Llyfrau

RSS Icon
20 Hydref 2011

Gŵyl lyfrau newydd

Y mae Canolfan Morlan a Chylch Darllen Aberystwyth wedi dod at ei gilydd i drefnu Gŵyl Lyfrau newydd sbon, gyda’r gobaith y bydd yn datblygu’n ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr Morlan.

Yn ogystal â bod yn ganolfan gymunedol sy’n llogi ei chyfleusterau, y mae Morlan hefyd yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau gydol y flwyddyn – gweithgarwch sy'n cynnwys clwb ieuenctid, darlithoedd a thrafodaethau, cyngherddau, dramâu a chyflwyniadau, ac arddangosfeydd celf. Cododd y syniad o gynnal Gŵyl Lyfrau wrth baratoi rhaglen 2011. Gan gofio bod Aberystwyth yn gartref i sefydliadau cenedlaethol megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru a bod nifer o gyhoeddwyr ac argraffwyr blaenllaw o fewn cyrraedd hwylus i’r dref, pa le gwell i gynnal digwyddiad o'r fath!

Mae meithrin partneriaethau gyda grwpiau a mudiadau yn bwysig iawn i’r Morlan; gan fod y Cylch Darllen a Morlan eisoes wedi cydweithio ar Ŵyl Lyfrau yn ôl ym mis Medi 2007, cam naturiol felly oedd datblygu’r bartneriaeth ar gyfer y fenter newydd hon.

Bydd yr Ŵyl yn dechrau nos Wener, 11 Tachwedd, gyda noson gymdeithasol – Sgwrs a Chân yng nghwmni Siân James. Cyhoeddwyd hunangofiant Siân ym mis Gorffennaf eleni fel rhan o gyfres Cyfres y Cewri, Gwasg Gwynedd. Yn ystod y noson, bydd Dafydd Morgan Lewis yn holi Siân am ei chefndir, ei gwaith a’i diddordebau a bydd cyfle i glywed Siân yn perfformio rhai o’i chaneuon. Mae’r noson yn dechrau am 7.30 a’r tâl mynediad yw £5.

 

Cynhelir tair sesiwn wahanol ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd, a gobaith y trefnwyr yw y bydd yna rywbeth fydd yn apelio at bawb. Ar ôl cofrestru a phaned am 10.00, bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10.30 pan fydd Kate Crockett yn holi Mihangel Morgan. Anerchiad gan Jane Aaron ar y testun ‘Llên Gothig y Gors … Bwytawyr Pechod a Sombïod Cors Fochno’ fydd yn dilyn am 11.30, gyda John Hefin yn cadeirio. Yna, ar ôl cinio, bydd Francesca Rhydderch yn holi Caryl Lewis; bydd y sesiwn hon yn dechrau am 1.15.

Ar y dydd Sadwrn hefyd bydd cyfle i brynu’r llyfrau diweddaraf ar stondin dan ofal siop lyfrau Inc.

Mae Tocyn Diwrnod yn costio £15 ac yn cynnwys cinio, paneidiau a mynediad i’r tair sesiwn (rhaid archebu Tocyn Diwrnod o flaen llaw oherwydd trefniadau bwyd). Mae modd hefyd mynychu sesiynau unigol am gost o £4 yr un. Gellir prynu tocynnau o Morlan yn ystod oriau swyddfa.

Trefnir y digwyddiad gyda chymorth ariannol Llenyddiaeth Cymru.

Rhannu |