Llyfrau

RSS Icon
22 Mawrth 2012

Gŵyl Lenyddiaeth Newydd i Blant yng Nghaerdydd

Bydd Caerdydd, cartref Roald Dahl a Doctor Who, yn gartref i’w Gŵyl Lenyddiaeth gyntaf i Blant yn 2013. Fe’i cynhelir rhwng dydd Mercher 20 – Sul 24 Mawrth 2013. Bydd yn dwyn ynghyd rhai o awduron a darlunwyr gorau byd llyfrau plant, gan roi de Cymru ar fap llenyddiaeth plant unwaith eto.

Yr awdures doreithiog Jacqueline Wilson yw’r cyntaf i gadarnhau ei rhan yn rhaglen yr Ŵyl. “Rwyf wrth fy modd yn derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r Ŵyl gyntaf yng Nghaerdydd sydd wedi ei hanelu yn benodol at ddarllenwyr iau,” meddai’r cyn Awdur Llawryfog i Blant. “Mae llyfrau yn rhoi rhwydd hynt i blant fod yn anturiaethwyr bach, er mwyn darganfod eu hunain a’r byd ehangach, ac mae’n hynod o bwysig annog a dathlu hyn.”

Ni fu llenyddiaeth i blant erioed mor fywiog, amlwg a chyffrous a dyma’r amser delfrydol i ddechrau gŵyl yng Nghymru sydd yn rhoi’r sylw dyledus i ddarllenwyr ifanc. Bydd yr Ŵyl yn galluogi pobl ifanc i gwrdd, ac i weithio ochr yn ochr â rhai o’r meddyliau mwyaf creadigol ym myd llyfrau plant. Bydd yn hyrwyddo llythrennedd a’r celfyddydau gyda rhaglen ddyfeisgar a hygyrch o ddigwyddiadau diwylliannol mewn mannau allweddol ym mhob rhan o Gaerdydd, yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg.

Trefnir Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd gan Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

“Byddwn yn trawsnewid Caerdydd yn fyd hud o chwedlau a chymeriadau byw,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn “Pa well ffordd i gychwyn blwyddyn o weithgarwch i blant â phobl ifainc dan adain Llenyddiaeth Cymru na deffro’u dychymyg gyda gŵyl fawreddog yn y brifddinas.”

“Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd yn ddigwyddiad newydd allweddol ar gyfer y ddinas, gan ychwanegu at raglen o ddigwyddiadau sydd eisoes yn un brysur,” ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Howells, Aelod Gweithredol Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden. “Bydd y Cyngor yn helpu creu’r Ŵyl, yn rhaglennu ac yn darparu lleoliadau fel Castell Caerdydd. Bydd yn ffordd hwylus o annog plant i ddarllen ac, yn fwy pwysig, i fwynhau darllen”

Mae prosiectau fel Strategaeth Llythrennedd Cyngor Caerdydd a Chynllun Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod bod angen maethu sgiliau darllen ac ysgrifennu creadigol: bydd Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd yn gyfle i bobl ifanc fynd i’r afael ag ystod ehangach o lyfrau a syniadau nac erioed o’r blaen.

Meddai’r gweinidog Addysg Leighton Andrews AC: “Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Plant yng Nghaerdydd o fudd mawr i’r ddinas. Fel Gweinidog, un o’m blaenoriaethau yw codi safonau llythrennedd. Rhaid cefnogi unrhyw beth sydd yn ysbrydoli plant a phobl ifainc y ddinas i ddatblygu cariad tua at ddarllen ac ysgrifennu. Rwy’n dymuno pob hwyl i’r Ŵyl.”
Caiff gwybodaeth ychwanegol ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn wrth baratoi ar gyfer digwyddiadau’r gwanwyn nesaf.

Llun: Jacqueline Wilson

Rhannu |