Llyfrau
Gweinidog yn lansio Strategaeth newydd ar gyfer llyfrgelloedd
MAE Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn lansio strategaeth newydd ar gyfer llyfrgelloedd a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell ar draws Cymru yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwella'r gwasanaethau a gaiff eu cynnig i ddefnyddwyr llyfrgelloedd.
Roedd y Gweinidog yn Llyfrgell Treorci gyda'r anturiwr o fri Lowri Morgan i lansio'r cynllun pedair blynedd.Roedd y digwyddiad hwn yn nodi dechrau'r Pythefnos Llyfrgelloedd, sef gŵyl flynyddol ar gyfer llyfrgelloedd. Thema gŵyl eleni yw chwaraeon.
Bydd y strategaeth Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli: Fframwaith strategol ar gyfer datblygu llyfrgelloedd Cymru 2012-2016 yn cyfrannu at flaenoriaethau strategol allweddol gan gynnwys llythrennedd, dysgu, cynhwysiant digidol, cymunedau cynaliadwy a phoblogaeth iach. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu tua £2 filiwn yn 2012-13 ar gyfer costau cyfalaf a chostau rhaglenni.
Bydd Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yn:
· Cynorthwyo gwasanaethau llyfrgell i weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu gwasanaethau newydd ac arloesol gan gynnwys e-lyfrau ledled Cymru
· Buddsoddi mewn datblygu adeiladau modern a deniadol ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus fel bod modd cynnal gweithgareddau mwy amrywiol ynddynt
· Cyfrannu at ddatblygu sgiliau llythrennedd a sgiliau llythrennedd gwybodaeth pobl (hynny yw, y gallu i ganfod gwybodaeth a'i defnyddio). Bydd y sgiliau hyn yn fuddiol i bobl gydol eu bywydau mewn addysg, gwaith a hamdden
· Cyfrannu at agenda cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru drwy alluogi pobl i ddefnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd am ddim yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd sydd ynghlwm â thechnoleg symudol drwy ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i bobl, ble bynnag y maent
· Hyrwyddo manteision defnyddio pob math o lyfrgell - llyfrgell gyhoeddus, llyfrgell addysgol a llyfrgell yn y gweithle
Dywedodd Huw Lewis: “Mae llyfrgelloedd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd ac mae'r holl weithgareddau sydd bellach yn cael eu cynnig gan lyfrgelloedd ar draws Cymru wedi creu cryn argraff arnaf. Bydd y strategaeth newydd hon yn galluogi llyfrgelloedd ar draws Cymru i ddatblygu eu gwasanaethau ymhellach a gweithio mewn partneriaeth fel y gallant ddarparu'r gwasanaethau llyfrgell gorau posibl i bobl Cymru."
Mae Llyfrgell Treorchi wedi elwa ar £100,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu'r adeilad a chreu ardal fodern a phenodol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Cyfrannodd pobl ifanc at y gwaith o greu'r ardal arbennig hon.