Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Llwyddiant ysgubol arloeswraig coginio

Roedd Gwesty’r Vic ym Mhorthaethwy dan ei sang wrth i heidiau ymgasglu o bob cwr o’r Fam ynys a thros y bont i ddathlu lansiad y llyfr coginio newydd, Gwres y Gegin, gan Heulwen Gruffydd.

Wedi’r lansiad bu Branwen Niclas yn trydar ei chlod o’r gogyddes, a’i bod yn “yn arloeswraig coginio drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Cyfarchwyd y dorf gan y cyflwynydd Hywel Gwynfryn, a rannodd ei stiwdio gyda Heulwen yn wythnosol am dros ugain mlynedd ar ei raglen Helo Bobol. “Newyddion da!” cyhoeddodd yn fyw o’r lansiad ar Wedi 7, “Os ydach chi’n poeni am y Nadolig, fel ’da ni i gyd yn dueddol o wneud wrth baratoi, peidiwch â phoeni dim - ma’ bopeth da chi ei angen yn y llyfr! Mae hyd yn oed rysáit am Gacen ’Dolig Munud Ola’ - felly unwaith daw’r canu carolau i ben yn y capel, allwch chi gychwyn arni! Mae o’n llyfr gwych, ac mor lliwgar.”

Yn wir, er bod casgliad o bron i ddau gant o ryseitiau ar gyfer pob achlysur a phob tymor rhwng y cloriau, mae Heulwen wedi neilltuo adran arbennig ar gyfer y Nadolig, ble mae ei chanllawiau clir yn tywys y prentis a’r profiadol fel ei gilydd drwy fanion a mawrion yr Ŵyl.

Ac mae’r cyfryngau wedi bod yn ferw gwyllt dros Gwres y Gegin, gydag Rhiannon Gomer hefyd yn datgan yng nghylchgrawn cyfredol Y Wawr, “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddadorchuddio Gwres y Gegin y Nadolig hwn, a chael cyrlio mewn cornel i bori ynddo, ond dim ond os medra’ i aros cyhyd.”

Mae Heulwen yn gyn-athrawes goginio a gychwynnodd ar ei gyrfa yn yr Amwythig, gan orffen yn Ysgol Treborth, Bangor, a bu’n cyhoeddi ryseitiau am flynyddoedd ym mhapur bro ei hardal, Papur Menai. Mae’n byw gyda’i phriod Llŷr ym Mhorthaethwy ac yn mwynhau bod yn nain brysur i dri ŵyr ac un wyres. Cyhoeddir Gwres y Gegin, sy’n gyfrol swmpus llawn lliw clawr caled, gan wasg Y Lolfa. Pris y gyfrol yw £19.95.

Rhannu |