Llyfrau

RSS Icon
20 Hydref 2011

Ffarmwr Ffowc i gystadlu â Rob Brydon ac Alan Partridge

Gyda’r Nadolig yn gyfnod o gystadlu ffyrnig rhwng prif gomediwyr a selebs i werthu eu llyfrau, mae David Ffowc, yr enwog Ffarmwr Ffowc, wedi penderfynu ymuno yn yr ornest. Eleni bydd ei lyfr newydd o’r enw Dyddiadur Ffarmwr Ffowc yn cael ei gyhoeddi i gystadlu yn erbyn hunangofiannau enwogion fel Alan Partrige, James Cordon a Rob Brydon i gyrraedd brig siartiau gwerthu’r Nadolig.

Bu David Ffowc yn ddyfal yn ysgrifennu ers blynyddoedd, a hynny fel modd o arallgyfeirio. Meddai David: “Da ni ffarmwrs sy'n gweithio mewn ardaloedd llai ffarfiol yn mynd i golli pres, felly mae'n bwysig bod pawb yn arallgyfeirio fel cythgiam. Ma' gen i dri chant a hanner o ddefed a'r dir llai ffafriol. Deg ar hugain o wartheg du, deuddeg iâr, tri ci, pedair cath ond ma pob un llo yn y Blaid Lafur lawr ym Mae Caerdydd. Coc-up unwaith eto yn erbyn perchnogion pick-up.”

Yn ei gyfrol mae David Ffowc yn edrych yn ôl ar helyntion carwriaethol, hanes y trip rygbi helbulus i Ddulyn a’i gariad angerddol tuag at y welingons Hunter a’r Mitsubishi Open Top Pick-up Truck.

Dyma gyfrol gyntaf David Ffowc, ond mae David wedi penderfynu na fydd y gyfrol yn cael ei chynnig ar gyfer Llyfr y Flwyddyn. Meddai: “Dwi’n gwybod yn iawn y bysa’r llyfr yma’n cael ei enwebu ac yn ennill Llyfr y Flwyddyn yn ddigon hawdd (o’i gymharu â’r llyfra sy wedi ennill yn y gorffennol, fyddai’n anodd peidio), ond dwi’n gofyn i chi plis BEIDIO fy enwebu.

"Na, peidiwch wir. Mae cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar gyfer amaturiaid a ’di o mond yn iawn iddyn nhw gael cyfle i brofi llwyddiant a meithrin eu crefft wrth ddysgu, achos fydd hi’n amser hir cyn iddyn nhw gael sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â rhywun â thalent mor naturiol â fi, uffen.”

Creadigaeth Eilir Jones yw Ffarmwr Ffowc sydd eisoes wedi cyhoeddi sawl dvd llwyddiannus. Cyhoeddir Dyddiadur Ffarmwr Ffowc ar 19 Hydref gan wasg Y Lolfa. Pris y gyfrol yw £4.95.

Rhannu |