Llyfrau

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Cyn-enillwyr yn ymgiprys am wobrau 2012

Mae nifer dda o’r awduron sydd wedi cyrraedd rhestrau byr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2012 wedi cipio’r gwobrau yn y gorffennol. Bydd disgwyl mawr, felly, i weld pwy ddaw i’r brig yn 2012.

Cyflwynir gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i anrhydeddu gwaith awduron a darlunwyr llyfrau plant, a hynny mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau’r flwyddyn. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) a Chymdeithas Lyfrau Ceredigion.

Ar restr fer y categori cynradd eleni mae Manon Steffan Ros, a enillodd y wobr yn 2010 gyda’i nofel gyffrous, Trwy’r Tonnau. Nofel antur, hyfryd o sensitif, yw Prism, y gyfrol sydd ar restr fer 2012. Pan aiff Twm i wersylla gyda’i frawd ieuengaf, Math, sy’n awtistig, daw pob math o helbulon i’w rhan.

Un arall o’r cyn-enillwyr yw D. Geraint Lewis, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 1995 am y gyfrol Geiriadur Gomer i’r Ifanc – cyfeirlyfr sydd wedi profi’n adnodd gwerthfawr mewn cartrefi ac ysgolion dros y blynyddoedd. Eleni, Mewn Geiriau Eraill, Thesawrws i Blant yw’r gyfrol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Roedd Mererid Hopwood yn un o’r beirdd a gyfrannodd at y gyfrol Byd Llawn Hud, a ddaeth i’r brig yn 2005. Straeon o’r Mabinogi yw’r gyfrol sydd ganddi ar y rhestr fer eleni, a honno wedi’i darlunio a’i dylunio’n gelfydd iawn gan Brett Breckon ac Olwen Fowler. Y gyfrol arall yn y categori yma yw Bob O’Chwith, llyfr stori-a-llun digri iawn gan Haf Roberts, wedi’i ddarlunio gan Giles Greenfield.

Mae yna bedwar teitl ar restr fer y categori uwchradd hefyd ac mae tair o’r awduron yn gyn-enillwyr. Mae Lleucu Roberts wedi dod i’r brig yn y categori yma ddwy waith, yn 2009 a 2011. Nofel seicolegol o’r enw Siarad sydd ar y rhestr eleni. Enillodd Gwenno Hughes y wobr yn 2000 am ei nofel Ta-ta Tryweryn! Eleni, Rhyfel Cartref sydd ar y rhestr, a checru rhieni’r prif gymeriad yw’r hyn sy’n creu’r rhyfel cartref.

Enillodd Rhiannon Wyn Wobr Tir na n-Og yn 2010 gyda’i nofel gyntaf, Codi Bwganod, ac mae ei hail nofel – Yr Alarch Du – wedi cyrraedd rhestr fer 2012. Stori am ffawd yw hon, am berthynas ac am ddiweddglo trasig. Un o gyfrolau’r gyfres Hanes Atgas – Y Ddau Ryfel Byd Enbyd – yw’r teitl arall ar y rhestr. Mae’r gyfres yma o lyfrau gan Catrin Stevens, wedi’u darlunio gan Graham Howells, yn cyflwyno hanes mewn dull difyr a phoblogaidd.

Dywedodd Nia Gruffydd, Cadeirydd Panel Dewis y Gwobrau Cymraeg, ‘Roedd cryn amrywiaeth yn y cynnyrch eleni ac roedd ehangder yr arlwy yn golygu bod yma rywbeth at ddant pawb.’

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, ‘Mae’n braf iawn medru llongyfarch ein hawduron, darlunwyr a chyhoeddwyr ar safon ac amrywiaeth y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod 2011.’

Mae manylion y llyfrau ac adolygiadau ohonyn nhw i’w gweld ar www.gwales.com a cheir gwybodaeth am yr awduron ar http://bit.ly/cyhoeddiadau.

Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri, ddydd Iau, 7 Mehefin, ac enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn ystod cynhadledd CILIP Cymru, ddydd Iau, 17 Mai 2012.

Teitlau rhestrau byrion 2012:

Categori Cynradd Cymraeg
Bob O’Chwith – Haf Roberts, lluniau gan Giles Greenfield (Gwasg Carreg Gwalch)
Mewn Geiriau Eraill, Thesawrws i Blant – D. Geraint Lewis (Gomer)
Prism (Cyfres yr Onnen) – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Straeon o’r Mabinogi – Mererid Hopwood, lluniau gan Brett Breckon (Gomer)

Categori Uwchradd Cymraeg
Yr Alarch Du (Cyfres y Dderwen) – Rhiannon Wyn (Y Lolfa)
Y Ddau Ryfel Byd Enbyd (Hanes Atgas) – Catrin Stevens (Gomer)
Rhyfel Cartref (Cyfres Pen Dafad) – Gwenno Hughes (Y Lolfa)
Siarad (Cyfres y Dderwen) – Lleucu Roberts (Y Lolfa)

Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn
Full Moon – Jenny Sullivan (Pont)
Nelson at Sea – Simon Weston gyda David FitzGerald, lluniau gan Jac Jones (Pont)
Saving SS Shannon – Phil Carradice (Pont)

 

Rhannu |