Llyfrau
Sharon Morgan yn lansio ei hunangofiant
Mae Sharon Morgan, un o actoresau mwyaf adnabyddus Cymru ac enillydd dwy wobr BAFTA, yn paratoi i lawnsio ei hunangofiant, Hanes Rhyw Gymraes, ar nos Fercher, 26 Hydref, am 7 y.h. yn Nhafarn y Mochyn Du, Caerdydd.
Mae’r gwobrau BAFTA am ei hymddangosiad yn Tair Chwaer a Martha, Jac a Sianco yn brawf o’i hymroddiad i’w chrefft a’i gallu i dreiddio i fêr esgyrn ei chymeriadau. Mae hi hefyd wedi cael ei chastio i rôlau blaenllaw mewn rhaglenni fel Belonging, A Mind to Kill, ac yn fwy diweddar Alys a Torchwood.
Ond mae cyfraniad y Sharon dalentog hon i fywyd celfyddydol Cymru yn llawer mwy na’i hymddangosiad yn y rhaglenni poblogaidd hyn ac mae ei chyfraniad i fywyd Cymru yn ymdreiddio ymhellach na’r llwyfan, y radio a’r sgrin fach.
Daeth i fod yn un o sylfaenwyr un o gwmniau theatr mwyaf llewyrchus a chynhyrchiol Cymru – Theatr Bara Caws. Erbyn hyn mae hi hefyd yn ddramodydd ei hun ac wedi cyfieithu dramâu i’r Gymraeg, gan gynnwys Shinani’n Siarad (Vagina Monologues), a enillodd Cynhyrchiad Gorau Theatr Cymru yn 2004.
Yn Hanes Rhyw Gymraes down i adnabod y Sharon Morgan sydd tu ôl i’r cymeriadau a chawn fynediad i’w bywyd y tu hwnt i’r actores. Dyma ddynes sydd wedi gwneud ei rhan dros gyfiawnder, yn benodol yn y frwydr dros gyfiawnder i Gymru a’i hiaith a thros gyfartaledd i fenywod.
Trwy ein tywys i fro ei magwraeth a’n cyflwyno i’w theulu, i’w chyfeillion a’i chariadon down i adnabod Sharon Morgan yn well. Daw’r darllenydd i weld sut y bu merch nad oedd hi’n gweld gwerth mewn siarad Cymraeg gyda’i ffrindiau dyfu i fod yn brotestwraig cenedlaetholgar, a sut y tyfodd merch oedd yn dod o deulu dosbarth canol traddodiadol - tad yn Brifathro, mam adre’n gwarachod ei phlant, drafferth mawr â’r syniad o ‘setlo’ mewn perthynas.
Cawn ddarlun hyfryd o fywyd plentyn yng nghwm Aman a Sir Gaerfyrddin yn y pumdegau, darlun o fywyd merch yn ei harddegau yng Nghaerfyrddin yn y chwedegau, bywyd colegol merch danllyd ar ddiwedd y degawd hwnnw a’r byd theatr a theledu yng Nghymru yn y saithdegau. Tan y daeth tro ar fyd i Sharon Morgan.
Meddai Sharon Morgan: “Mae hi wedi cymryd rhai blynyddoedd i mi roi’r hunangofiant hwn ynghyd ac ynddo dw i’n gweld merch ifanc ar frys wyllt, yn trio gwasgu popeth mewn a llyncu bywyd, dw i’n teimlo’n flinedig nawr mond wrth ddarllen amdani. Ond dw i ddim yn condemnio’r egni a’r brwdfryddedd ifanc hwn, dw i’n ei edmygu, yn ei weld yn ddoniol ac yn annwyl, ac yn beth hollol naturiol.”
“Wrth fy mod wedi cymryd amser i edrych yn ôl dw i’n gallu gweld pethau’n gliriach nawr drwy ffenestr aeddfetach a dw i’n sylweddoli faint o ddigwyddiadau hap a damwain sydd wedi llywio fy mywyd ac hefyd faint o benderfyniadau wnes i am mai fel’na ro’n i’n teimlo, heb feddwl amdanynt, fel’na ro’n i’n teimlo.”
