Llyfrau

RSS Icon
20 Hydref 2011

Wps!…Dyna chi Pws!

Wps!. Dyna sy’n neidio o bob tudalen yn y gyfrol newydd ddireidus o gerddi i blant gan Dewi Pws a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Y sbort a’r sbri, y chwerthin, y chwarae ar eiriau a’r jôcs – dyna chi Pws i’r dim ac anagram o’i enw ei hun yw teitl y gyfrol liwgar hon a arluniwyd gan Eric Heyman o Gaerdydd.

Bydd y bardd a’r arlunydd yn dod at ei gilydd i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol yn y lansiad nos Iau, 20 Hydref 2011 yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn am 7.30 o’r gloch a bydd Dewi yn arwyddo copïau hefyd yn siop Awen Teifi, Aberteifi fore Sadwrn 22 Hydref am 11 o’r gloch.

Fel Bardd Plant Cymru 2010-11, cafodd Dewi amser wrth ei fodd gyda phlant o bob oed ar hyd a lled y wlad a chyflwynir Wps! ‘I holl blant Cymru a wnaeth flwyddyn y Bardd Plant yn gymaint o hwyl!’

Er iddo gyhoeddi cerddi, straeon a chaneuon i blant mewn cyfrolau eraill amrywiol, Wps! yw’r unig gyfrol o’i gerddi i blant . Clywir ei lais digri drwy’r deunaw cerdd sy’n amrywio o ran hyd, ffurf a thestun. Ceir cerddi i bobl fel Dat-cu a Fy Nghefnder Dei a hyd yn oed cyfle i ddyfalu Pwy yw Pwy? yn y gyfres o gwpledi e.e.

‘Hedfan yn brysur o flodyn i flodyn,

A mwmian canu ‘mond un nodyn’

Pa fath o fyd fyddai, tybed, pe byddai popeth yn ben i waered?

‘Hufen iâ poeth a sglodion blas jam,

Babis yn beicio a’u rhieni mewn pram?

Wyddech chi fod yna dylwyth teg yn byw yn y goedwig ger Brynhoffnant? Mae’n anodd iawn eu gweld nhw am eu bod yn newid lliw.

‘Yna, os y’ch chi’n ffodus ,

Cewch eu clywed ambell waith

Yn chwarae yn y tonnau

I lawr ym mae Tre-saith.’

 

Mae Dewi wedi ymgartrefu ym mhentref hudolus Tre-saith yng Ngheredigion ac yn rhan o’r gymuned yno ond mae’n hanu’n wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe.

Bydd plant yn cael eu denu’n syth gan luniau lliwgar a doniol Eric Heyman o Gaerdydd. O weld llun Superman ar y tŷ bach, y bachgen o ardal y Glais a’r jiráff hirgoes, mae’n amlwg fod hiwmor yr awdur a’r arlunydd yn taro deuddeg. Eric hefyd wnaeth arlunio straeon Dewi Dwpsi a luniwyd gan Dewi a’i wraig Rhiannon.

Fel plentyn mawr ei hun, mae Dewi’n deall beth sy’n difyrru plant a gwneud iddyn nhw chwerthin. Rhwng cloriau Wps! fe welir hynny i’r dim!

Rhannu |