Llyfrau

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

Cyd-ddigwyddiad neu ffawd?

MAE nofel ddiweddaraf Rhiannon Wyn yn llawn cyd-ddigwyddiadau – digwyddiadau y crybwyllwyd gan ddynes dweud ffortiwn mewn ffair. Neu ai ffawd sydd sydd wedi rhag-drefnu’r cyfan? Mae’r stori’n arwain at ddiweddglo erchyll yng nghysgod Castell Caernarfon, a’r alarch du yn gweld y cyfan. Un eiliad, un castell, un alarch ac un corff.

Nofel dywyll a theimladwy am berthynas tri chymeriad yw Yr Alarch Du. Meddai’r awdur: “Er nad ydw i wedi ei enwi’n uniongyrchol, mae’r nofel wedi ei lleoli yng Nghaernarfon. Mae hi’n dref hynod – yn cynnwys y cyfuniad ro’n i’n chwilio amdano o ddosbarth canol a gweithiol, yn ogystal â hiwmor y sgwrs a phresenoldeb y castell unigryw a’r elyrch sy’n symbol yn y llyfr. Mae damcaniaeth yr alarch du yn cyfeirio at ddigwyddiad na ellir ei rag-weld, ac sy’n cael effaith andwyol a phell-gyrhaeddol ar fywydau a digwyddiadau, a’r daith sy’n arwain at hynny. Dyna ydi craidd y nofel.”

Mathew, John (ei dad) a Lara (ei gariad) yw’r prif gymeriadau ac mae’r nofel mewn tair rhan – pob rhan wedi’i neilltuo i adrodd y digwyddiadau o safbwynt pob cymeriad yn ei dro. Mae Lara’n cael ei swyno gan Mathew, sy’n cynnig awgrym o fywyd gwell, gwahanol iddi hi. Perthynas stormus yw hon ond mae’r ddau’n sylweddoli bod rhywbeth mawr ar droed a hynny’n eu clymu gyda’i gilydd. Mae John yn creu gwrthdaro gwahanol. Mae’n alcoholig, wedi rhoi’r gorau i’w waith fel ffotograffydd, a’i wraig ddosbarth canol, gapelog, barchus wedi dioddef llawer yn sgil problemau ei gŵr.

Meddai Rhiannon: “Dw i’n cofio gwylio rhaglen deledu am Callum Best, mab George Best, yn ymweld â phlant i rieni â phroblemau diod. Roedd yn bwnc dyrys a chymhleth, ond sefyllfa yn unig oedd hon. Mi ddaeth y stori wedyn o siarad â ffrind am ddweud ffortiwn ac ro’n i wedi bod yn darllen tipyn am y cysyniad o synchronicity. Mi welais fod y thema ffawd yn datblygu – pa mor gaeth neu rydd ydi unigolyn ac felly o fan’na y daeth y syniad ac wedyn datblygodd y cymeriadau.”

Cafodd Rhiannon Wyn ei magu yn ardal Carnarfon ac mae’n byw yn Llanwnda gyda’i gŵr. Dyma ei hail nofel. Enillodd ei nofel gyntaf, Codi Bwganod, Wobr Tir na n-Og 2010.
Yn ôl Rhiannon: “Mi fues i’n meddwl am y stori, gwenud gwaith ymchwil a phlotio am dros flwyddyn ond yna mi gafodd ei hysgrifennu yn ystod eira gaeaf y llynedd. Dw i’n gobeithio ei bod hi’n nofel sy’n codi cwestiynau ac yn gwneud i rywun feddwl. Mae wedi ei hanelu at yr arddegau hŷn ond mae’r themâu yn reit dywyll a dw i’n gobeithio y gall apelio at oedolion hefyd.”
Yr Alarch Du, Y Lolfa, £5.95

Rhannu |