Llyfrau
Olrhain taith anhygoel Only Men Aloud
Ddydd Llun nesa 28 Tachwedd bydd CD newydd Only Men Aloud, In Festive Mood, yn cael ei lansio ac fe fyddan nhw’n cychwyn ar y daith hyrwyddo o gwmpas Prydain yn Aberystwyth. Ar gyfer cefnogwyr brwd popeth sy’n ymwneud ag Only Men Aloud, mae llyfr newydd ar gael hefyd yn olrhain eu taith anhygoel at enwogrwydd. Gyda ffeithiau diddorol iawn am aelodau unigol y grŵp a ffotograffau trawiadol, mae’r llyfr dwyieithog hwn hefyd yn cynnwys geiriau i’r caneuon sy’n boblogiadd gan y côr. Mae’r daith i enwogrwydd, a adroddir yn y llyfr, yn dechrau yn Nhredegar Newydd, diolch i gyfarwyddwr creadigol ac arweinydd y grŵp, Tim Rhys-Evans. Yn meddu ar ddawn artistig a cherddorol enfawr, roedd Tim yn awyddus i ddod â chwa o awyr iach i draddodiad y corau meibion yng nghymoedd de Cymru.
Daeth y grŵp i amlygrwydd mawr yn sgil ennill cystadleuaeth gorawl y BBC, Last Choir Standing gan addasu eu hunain i wahanol arddulliau gerddorol, o arias opera i ganeuon pop. Buan y datblygodd y côr enw am feistroli unrhyw gân yn ogystal â chanu mewn llawer o ieithoedd, gan gynnwys Eidaleg, Cymraeg ac Almaeneg. Ar hyd y daith fe gasglon nhw nifer fawr o fans -gelwir rhai o’r rhai mwyaf brwd yn OMAniacs.
Mewn byr amser fe greodd eu lleisiau argraff ochr draw i Fôr yr Iwerydd. Daeth Llysgennad Prydain yn Washington yn un o’u fans pennaf a gwahoddodd y côr i ganu mewn cyfres o gyngherddau yn Washington ac Efrog Newydd, gan gynnwys cyngerdd ar Ddiwrnod Annibyniaeth yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian. Ers hynny maent wedi canu gyda rhai o’r sêr mwyaf disglair, gan gynnwys Shirley Bassey, Shan Cothi, Katherine Jenkins, Brian May a rhannu llwyfan â Catherine Zeta Jones. Mae’r côr wedi gweithio’n ddiflino dros elusennau megis JustinTime, Shelter Cymru, Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Daeargryn Haiti, Cronfa Ray Gravell, Sefydliad Aren Cymru ac Apêl Arch Noa.
Yn y llyfr ceir rhai hanesion doniol ynglŷn ag anffawd ar deithiau ac mewn perfformiadau, gan gynnwys un digwyddiad pan rwygodd nifer ohonynt eu trowsus a arweiniodd at dynnu coes amlwg - gormod o fechgyn mewn trowsus rhy dynn! Yn Llyn Efyrnwy yng nghanolbarth Cymru yn ystod recordio Hushaby Mountain, neidiodd un aelod o’r côr i’r llyn yn ystod y ffilmio. A oedd rhywun wedi dweud wrtho fod dyfroedd y llyn yn cael eu defnyddio i wneud y Gin Bombay enwog? Yn eu amser hamdden prin iawn mae bechgyn OMA yn chwarae pêl-droed pump bob ochr yn erbyn ei gilydd gyda’r baritonau’n chwarae yn erbyn pawb arall!
Mae gan y côr lawer o edmygwyr ac mae’r llyfr yn rhoi rhai manylion personol am aelodau unigol i ni ddod i’w hadnabod yn well. A wyddech chi fod Cian Brennan Gavin, Bariton, yn dwlu ar golff a thenis ac y cafodd ei eni yn Nulyn. Cafodd Andy Mulligan, Baswr, ei eni yn Warrington ac mae’n dwlu ar goginio a chadw ieir! Mae Dafydd Rhys, Bariton, yn dwlu ar wrando ar Oasis, Neil Young ac un tro baglodd ei droed yn ffrog Shan Cothi wrth ddawnsio mewn fersiwn o ‘Hello Dolly’. Hefyd bu bron iddo dorri pigwrn cyd-aelod, Wyn Davies, yn ‘Don’t rain on my parade’! Llysenw Tim Nelson, Baswr, yw ‘the Admiral’ ar ôl y Nelson enwog arall ac mae Rob Garland, Bariton, yn glerc lleyg yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn Llywydd fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Aelod sy’n hanu yn bell o Gymru yw’r ail denor Hugh Strathern. Cafodd ei eni yn Papua New Guinea yn 1975 a bellach mae’n dwlu ar ganu yn Gymraeg - mae’n credu bod y llafariaid yn gwneud lles i’r llais ac yn aml mae’n ymweld â chopa Mynydd y Garth ger Ffynnon Taf i weld y golygfeydd.
Yr amryddawn Bethan Mair o Rydaman yw awdur geiriau’r gyfrol ddwyiethog hon gyda lluniau trawiadol Emyr Young o Bontyclun yn rhoi cip go iawn i ni ar fyd Only Men Aloud.
Only Men Aloud: Y Llyfr/The Book
Bethan Mair/Emyr Young
Gomer
£14.99 clawr caled
Ffurfiodd y Cyfarwyddwr, Tim Rhys Evans, Only Men Aloud yn 2000 gyda’r prif nod o annog dynion iau i gymryd rhan yn un o draddodiadau hynaf ac anwylaf Cymru, sef canu mewn côr meibion. Nid yw’r grŵp yn ofni mynd i’r afael â cherddoriaeth nad yw’n cael ei chysylltu â chorau meibion fel arfer; mae eu repertoire yn amrywio o’r 17eg ganrif hyd at heddiw, ac mae wedi cynnwys nifer o berfformiadau cyntaf y byd.
Yn 2008, enillodd Only Men Aloud gystadleuaeth hoff gôr y DU yn rhaglen boblogaidd nos Sadwrn BBC One Last Choir Standing, ac yn yr un flwyddyn gwnaethant lofnodi cytundeb recordiau pum albwm, sy’n werth miliynau o bunnoedd, gydag Universal Classics a Jazz. Aeth eu halbwm cyntaf yn record Aur, a chyrhaeddodd yr ail, Band of Brothers, Rif 1 yn y Siartiau Clasurol, ac enillodd gategori Albwm y Flwyddyn NS&I i’r côr yng Ngwobrau Brit Clasurol y llynedd. Hefyd y llynedd lansiwyd Only Boys Aloud, sef prosiect i annog canu ymysg dynion ifanc ledled Cymoedd De Cymru, a dderbyniodd gymeradwyaeth eang.
Taith OMA
Tach 28 Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Tach 29 Brangwyn Hall, Abertawe
Rhag 2 Glasgow Royal Concert Hall
Rhag 4 Norwich Theatre Royal
Rhag 5 Nottingham Royal Concert Hall
Rhag 6 Gateshead Sage
Rhag 9 Sheffield City Hall
Rhag 10 Llandudno Cymru Arena – 2 sioe
Rhag 11 Preston Guildhall
Rhag 12 Manchester Bridgewater Hall
Rhag 13 Liverpool Philharmonic Hall
Rhag 15 Birmingham Symphony Hall
Rhag 16 Bristol Colston Hall
Rhag 17 Cardiff Motorpoint Arena