Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Datgelu Cyfrinachau Llynnoedd Eryri

Eryri. Be’ sy’n dod i’ch meddwl chi wrth glywed un o enwau cadarnaf Cymru? Yn ddieithriad bron, y mynyddoedd sydd yn llamu i’r meddwl, ac mae pawb yn gyfarwydd â chopaon eu milltir sgwâr. Mae enwau cribau’r ardal wedi eu serio ar y cof, ac wedi cyfrannu at enwi sawl cartref, stryd a stad yn Eilio, Elidir a’r Wyddfa. ‘Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd’, medd y gair.

Rhwng y cewri yma y cuddia’r dyffrynnoedd a’r llynnoedd, gyda nifer o’r rhain yr un mor enwog â’r mynyddoedd. Yn wir, mae traddodiad gwerin Eryri yn stori’r iseldir yn hytrach na’r ucheldir, oherwydd mai dyma lle'r oedd y boblogaeth yn byw. Felly mae i bob llyn ei stori.

O fewn tafliad carreg sgimio i bentref Llanberis mae naw llyn – a dyma’r casgliad mwya’ amrywiol o lynnoedd unrhyw fro yn y byd! Er enghraifft, cawn ddau lyn llawr dyffryn tra gwahanol, o harddwch Llyn Padarn i dirlun diwydiannol Llyn Peris, ac yna mae Marchlyn Mawr, sy’n sefyll yn gadarn wrth edrych draw am Ynys Môn, a llynnoedd lleiaf Eryri, Llyn Glas a Llyn Bach, sydd fel dau ddeigryn dan lygaid yr Wyddfa.

Bu cyfnodau yn ystod yr ugeinfed ganrif pan fu miloedd yn dringo fel morgrug dros y mynyddoedd cyfarwydd, ond erbyn heddiw, eithaf diarffordd ac unig ydi’r cymoedd sydd yn gartref i’r llynnoedd, ar wahân i ambell gôt law liwgar, neu fugail ar gefn motor-beic. Mae’n debyg mai dyma’r cyfnod tawelaf ers canrifoedd, os nad milenia, i’r dyffrynnoedd yma.

A’r cenedlaethau diflanedig hyn sydd wedi llunio traddodiad gwerin gyfoethog Eryri. Un o gonglfeini chwedloniaeth Cymru ydi’r Brenin Arthur, ac er bod nifer o chwarelwyr dros y blynyddoedd wedi benthyg ysgolion o’r chwareli i ddringo’r creigiau, mae trysorau Arthur wedi’u cuddio yn y creigiau o hyd, meddai nhw… Llinyn arall sy’n rhedeg trwy hanesion pob llyn ydi presenoldeb y Tylwyth Teg, ac mae amryw o’r llynnoedd yn gysylltiedig â’r bobol fach ryfeddol.

Toes unlle yn Eryri, chwaith, gyda thraddodiad cyn gryfed â bro Peris o ferched cryfion, megis y gawres chwedlonol go iawn (os oes ’na ffasiwn beth!) fyddai’n ymolchi bob bore drwy osod y naill droed ar un ochor un llyn, a’r llall ar yr ochr arall, cyn codi’r dŵr i’w hwyneb.

Wrth gwrs dim ond rhan fechan y mae chwedlau bro Peris yn chwarae yn chwedloniaeth Eryri, a dyma aeth a bryd Geraint Thomas, y ffotograffydd o Waunfawr. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu’n olrhain hanesion pob llyn yn Eryri, yn ogystal â thynnu lluniau’r 140 o lynnoedd sydd yn y Parc Cenedlaethol, ac mae’r cyfan wedi’i grynhoi yn y gyfrol liwgar a deiniadol, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri. Fe’i cyhoeddwyd gan wasg y Lolfa am £14.95, ac mae bellach ar gael o bob siop lyfr da, neu o oriel Panorama yng Nghaernarfon.

Rhannu |