Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Jamie Baulch - Seren Wib

Ym 1997, enillodd y gwibiwr Cymraeg Jamie Baulch fedal arian yn y ras gyfnewid 400m ym Mhencampwriaeth y Byd yn Athens. Ychydig a wyddai bryd hynny y byddai’r ras honno yn cael ei chofio fel un o’r rasys mwyaf dadleuol yn hanes athletau.

Mae stori’r ffordd wnaeth y fedal arian honno droi’n aur, ei wallt melyn adnabyddus a’i gyflymder ar y trac rhedeg yn cael eu hadrodd yn ei lyfr, The Flying Pineapple, ai lansiwyd fel rhan o gyfres Quick Reads / Stori Sydyn Cymru yn 2011. Bydd Jamie yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd TUC Union Learning Representatives (ULRs) yng Ngwesty’r Hilton, Casnewydd heddiw, lle bydd yn cyhoeddi teitlau newydd Quick Reads / Stori Sydyn Cymru ar gyfer 2012.

Yn un o athletwyr mwyaf lliwgar Prydain, roedd Jamie yn rhan o’r tîm cyfnewid 400m a enillodd y fedal arian ym Mhencampwriaeth y Byd ym 1997, ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe gyfaddefodd aelod o’r tîm buddugol i ddefnyddio sylweddau gwaharddedig. “Roedden ni i gyd yn teimlo wedi’n twyllo gan ein bod wedi treulio cymaint o amser yn siomedig gyda’n perfformiad am beidio ennill yr aur,” dywed Jamie yn y llyfr. “Cawsom ein huwchraddio, ond roedd rhyw ddrwgdeimlad ynghlwm â’r fedal aur.”

Yn ystod ei yrfa ddisglair, enillodd Jamie, sy’n 37 mlwydd oed, fedal arian Olympaidd, medal aur Ewropeaidd, efydd ac aur yn y Gymanwlad, ac aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaeth y Byd.

 

Mae’r gwibiwr 400m, a gafodd ei eni yn Nottingham a’i fagu yng Nghasnewydd, yn dweud mai i’w rieni maeth mae’r diolch am ei lwyddiant, ai ysbrydolodd i wireddu ei freuddwydion. “Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa, iddyn nhw mae’r diolch fy mod i wedi bod mor llwyddiannus ag y rwyf. Maen nhw wastad wedi bod yno i mi”, dywed.

 

Yn y llyfr, mae Jamie yn cofio’r hwyl a gafodd yn cystadlu yn yr ysgol ac o amgylch y byd, a sut oedd ei fywyd ar y trac wastad i wneud â pha mor gyflym y gallai redeg. Hyd yn oed ar ôl ymddeol doedd o ddim yn gallu arafu. Bellach mae’n rheoli Definitive Sports, cwmni rheolaeth chwaraeon sy’n ymwneud â chenhedlaeth newydd o athletwyr, gan gynnwys rhai o sêr y byd chwaraeon presennol fel y chwaraewr rygbi Cymru Shane Williams. “Rwy’n lwcus gan fy mod i’n gallu gwneud bywoliaeth allan o rywbeth dwi’n ei garu,” ychwanega Jamie.

 

Mae’r llyfr hefyd yn datgelu’r ffordd y disgrifiodd y pencampwr neidio clwydi Cymraeg Colin Jackson y profiad o hyfforddi Jamie fel “un o’r sêr disgleiriaf yn ei fywyd”, a sut mae o bellach yn ‘ffrindiau Facebook’ gydag un o’i arwyr mwyaf, Carl Lewis.

 

Ychwanegodd Delyth Humphreys, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru, “Mae menter Quick Reads/Stori Sydyn yn mynd o nerth i nerth ac yn annog miloedd o bobl hyd a lled Cymru i roi cynnig ar ddarllen, llawer ohonynt erioed wedi darllen llyfr o’r blaen.

 

“Mae un ar bymtheg o deitlau newydd ar gyfer 2012, â phob un yn cynnig amrywiaeth ddifyr o bynciau fydd yn apelio at amrywiaeth eang o bobl. A, gyda Llundain 2012 ar feddwl pawb, mae cynrychiolaeth dda i chwaraeon.”

 

Teitlau Quick Reads/Stori Sydyn Cymru a Chymraeg ar gyfer 2012 ydi:

Earnie: My Life at Cardiff City gan Robert Earnshaw

Going for Gold: Welsh Olympic Dreams for 2012

Finger Food gan Helen Lederer

Why Do Golf Balls Have Dimples? Weird and Wonderful Facts of Everyday Life gan Wendy Sadler

Yr Elyrch: Dathlu’r 100 gan Geraint Jenkins

Cymru a’r Gemau Olympaidd gan John Meurig Edwards

Hunllef gan Manon Steffan Ros

Tu ôl i’r Tiara: Bywyd fel Miss Cymru gan Courtney Hamilton gydag Alun Gibbard

 

Teitlau Quick Reads/Stori Sydyn y DU ac Iwerddon ydi:

Full House gan Maeve Binchy

The Cleverness of Ladies gan Alexander McCall Smith

Quantum of Tweed: The Man with the Nissan Micra gan Conn Iggulden

The Little One gan Lynda La Plante

Beyond the Bounty gan Tony Parsons

Amy’s Diary gan Maureen Lee

Get the Life You Really Want gan James Caan

Doctor Who: Magic of the Angels gan Jacqueline Rayner

Rhannu |