Llyfrau

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

‘O’r Witwg i’r Wern’

Yng Nghaffi Beca, Efail-wen, ar nos Iau, 15 Rhagfyr, fe lansir llyfr cymunedol dwyieithog, hir-ddisgwyliedig, ardaloedd Mynachlog-ddu, Llangolman a Llandeilo.

Golygwyd y llyfr 500 tudalen O’r Witwg i’r Wern – teitl Saesneg Ancient Wisdom and Sacred Cows - gan yr awdur a’r newyddiadurwr, Hefin Wyn, o gymuned gyfagos Maenclochog, ac fe fu’r gwaith ar y gweill ers ymron tair blynedd.

Disgrifia’r golygydd y tair cymuned fel casgliad o gartrefi ar wasgar, yng nghysgod y Preselau, yn hytrach na phentrefi cyflawn. Mae gan bob cymuned ei thraddodiadau hanesyddol cryf er gwaethaf yr erydu a fu o ganlyniad i’r newidiadau cymdeithasol diweddar:

“Dros y degawdau diwethaf gwelwyd newidiadau dirfawr yng ngwead y gymdeithas. Ond fe fu byd-olwg llawer o’r dynion dwâd yn fodd i werthfawrogi gogoniant y fro o’r newydd. Mae’r gyfrol hon yn giplun o fywyd yng nghesail y Preselau.

Mae teitl y gyfrol yn ddisgrifiad daearyddol o’r ardal dan sylw sy’n ymestyn o darddiad afon Witwg yn y gogledd ddwyrain draw at darddiad afon Wern yng ngorllewin y plwyf, ac sydd wedyn yn rhedeg lawr i gyfeiriad Rhydwilym i ymuno â Chleddau Ddu. Roedd gan Waldo Williams, y bardd a dreuliodd gyfnod o’i blentyndod yn yr ardal, linell yn ei gerdd ‘Preseli’ sy’n sôn am ‘A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail’.

Mae’r gyfrol yn clodfori nifer o arwyr y cilcyn hwn o dir gan gynnwys dau chwaraewr rygbi rhyngwladol, Brian Williams a Dai Evans, Penygraig; y Parchg R. Parri-Roberts a fu’n weinidog ar Eglwys Bethel am 44 mlynedd gan chwarae rhan amlwg ym ‘Mrwydr y Preselau’ ar ddiwedd y 1940au; W. R. Evans, sefydlydd Bois y Frenni sy’n dal i ganu ei gyfansoddiade; E. Llwyd Williams a ysgrifennodd yn helaeth am yr ardal ac yr atgynhyrchir rhai o’i bortreadau o gymeriade’r fro heb anghofio, wrth gwrs, Twm Carnabwth, arweinydd y Beca yn 1839, a datgelir nifer o ffeithiau newydd am ei hynt, yn ogystal â photsiers lleol a oeddent yn sicr yn arwyr gwerin yn eu cyfnod.

Rhoddir sylw hefyd i anghydfod lleol yn 1890 adeg Rhyfel y Degwm pan wysiwyd nifer o drigolion i’r llys yn Arberth am iddyn nhw rwystro beilïaid rhag atafaelu eiddo. Gofynnwyd am iawndal o £50 ond penderfynodd yr ynadon bod £25 yn ddigonol.

Braint yw cael cyhoeddi erthygl am Niclas y Glais gan ei or-nai, Glen George, sy’n olrhain gyrfa ei hen wncwl ac yn tafoli ei gynnyrch llenyddol. Ganwyd T. E. Nicholas ar gyrion plwyf Mynachlog-ddu mewn bwthyn o’r enw Llety, sydd bellach yn adfail, ger Pentregalar.

Ceir sypyn go lew o atgofion gan gyfranwyr a fagwyd yn yr ardal mewn oes a fu ac sydd bellach yn byw mewn llefydd megis Dinbych-y-pysgod, Penrhyn-coch, Dinas Mawddwy, Pontarddulais ag Aberhonddu, ac mor bell i ffwrdd â Chofentri, Caerlŷr a hyd yn oed Seland Newydd.