Dywedodd Sharon Morgan am ei gyrfa fel actores, “Dw i’n gweld nawr pa mor lwcus dw i wedi bod, yn enwedig ar ddechrau fy ngyrfa, mi roedd pobl yn cymryd risg yn fy nghastio i. Dw i yn wastad wedi eisiau gwneud yn dda, ddim i fod yn enwog nac i wneud arian ond i dyfu ac i ddatblygu. Ond yn ferch saith ar hugain oed do’n i ddim yn fodlon fy myd, ro’n i’n anfodlon ac ar frys, ro’n i ishe cyflawni rhywbeth, sydd yn bell o fod yn ddrwg i gyd fel actor, ac mi es i Lundain.”
Un o’r pethau hap a damwain hynny a ddigwyddodd i Sharon Morgan oedd dyfodiad Siân Edwards i’r Gram, Caerfyrddin o’r Barri a dyma weld Sharon Morgan y Genedlaetholwraig yn dod i’r wyneb. Erbyn hyn ni all gredu’r newid sydd wedi bod yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
“Mae’n anhygoel beth sydd wedi digwydd yng Nghymru – ry’n ni wedi troi’r wlad rownd. Mae hi’n gyffrous i bawb fyw yng Nghymru yn Gymraeg nawr – y gerddoriaeth, nofelau, bywyd cymdeithasol, ysgolion. Mae pobl yn eu tridegau a iau yn cymryd S4C yn ganiataol, mae pobl ifainc yn eu harddegau yn cymryd y Cynulliad yn ganiataol, tra mod i’n eu gweld fel gwyrthiau.”
“Do’n i ddim yn gweld pwynt siarad Cymraeg, ro’dd e’n amherthnasol ac yn hen ffasiwn. Ro’n i’n cael problem gwahaniaethu rhwng y ‘ti’ a’r ‘chi’, ro’n i’n derbyn addysg yn Saesneg, yn siarad Saesneg gyda fy mam a fy mrawd. Chware teg i mam, pan ddo’th y chwyldro, pan ro’n i tua un ar bymtheg mi drodd i siarad Cymraeg â fi ac ro’dd ei hiaith hi’n bert ofnadw, yn raenus ac yn llawn idiomau Dyffryn Aman. Erbyn heddiw dw i’n cyfri fy hun yn gwbwl ddwyieithog.”
Cafodd sefyllfa ei mam ddylanwad mawr ar agwedd Sharon Morgan tuag at gydraddoldeb yn y cartref. Rhoddodd ei mam y gorau i’w gyrfa i fod adre ar yr aelwyd i fagu ei phlant.
“Dyw fy athroniaeth heb gael ei selio ar unrhyw theori, dw i heb orfod darllen na meddwl dim amdano – ro’n i’n gweld anhegwch anghyfartaledd o’m blaen, bob dydd.”
Mae Sharon Morgan wedi bod yn gweithio ar y rhan hwn o’i hunangofiant ers dros dwy flynedd sy’n golygu ei bod wedi gallu ail-edrych arno a’i addasu yn ei phwysau, gan wneud y rhan fwyaf o’r gwaith rhwng gwaith actio ac wedi cael cyfle i sgwennu tra yn Los Angeles yn ffilmio Torchwood.
“Dw i wedi edrych o’r newydd ar fy hanes a’m trywydd fy hun ac yn gobeithio y bydd pobol yn meddwl ei fod yn ddiddorol. Dyna’r oll dw i wedi gwneud ydy adrodd fy stori bersonol fy hun ond yn y gobaith y gall eraill uniaethu â fi neu fy mod yn agor rhyw ddrws yn rhywle i rhywrai.”
Hanes rhyw Gymraes
Hunangofiant Sharon Morgan
Y Lolfa
£9.95
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-84771-329-2