Llyfrau

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Y Cymeriad Tu Ôl i’r Llais – Timothy Evans

Mae’r canwr Timothy Evans yn hanner cant oed ac yn cyhoeddi ei hunangofiant, Pafaroti Llanbed, fel y’i bedyddiwyd ef gan Dai Jones Llanilar, ac mae yn cynnal sesiynau arwyddo yn siopau Ceredigion a Chaerfyrddin o nawr hyd y Nadolig ac yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

Dyma ganwr sydd wedi ennill unawd tenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol bum gwaith ac yn Eisteddfod Llangollen dair gwaith yn olynol ynghyd ag ennill Canwr y Flwyddyn yn Llangollen.

Er mai ei lais tenor hyfryd sydd yn bennaf gyfrifol am ddod â Timothy Evans i amlygrwydd mae e wedi dod i’r brig mewn sawl maes. Mae e wedi cyrraedd y brig ym maes sioeau amaethyddol wrth ennill yn Sioe Frenhiniol Cymru a dod i fod yn feirniad yn y sioe honno. Mae e hefyd wedi bod yn ddyn busnes llwyddiannus ac mae ganddo ddiddordebau di-ryfeddu gan gynnwys ceffylau, casglu henebion a chymdeithasu.

Meddai Timothy Evans, “Ymhopeth dw i wedi gwneud mae’r cymdeithasu sydd ynghlwm ag ef wedi bod yn ganolog i fy mwynhâd – boed yn eisteddfota, cyngherdda, cystadlu yn y sioeau neu fynd i ocsiwn, dw i’n cael hwyl ac wedi gwneud ffrindiau. Hyn sydd fwyaf gwerthfawr i mi.”

Wrth ein harwain trwy ei fagwraeth, dylanwad ei deulu a phrofiadau ei blentyndod dawn i ddeall sut y gwreiddiwyd cymaint o’r diddordebau hyn yn y bachgen Timothy Evans, er yn ôl ef ei hun mae llawer o’r hyn ydyw ‘yn y gwaed’.

Meddai, “Mae’r diddordeb sydd gen i mewn ceffylau a sioeau yn fy ngwaed. Dw i’n sicr o hynny.”

Un o’r pethau ddaw yn amlwg yn yr hunangofiant yw cariad Timothy Evans at ei fro. Ganwyd ef yn Silian, nepell o Lanbed ac er i’w dalentau ei gymryd i bedwar ban byd am gyfnodau byr, yn ôl i Lanbed y deuai bob tro.

Meddai Timothy Evans, “Pan yn fy arddegau doedd y syniad o adael cartref erioed wedi croesi fy meddwl. Crwt o Lanbed ydw i, pe bawn i’n cael fy nghymryd oddi yma, nid fi faswn i. Ges i erioed yr ysfa i fynd ymhell o adre. Pan bo rhaid i mi fynd ar fy nheithiau mynd i ddod yn ôl a wnaf i. Fydda i ddim wedi ymlacio tan y bydda i adre.”

Nid yw Timothy Evans yn ymddiheuro o gwbl am ei gariad at ei fro ac am ei amharodrwydd i’w gadael. Yn yr un modd nid yw’n ymddiheuro ei fod, ers yn blentyn wedi bod ychydig yn wahanol i blant eraill.

Meddai, “Tra’r oedd y rhan fwyaf eisiau car ar eu penblwyddi yn ddeunaw, wnes i erioed ddymuno’r fath beth. Dwy ddafad Torwen ges i a gallwn i ddim fod wedi dymuno dim gwell. Yn ddi-ffael, rhywbeth oedd yn anadlu oedd fy anrheg penblwydd yn flynyddol.”

Dim plentyn a gafodd ei orfodi ar lwyfannau eisteddfodau oedd Timothy Evans, “tyfu i garu canu wnes i, fel yr oeddwn yn caru’r caeau a’r coedydd a’r creaduriaid, ond un peth na wnes i fyth dyfu i’w hoffi oedd y teithio sy’n cyd-fynd â’r busnes, a’r nerfusrwydd cyn mynd ar lwyfan.”

