Llyfrau

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Nofel y mis yn torri tir newydd

Am y tro cyntaf erioed yn y byd cyhoeddi Cymraeg bydd llyfr yn cael ei chyhoeddi yn electroneg ag ar bapur yr un pryd, a hynny gan wasg y Lolfa.

Mae nofel newydd Gareth F Williams, Y Tŷ Ger y Traeth, yn Nofel y Mis, Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn ogystal â medru’i darllen ar y Kindle, mi fydd hefyd posib ei darllen ar unrhyw ddyfais arall o’i lawrlwytho oddi ar wefan Gwales.

Dyma nofel sy’n ymdrin â phynciau hynod gyfoes, gan ei bod yn troi o amgylch bywyd Sara, merch 17 oed sy’n brifo’i hun yn fwriadol â chyllell. Mewn ymdrech i wneud synnwyr o’i bywyd, mae hi’n dianc o gartref ei rhieni yng Nghaerdydd i fyw at ei thaid – hen hipi sy'n byw ger y traeth ym Morfa Bychan.

Mae yna ddirgelwch y tu ôl i'r gwrthdaro rhwng cenedlaethau’r teulu, ac yn raddol fach mae’r hanes yn cael ei ddatgelu wrth i berthynas Sara a'i thaid ddatblygu.

“Roedd hi’n anodd ysgrifennu am sefyllfa Sara ar brydiau,” eglura Gareth F Williams, “oherwydd dim ond ffin denau sydd ’na rhwng swnio’n nawddoglyd, ac yna swnio'n ddidaro. Ro’n i hefyd am i’r nofel lifo, a darllen yn ddigon rhwydd, rhywbeth sydd ddim yn hawdd wrth sgwennu am bwnc mor anodd. ‘Easy reading is damned hard writing’ meddai Nathaniel Hawthorne, a gwir yw hynny bob gair.”

Heddiw, mae un o bob deuddeg person ifanc yn niweidio’u hunain, a chreda’r awdur ei fod yn bwnc prin ei ymdriniaeth mewn nofelau Cymraeg. Mae Gareth F Williams yn awdur toreithiog a phoblogaidd, ac yn sgwennu’n ddiflino i arlwyo’r arddegau yn ogystal ag oedolion. Enillodd wobr Tir na nOg bedair gwaith.

Rhannu |