Mae’r teitl Saesneg Ancient Wisdom and Sacred Cows yn deitl erthygl gan Martin Gulbis, na threuliodd fwy nag ychydig fisoedd yn y fro ond, serch hynny, yn ddigon hir i werthfawrogi ei gogoniant. Mae ei agwedd yn cynrychioli safbwynt llawer o’r dynion dwâd am eu bod yn gweld yr hyn a gymer y brodorion yn ganiataol mewn goleuni newydd. Rhyfedda Martin at hirhoedledd y bryniau ac at y cysylltiad â cherrig Côr y Cewri. Mae’n grediniol fod yna rinweddau arbennig os nad rhyw hud oesol yn perthyn i’r cylchoedd cerrig a’r cromlechi.

Treuliodd Martin gyfnod ar fferm Plas-dwbl lle’r arferid dulliau amgen o amaethu yn agos at y pridd ac mewn dull cynaliadwy. Ceir cyfraniad gan Nim de Bruyne, un o’r arloeswyr, yn esbonio athroniaeth y fenter, cyn iddi ymddeol yn ddiweddar i’w chynefin yn yr Iseldiroedd. Bu ei chyfraniad hi, ynghyd ag eiddo Keith a Jill Skipper, ac eraill, yn fodd i’r brodorion ystyried o’r newydd eu perthynas â’r tir.

Does dim modd osgoi’r ddadl p’un ai drwy rewlifoedd neu nerth bôn braich dyn y symudwyd y cerrig gleision o’r fro i Gaersallog dros ddwy fil o flynyddoedd nôl. Gwahoddwyd yr ‘arbenigwyr’, Geoffrey Wainwright a Timothy Darvill, i sôn am eu damcaniaethau a’u darganfyddiadau ar lethrau Garn Menyn. Prin fod y mwyafrif o’r trigolion lleol wedi’u cynhyrfu ynghylch y mater. Maen nhw’n ddigon bodlon o weld bod Carn Menyn yn rhan annatod o’r olygfa ddyddiol.

Cyfeirir at halibalŵ dathliadau'r milflwyddiant pan geisiwyd ail-greu taith y cerrig gleision i Gôr y Cewri gyda chanlyniadau trychinebus - ni chyrhaeddodd y garreg fach ben ei siwrnai am iddi ddisgyn i eigion y môr oddi ar arfordir Sir Benfro!

Mae cyfranwyr fel Gwendoline Watson a Lynne Sacale wedyn yn sôn am y profiad o ymsefydlu mewn ardal cwbl ddieithr pan oedden nhw’n blant, a’r modd y llwyddon nhw i ymdoddi a thyfu’n bobl ifanc cwbl ddwyieithog.

Ymsefydlu yn yr ardal am eu bod am fod yn rhan o’r byd Cymraeg oedd hynt John Davies ac Ian Davies. Fe dâl i bawb sydd am weld parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol ystyried persbectif y ddau Gymro o Forgannwg. Ac fel prawf o fêr yr iaith yn y cyffinie cyhoeddir detholiad o eiriadur tafodieithol a luniwyd gan y bardd, Wyn Owens.

Mae’r dewis o deitl Cymraeg, O’r Witwg i’r Wern, yn atgoffa’r darllenydd o gyfoeth enwau’r dirwedd a’r rheiny yn eu tro yn galw i gof hanesion a ffordd o fyw sy’n ymestyn nôl ganrifoedd.

Mae’r dewis o deitl Saesneg, Ancient Wisdom and Sacred Cows, yn alwad ar i bawb sylweddoli o’r newydd pa mor rhyfeddol yw celfi’r mynyddoedd y tueddwn, yn rhy aml, i’w cymryd yn ganiataol.

Tynnwyd y llun clawr gan y ffotograffwraig broffesiynol Ann Lenny a dyluniwyd y clawr gan Lisa Hellier.

Cyhoeddir O’r Witwg i’r Wern / Ancient Wisdom and Sacred Cows gan Gymdeithas Cwm Cerwyn gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri a chefnogaeth PLANED. Cynhwysir talfyriad os nad trosiad llawn o’r mwyafrif o’r cyfraniadau Cymraeg. Pris y gyfrol yw £14.95.
 

Rhannu |