Llyfrau

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

Trychineb y tyrau yn Efrog Newydd a damwain yng Nghaerdydd – nofel newydd Lleucu Roberts

Efrog Newydd 9/11. Mae awyren ar fin taro un o dyrau’r Twin Towers.

Caerdydd 9/12. Mae car yn taro merch ifanc a’i lladd. Ym meddwl Mair, ei mam, mae’r ddau ddigwyddiad yn mynd yn un. Mae hi’n methu anghofio na dianc rhag y dryswch.

Dyma fyd Siarad, nofel newydd Lleucu Roberts, awdures boblogaidd sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Mae’n stori gyfoes iawn sy’n trafod gwallgofrwydd ac anallu pobl i gyfathrebu gyda’i gilydd.

 

Deng mlynedd ar ôl cyflafan 9/11 mae pobl yn dal i gofio. Mae’r lluniau yn dal yn fyw ar deledu a’r we. Deng mlynedd ar ôl marwolaeth Marged, mewn damwain ar un o strydoedd y Brifddinas, mae’r golled yn dal yn fyw ym meddwl Mair. “Wnaeth nifer uchel y marwolaethau-cyn-pryd y diwrnod cynt ddim atal un arall y diwrnod wedyn, fwy nag a wnaethon nhw erioed,” meddai Lleucu Roberts, un o’n awduron mwyaf poblogaidd i oedolion a’r arddegau. “‘Hedfan a llusgo ’run pryd’ wnaeth y blynyddoedd ers hynny i Mair, mam Marged. Nid yw hi eto wedi gallu camu ymlaen o’r digwyddiad a roddodd stop ar normalrwydd y teulu.”

 

Mae byd operâu sebon yn fwy diogel i Mair, ddeng mlynedd ar ôl y ddamwain, ac mae’n treulio ei hamser sbâr i gyd yn eu gwylio. Mae John, y gŵr, yn sgwennu operâu sebon, ac yn ei chael hi’n haws siarad gyda ffrindiau ar-lein. Y cyfrifiadur yw byd Siôn 18 oed a thrwy hwnnw mae ef a Rachel, ei gariad, yn cyfathrebu ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

“Haws gan rai fyw bywydau’r bocsys na’u bywydau nhw eu hunain a siarad am yr hyn a ddigwyddodd,” meddai Lleucu Roberts sy’n fam i bedwar o blant. “Haws gan Mair siarad â Marged a byw sebon yn hytrach na wynebu ei realiti ei hun sy’n prysur freuo.

 

“Siôn, y myfyriwr mewn cariad, yw’r unig un sy’n gweld byd y tu allan i’r bocs, yr unig un o’r tri sy’n codi llais rhag ein cau ni i gyd mewn bocsys cyfleus, a’n bwydo â sebon.”

 

Mae’r cymeriadau a’r pynciau’n sicr o apelio at oedolion a’r arddegau wrth i’r nofel gyrraedd diweddglo dirdynnol.

 

Enillodd Lleucu Roberts wobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff – Guto S. O Sir Aberteifi yn wreiddiol, mae’n byw yn Rhostryfan ers pedair blynedd ar ddeg.

“Dyma nofel am wallgofrwydd, am fethu cyfathrebu, am wirionedd a rhith – nofel sy’n siarad am ein dyddiau ni,” meddai.

 

Mae gan Lleucu nofel arall i oedolion yn y wasg ar hyn o bryd ac mae’n gweithio ar nofel arall i blant uwchradd.

Rhannu |