Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Nofelydd Pulp Newydd Cymru

Mae gan Gymru nofelydd newydd sbon, Alun Cob, sydd yn lansio ei nofel gyntaf, Pwll Ynfyd ar nos Fawrth 15 Rhagfyr yn nhafarn y Glôb, Bangor am 7yh.

Mae Alun Cob yn dod yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ar droed yr Wyddfa ac erbyn hyn yn byw yng Ngarndolbenmaen ble y mae wedi bod yn brysur yn cynllunio ac yn ysgrifennu nofel yn y steil pulp Americanaidd ac sydd ar yr un pryd yn nofel hollol Gymreig.

Meddai Alun Cob, “Fy mwriad o’r dechrau oedd ysgrifennu nofel pulp sydd yn ddull ysgrifennu sydd yn symud yn gyflym ac yn rhydd, gyda stori a phlot cadarn ond trashi a gafaelgar, yn fodern a chyda deialog ffraeth. Er mai dylanwad Americanaidd sydd ar steil y nofel hon, mae’r plot, y lleoli, y cymeriadau a’r iaith wrth gwrs yn hollol Gymreig.”

Cymeriadau isfyd Bangor sy’n serennu yn y nofel hon gyda’r stori yn symud yn gyflym o’r dechrau. Cawn yma dwyll, ymladd a chyffuriau. Ond cawn yma hefyd gyfeillgarwch, ymddiriedaeth a llawer o hiwmor.

Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt un cymeriad yn benodol, Oswyn Felix, landlord tafarn ym Mangor Uchaf wrth iddo ddial ar y sawl a ymosododd ar aelod hoffus o’i staff, Dyl Mawr. Mae gan Oswyn gyfeillion diddorol a gelynion milain.

Mae llawer o ddeialog bachog yn cael ei ddefnyddio yn y nofel sydd yn gyfrwng i osod cyflymder iddi, i gyflwyno’r cymeriadau ac i sicrhau cyfoeth o hiwmor gyda idiomau a disgrifiadau’r cymeriadau a’r cyfathrebu sydd rhyngddynt.

Meddai Alun Cob, “Mae nifer o’r bobl hynny sydd eisioes wedi cael cip ar gopi o’r testun yn dweud eu bod wedi chwerthin allan yn uchel sawl gwaith wrth ei ddarllen. Wnes i ddim bwriadu ysgrifennu comedi ond yn sicr mae yma gymeriadau, fel sydd ym mhob pentref a thref yng Nghymru, sydd ag ambell berl o linell.”

Mae’r nofel yn creu golygfeydd a darluniau o’r digwyddiadau yn effeithiol ac i bwrpas gyda disgrifiadau manwl heb fod yn rhy flodeuog nac yn rhy hir.

Meddai Alun Cob, “Dw i wrth fy modd gyda ffilmiau ac mae gen i feddwl sinematig. Ro’n i’n gweld popeth mewn llun wrth ysgrifennu’r nofel felly mond disgrifio oedd gen i i wneud a chyfleu’r hyn o’n i’n ei weld. Wrth gwrs, gall pawb greu eu lluniau eu hunain wrth ei darllen.”

Nid yw’r digwyddiadau yn y stori yn rhai y down ar eu traws yn ein bywydau o ddydd i ddydd efallai, ond mae yma nifer o gyfeiriadau at y pethau bach sy’n gyfarwydd i bawb, gan sicrhau bod y cymeriadau a’r stori yn gredadwy. Mae’r disgrifiadau hyn yn aml yn codi gwên. Mae camu mewn i fyd anghyfarwydd treisgar y gangiau cyffuriau yn addysg fawr i’r rhan fwyaf ohonom ac efallai tu hwnt i’n ‘comfort zone’, ond mae hon yn stori rhwydd a difyr i’w darllen.

Mae Alun Cob wedi gweithio i Recordiau’r Cob, Bangor; wedi perchen ar siop gerddoriaeth ei hun yng Nghaernarfon, Recordiau’r Ci Du; ac wedi bod yn gweithio yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Meddai Alun Cob, “Dw i yn wastad wedi eisiau sgwennu llyfr ac mae fy sefyllfa o’r diwedd wedi caniatâu i mi wneud hynny. Dw i yn fy mhedwardegau ac felly wedi cael digon o amser i bendroni yn ei gylch. Ar ôl i mi adael yr Amgueddfa, do’n i ddim eisiau gweithio i neb arall am sbel fach felly dyma fi’n penderfynu rhoi cynnig arni.

“Treuliais lawer o amser wrth y plot, yn sicrhau ei fod yn dal dŵr a gwneud peth gwaith ar y cymeriadau cyn dechrau sgwennu. Mae’n hanfodol bod y stori ei hun yn dal dŵr. Roedd llawer o’r cymeriadu yn dod wrth i mi sgwennu. Dw i wedi defnyddio rhannau o brofiadau fy mywyd, ond wir i chi, dychmygol yw’r stori hon. Dw i’n addo nad oes gen i lawer o brofiad o’r byd amheus hwn, dim ond dychymyg bywiog.”

Dyma’r gyntaf o gyfres o dair nofel, oll â’u plotiau eu hunain ond yn dilyn hynt a helynt yr un prif gymeriad ar antur newydd.

Pwll Ynfyd
Alun Cob
Gwasg Gomer
£7.99
ISBN: 978-1-84851-449-2

Rhannu |