Llyfrau

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Arwyddion Sgymraeg – y drwg a’r difyr

Y gorau o’r gwaethaf o arwyddion Cymraeg – dyna a geir mewn llyfr hiwmor newydd sydd yn cael ei gyhoeddi gan wasg y Lolfa. Mae Sgymraeg yn casglu ynghyd arwyddion Cymraeg sâl o Gymru benbaladr gyda sylwadau ffraeth gan Euron Griffith, awdur y nofel ddigri, Dyn Pob Un.

Ond os bydd yr esiamplau yn gwneud i chi chwerthin, mae’n bosib y bydd rhai yn peri i chi grio hefyd wrth sylweddoli pa mor ddrwg yw safon y gwaith cyfieithu. Dechreuwyd casglu’r Sgymraegs gan Golwg ar ôl i ddarllenwyr ddechrau eu hanfon at golofn ddychanol Jac Codi Baw ar dudalennau’r cylchgrawn. Ers hynny maent wedi dod yn rhan boblogaidd o’r wythnosolyn a bellach maent i’w gweld ar y we wrth i bobl fynd ati i rannu esiamplau gwael maen nhw’n eu gweld ledled Cymru ar flickr a Twitter.

Mae rhai wedi cael sylw pellach ar raglenni newyddion a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru, ac yn achos un Sgymraeg, daeth ceisiadau am wybodaeth o bapurau Llundain, y News at Ten a’r rhaglen ddychanol Have I Got News For You.

“Camsillafu neu gam-gyfieithu doniol? Amarch llwyr at y Gymraeg? – mae sawl ffordd o ymateb i’r arwyddion niferus sy’n codi gwên neu’n gwneud i ni ryfeddu neu wingo,” meddai Siân Sutton, Golygydd Golwg. “Weithiau mae angen bod yn drugarog, pan fydd unigolyn yn gwneud ymdrech arbennig – ond aflwyddiannus – i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n llawer mwy anodd maddau pan fydd cyrff cyhoeddus yn difrïo’r Gymraeg trwy anwybodaeth neu fethiant i’w thrin â pharch.

“Mae’n anodd credu y byddai unrhyw arwydd yn cael ei godi heb i rywun gadarnhau ei fod yn gywir ac yn gwneud synnwyr. Ond mae’n dal i ddigwydd ac mae’r peiriannau cyfieithu wedi sicrhau esiamplau diri o gyfieithu erchyll ar adegau a geiriau digyswllt yn un rhes annealladwy.

“Ond, er bod ochr ddifrifol i’r gwallau sy’n gallu gwneud nonsens o’r Gymraeg ac o gyfieithu, mae’n dda eu cael er mwyn codi gwên, cael pwnc trafod a hyd yn oed weithiau i lenwi colofn mewn cylchgrawn!”

Mae’n bosib mai’r Sgymraeg enwocaf hyd yn hyn yw’r un a roddwyd ar arwydd ffordd er nad oedd y cyfieithydd ar gael! ‘No entry for heavy goods vehicles. Residential site only’ yn Saesneg. Ac yn Gymraeg? ‘Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i’w gyfieithu’.

 

Fel rhan o golofn ddychanol Jac Codi Baw y gwelwyd yr enghreifftiau ‘Rhybudd – Gweithwyr yn ffrwydro’, ‘Cyclists Dismount – Llid y bledren dymchwelyd’ neu’r arwydd oedd yn tynnu sylw at benwythnos arbennig i ddathlu adar drycin – ‘Shear Madness’. Cafodd ei droi’n ddigwyddiad gwahanol iawn yn Gymraeg, sef ‘Cneifio Gwallgof’.

Am y tro cyntaf bydd y llyfr bach hwn yn casglu’r goreuon ynghyd er mwyn codi gwên mewn rhodd ar gyfer yr hosan Nadolig. Ysgrifennwyd y rhagair gan Euron Griffith sydd wedi ennill clod am ei nofel gyntaf, Dyn Pob Un, a ddisgrifiwyd ar Twitter gan Glyn Wise o Big Brother fel un “anhygoel”

Rhannu |