, BBC Wales a Telesgop, ond mae hi wedi dablo mewn caws a gwlân hefyd!

Erbyn hyn mae hi wedi symud yn ôl i Ddyffryn Teifi ac yn fam i ddau blentyn ifanc iawn.

Mae hi’n dwlu ar ysgrifennu’n greadigol a chystadlu gyda’i cheffylau mewn sioeau dressage.

Cyn y noson bydd Branwen yn cynnal sesiwn o weithgaredd yn seiliedig ar Seren y Dyffryn gyda disgyblion blwyddyn 6 ar ddydd Llun, 31ain o Hydref.

Bydd croeso i bawb yn y lansiad. Ond gan fod cyfyngiadau ar y niferoedd yn Llyfrgell yr ysgol, os hoffech fynychu’r noson, cysylltwch a Gomer erbyn 25ain o Hydref: elen@gomer.co.uk / 01559 363090.

http://www.y-cymro.com/llyfrau/i/4511/
2016-10-17T00:00:00+1:00