Llyfrau

RSS Icon
22 Mawrth 2012

Mihangel Morgan: Dewin y Straeon Dyfeisgar

Sut y byddai Caradog Prichard yn ymdopi gyda cholli ei gof ar ôl ymddeol? Beth ddigwyddodd i Evan Roberts ar ôl i fwrlwm y Diwygiad ddod i ben? Beth oedd y foment allai fod wedi ysbrydoli Kate Roberts i feddwl am yr iaith Gymraeg fel ystlum mewn cerdd i’r Faner? A sut un oedd ‘hardd wreangyn’ Dafydd ap Gwilym, a beth oedd ei wir farn am ei feistr?

Dyma rai o’r cwestiynau y mae dychymyg unigryw Mihangel Morgan yn ceisio eu hateb yn ei gasgliad o straeon newydd. Yn Kate Roberts a’r Ystlum mae’n bachu rhai o brif ffigyrau llên a hanes Cymru – ac ambell gymeriad arall – a’u gosod mewn sefyllfaoedd annisgwyl, lle cawn eu gweld fel bodau meidrol yn eu holl gryfder neu wendid. Fe fydd y straeon yn eich goglais, eich synnu, eich anesmwytho ac yn cyffwrdd â’ch calon.

“Mae Mihangel Morgan yn ymateb yn greadigol i gynnyrch celfyddydol y gorffennol,” meddai Dr Jerry Hunter am Kate Roberts a’r Ystlum.

“Mae yma ddwyster a digrifwch, tynerwch a thristwch, myfyrdod a menter – a phob stori unigol yn gorfodi’r darllenydd i weld y cyfarwydd mewn ffordd gwbl wahanol. Ni allaf ddisgrifio’r gyfrol gyfoethog hon ond fel cydymaith ffuglennol i lenyddiaeth Cymru.”

Cydnabyddir Mihangel Morgan fel un o awduron gorau a mwyaf cynhyrchiol y Gymru gyfoes, ac mae disgwyl mawr bob amser am waith newydd ganddo. Dyma ei seithfed cyfrol o straeon. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Pantglas, gan y Lolfa y llynedd.

Fe fydd y gyfrol yn cael ei lansio nos Fercher yr 28ain o Fawrth am 7.30 y.h. yn Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg, Aberystwyth, a hynny yng nghwmni Bleddyn Huws a Jeremy Turner. Croeso cynnes i bawb!

Kate Roberts a’r Ystlum a dirgelion eraill, £7.95, Mihangel Morgan, Y Lolfa


Rhannu |