Llyfrau

RSS Icon
08 Rhagfyr 2011

4 miliwn o blant heb fod yn berchen ar lyfr, yn ôl ymchwil newydd

Yn ôl ymchwil newydd, mae dros 4 miliwn o blant ym Mhrydain heb fod yn berchen ar yr un llyfr.

Mae’r ymchwil a wnaed gan y National Literacy Trust yn dangos bod y nifer o blant nad ydynt yn berchen ar lyfr wedi cynyddu er 2005, sef y tro diwethaf y cynhaliwyd y pôl. Bryd hynny, dangoswyd fod un ym mhob deg plentyn heb fod yn berchen ar lyfr, ond erbyn heddiw mae’r ffigur yn un ym mhob tri phlentyn.

Yn seiliedig ar arolwg a wnaed gyda 18,000 o blant rhwng 8 a16 mlwydd oed, dengys yr ymchwil fod bechgyn yn llai tebygol na merched o fod yn berchen ar lyfrau.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod plant sy’n gymwys i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim – sy’n ddull o fesur tlodi – yn llai tebygol o fod yn berchen ar lyfr na'u cyfoedion mwy cefnog.

Mae casgliadau’r ymchwil yn dangos bod plant sy’n berchen ar lyfr yn fwy tebygol o berfformio’n well yn yr ysgol.

Canfu'r astudiaeth fod plant nad ydynt yn berchen ar lyfr dair gwaith yn fwy tebygol o gael lefelau llythrennedd yn is na'r norm o’u cymharu â rhai sy’n berchen ar lyfrau.

Daeth yr ymchwilwyr hefyd i’r casgliad fod 75% o blant sy’n darllen llyfr bob wythnos yn rhagori ar y lefel cyrhaeddiad a ddisgwylir ganddynt, o'i gymharu â 28.6% o blant nag oedd yn darllen llyfr o gwbl.

Yn ôl Delyth Humphreys, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yn y Cyngor Llyfrau: “Mae’r ymchwil newydd gan y National Literacy Trust yn fater o gonsýrn gan fod yr adroddiad yn dangos cysylltiad uniongyrchol rhwng y nifer o lyfrau yn y cartref a lefelau darllen plant.

"Mae’r Cyngor Llyfrau’n trefnu nifer o brosiectau – megis y Cymunedau Darllen a digwyddiadau hyrwyddo darllen a gynhelir i ddathlu Diwrnod y Llyfr – i ysbrydoli plant i ddarllen ac i danlinellu’r pleser a geir o wneud hynny.

"Rydyn ni hefyd yn cynnal cystadlaethau yn y wasg, megis Llyfrau i Dadau, sy’n rhoi llyfrau am ddim fel bod modd i deuluoedd gael cyfle i fwynhau darllen gyda’i gilydd. Gan fod yr arolwg hefyd yn dangos cysylltiad cryf rhwng y gallu i ddarllen a derbyn llyfrau fel anrhegion, mae’n tanlinellu pwysigrwydd cynllun Rhoi Llyfr yn Anrheg, sy’n rhan o’n gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.”

Mae rhai o awduron Cymru wedi ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil. Yn ôl Mared Llwyd, awdur ac athrawes yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, “Mae’r ystadegau hyn ychydig yn frawychus. Fel awdur ac athrawes, teimlaf ei bod yn drueni mawr fod cynifer o blant yn colli allan ar un o'r profiadau mwyaf cyfoethog a chyffrous y gallent ei gael, sef codi llyfr ac ymgolli’n llwyr ym myd dychymyg."

Yn ôl Kate Williams o Sarnau, Ceredigion, sy’n fam i fab teirblwydd oed, “Mae hon yn sefyllfa hynod drist – ni ddylai unrhyw blentyn gael ei amddifadu o’r pleser a geir o ddarllen. Rydw i, neu fy ngŵr Huw, yn darllen gyda Steffan bob nos, ac mae e wrth ei fodd yn gwrando arnon ni’n dod â’r straeon yn fyw.

"Rwy’n credu bod darllen a llyfrau’n hanfodol i ddatblygiad plentyn, gan fwydo’i ddychymyg a datblygu’i eirfa. Efallai na all pawb fforddio prynu llyfrau, ond rhwng siopau llyfrau Cymraeg a llyfrgelloedd lleol – neu hyd yn oed ffeiriau a siopau ail-law – mae digonedd ar gael, a does dim esgus dros beidio â chyflwyno plant i’r pleser a geir o ddarllen.”

Llun: Kate Williams gyda Steffan Arnallt

Rhannu |