Mae’r hunangofiant yn cyfeirio at y digwyddiadau a arweiniodd at lwyddiant mawr Timothy Evans a chawn gipolwg ar ei fyd cerddorol – sut mae e’n mynd ati i ddysgu caneuon, i gyrraedd cyngherddau ac i ddewis caneuon i’w gryno ddisgiau a chipolwg ar y wybodaeth a’r diddordeb eang sydd ganddo yn y maes. Dyma ddyn nad sy’n hanner gwneud pethau, mae e’n taflu ei hun gorff ac enaid i’w ddiddordebau ac mwy na heb yn dod allan ohoni â llwyddiannau mawr.

Mi ddawn i ddysgu am agwedd Timothy Evans at gystadlu, ennill a cholli a’i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Er y llwyddiannau di-ri, y cystadlu a’r cymdeithasu, enaid llonydd sydd yma.

Yn ddyn busnes llwyddiannus, wedi rhedeg ei fusnes ei hun am ddeng mlynedd, er yn ôl Timothy Evans, nid busnes oedd ganddo e a’r staff ond teulu bach cytûn. Gwelodd nifer o newidiadau technolegol a chymdeithasol yn dod i rym yn ystod ei gyfnod yn swyddfa post Llanbed.

Dim llawer o bobl all ddweud bod Ray Gravell wedi bod yn un o’i ffans mwyaf a’u bod wedi bod i sioe amaethyddol gyda Lady Gaga. Mae yma storiau difyr a doniol am fywyd person hynod a diddorol. Mae Timothy Evans yn brawf nad oes mymryn o wirionedd yn y grêd honno bod rhaid symud o’ch milltir sgwar i lwyddo yn y byd mawr.

Er nad ydy Timothy Evans wedi canu rhyw lawer yn y blynyddoedd diwethaf am amryw resymau, sy’n cael eu nodi yn ei hunangofiant, oddi fewn i gloriau Pafaroti Llanbed, mae yna hefyd addewid ganddo i’w ddilynwyr.

Bydd cyfle i chi gael yr hunangofiant wedi’i arwyddo gan Timothy Evans yn Jac-Do, Aberaeron ar Ddydd Sadwrn 19 Tachwedd rhwng 1.30 a 2.30yp, yn Siop y Pentan, Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 26 Tachwedd rhwng 11yb a 12yp, yn Stondin Canolfan Bryn Myrdin (Pafiliwn Siopa 1) rhwng 12 a 12.30yp ac yn Stondin Siop Inc a Chyngor Llyfrau Cymru (Neuadd Anrhegion) rhwng 1 a 1.30yp ar Ddydd Mawrth 29 Tachwedd yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ac ym Marchnad Nadolig Bont, ar stondin Siop Inc ar Ddydd Sul 11 Rhagfyr, rhwng 1 a 2yp. Bydd sesiynau arwyddo hefyd yn cael eu cynnal yn Siop Iago, Castell Newydd Emlyn; Awen Teifi, Aberteifi; a Siop y Smotyn Du, Llanbed. Mae dyddiadau’r rhain i’w cadarnhau.

Dyma ddyddiadau’r sesiynau arwyddo gan Timothy Evans:

Bydd cyfle i chi gael yr hunangofiant wedi’i arwyddo gan Timothy Evans yn Jac-Do, Aberaeron ar Ddydd Sadwrn 19 Tachwedd rhwng 1.30 a 2.30yp, yn Siop y Pentan, Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 26 Tachwedd rhwng 11yb a 12yp, yn Stondin Canolfan Bryn Myrdin (Pafiliwn Siopa 1) rhwng 12 a 12.30yp ac yn Stondin Siop Inc a Chyngor Llyfrau Cymru (Neuadd Anrhegion) rhwng 1 a 1.30yp ar Ddydd Mawrth 29 Tachwedd yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ac ym Marchnad Nadolig Bont, ar stondin Siop Inc ar Ddydd Sul 11 Rhagfyr, rhwng 1 a 2yp. Bydd sesiynau arwyddo hefyd yn cael eu cynnal yn Siop Iago, Castell Newydd Emlyn; Awen Teifi, Aberteifi; a Siop y Smotyn Du, Llanbed. Mae dyddiadau’r rhain i’w cadarnhau.

Rhannu |