Llyfrau

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Calon y Genedl Rygbi: Hanes Stadiwm Enwocaf Cymru

Parc yr Arfau: darn o dir sanctaidd lle plannwyd atgofion miloedd o gefnogwyr rygbi am ganrif a mwy. Mae llyfr newydd am y stadiwm, The Arms Park: Heart of a Rugby Nation yn sicr o atseinio atgofion gwahanol ymhlith pob un sy’n agor ei glawr – mae gennym ni oll ein stori am deithiau i’r brifddinas, boed hynny yn brynhawn ym Mharc yr Arfau, yn y Stadiwm Genedlaethol neu Stadiwm y Mileniwm.

Crewyd hanes ym Mharc yr Arfau yn ogystal, digwyddiadau a newidiodd rygbi’r byd am byth. Cyn i Gymru drechu’r All Blacks ym 1905, dechreuodd y cefnogwyr cartref ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ mewn ymateb i’r Haka, a dyna ddechrau, felly, ar yr arfer o ganu’r anthem genedlaethol cyn pob gêm rhyngwladol. Ers hynny mae’r tir wedi profi tair Oes Aur ym hanes rygbi Cymru, ac efallai’n wir ein bod ar drothwy’r nesaf.

Serch hynny, nid yw’r llyfr ar gyfer y cefnogwyr rygbi’n unig – fe gynhaliwyd amryw o ddigwyddiadau pwysig yn hanes chwaraeon y byd ym Mharc yr Arfau, megis gemau pêl droed a rasys milgwn, bocsio a chriced, a llawer iawn mwy. Gall yr atgofion hyn amrywio o fuddugoliaeth y tîm rygbi cenedlaethol, i adegau o athrylith pur gan unigolion. Beth am y cais honno gan Gareth Edwards yn erbyn yr All Blacks? Neu ydach chi’n ddigon ffodus i fod wedi gwylio’r cewri yn carlamu i’r gad, megis Billy Meredith, Ian Rush, Monkey Gould, Shane a George North?

 

Dyma lyfr i danio’r dychymyg, i brocio’r cof, ac i’w fwynhau gan y genedl gyfan.

 

Rhannu |