Llyfrau

RSS Icon
29 Medi 2011
Adolygiad gan J Graham Jones

Atgofion difyr gan wleidydd unigryw

BU gyrfa wleidyddol John Morris yn un hir a nodedig, yn wir yn hollol unigryw o fewn bywyd gwleidyddol Cymru’r ugeinfed ganrif. Ar ôl ei wrthod fel ymgeisydd mewn etholaethau eraill, etholwyd ef i Dŷ’r Cyffredin fel yr AS Llafur dros sedd hollol ddiogel Aberafan yn etholiad cyffredinol Hydref 1959 yn y cyfnod pan roedd Hugh Gaitskell yn arweinydd ar y blaid. O’r cychwyn cyntaf, gwnaeth argraff ddofn ar ei gyd-aelodau Llafur a’r byd gwleidyddol yn San Steffan.

Aeth ei yrfa o nerth i nerth yno. Daeth yn weinidog o fewn y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn ŵr ifanc o dan Harold Wilson, a phan ddychwelodd y Blaid Lafur i rym ym mis Chwefror 1974, John Morris (yn hytrach na’r arch gwrth-Genedlaetholwr George Thomas) a ddewiswyd fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, gan barhau yn y swydd allweddol hon hyd at gwymp y llywodraeth ym mis Mai 1979. Pan ddychwelwyd ‘Llafur Newydd’ i lywodraeth dan Tony Blair ym 1997, roedd Morris eto yn dal swydd o fewn y Cabined Llafur newydd, y tro hwn fel y Twrnai Gwladol. Fel canlyniad roedd yn un o lond dwrn bychan o wleidyddion Llafur i oroesi i’r fath raddau dros gyfnod gwleidyddol hirfaith. Yn dilyn ei ymddeoliad o Dŷ’r Cyffredin yn 2001, aeth i’r Arglwyddi, gan ddal nifer o swyddi cyhoeddus blaenllaw, llawer ohonynt o fewn Cymru.

Ac yntau bellach ar drothwy dathlu ei ben-blwydd yn wythdeg mlwydd oed ym mis Tachwedd eleni, hyfryd o beth yw gweld John Morris yn penderfynu cyhoeddi cyfrol swmpus o atgofion personol a chyhoeddus, a rhaid ei longyfarch yn wresog ar eu llunio mewn arddull hollol ddarllenadwy a gafaelgar. Cyfareddol yn wir yw darllen am ei fagwraeth a’i blentyndod yng nghefngwlad Ceredigion, sef pentref bychan Capel Bangor ger Aberystwyth. Roedd ei dad-cu, yntau hefyd yn John Morris, yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Sir cyntaf ei sir enedigol ym 1889.

Cawn gipolwg ar ei ddyddiau ysgol yn Aberystwyth (ac Elystan Morgan yn gyd-ddisgybl iddo yno), yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu’n astudio’r gyfraith, ac yna yng Ngholeg Caius, Caergrawnt. Datblygodd ei ddiddordeb mewn gwleidydda, ac yn fwyaf arbennig mewn datganoli, yn gynnar iawn yn ei fywyd. Daeth o fewn trwch blewyn o’i ddewis fel darpar-ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer isetholiad hollbwysig Sir Gaerfyrddin, 1957, ond y Fonesig Megan Lloyd George, a hithau newydd droi ei chot yn wleidyddol o’r Blaid Ryddfrydol, a ddewiswyd o un bleidlais yn unig y tro hwnnw. Penderfyniad Billy Cove i ymddeol o’r Senedd a roddodd i John Morris y cyfle i sefyll dros etholaeth Aberafan – ac yna cynrychioli’r sedd am bedwar deg dau o flynyddoedd.

Yna, cawn gipolwg gwerthfawr ar nifer o’i gyd-aelodau yn y Tŷ Cyffredin a’i brofiadau cynharaf yn San Steffan. Ar ôl darllen am ei amryw brofiadau fel gweinidog iau o fewn y llywodraeth, ceir adran arbennig o arwyddocaol am ddatblygiad yr ymgyrch dros ddatganoli pellach i Gymru ar ôl 1964 a sefydlu’r Swyddfa Gymreig. Yna telir teyrnged huawdl i gyfraniad amhrisiadwy a dyfalbarhad yr arloeswr James Griffiths yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1964 a 1966. Cawn sylwadau pwysig hefyd ar y broses o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn arwain at newidiadau ysgubol Ebrill 1974.

Yn ystod ei gyfnod yntau fel Ysgrifennydd Gwladol ar ôl 1974, bu John Morris yn llwyddiannus yn ei ymgyrch diflino i ehangu pwerau ac awdurdod y Swyddfa Gymreig ac i gadw a bywiogi’r Gymraeg fel iaith fyw. Darllenwn sylwadau treiddgar a phwrpasol ar yr ymgyrch i sefydlu S4C fel sianel ar gyfer rhaglenni Cymraeg eu hiaith ym 1982 a datblygiad cyffrous y gwasanaeth deledu yn ystod y blynyddoedd ar ôl hynny.

Yna mae’r hanes yn neidio i’r cyfnod ar ôl 1997 i raddau helaeth, a hanes ei waith a’i gyfraniad fel Twrnai Gwladol – ar ôl iddo wasanaethu fel Twrnai Gwladol yr wrthblaid o dan yr arweinwyr Michael Foot a Neil Kinnock. Rhoddir sylw llawn i’r rhyfel deg wythnos yn Kosovo, ac yna darllenwn grynodeb difyr o’i brofiadau o fewn Tŷ’r Arglwyddi ar ôl 2001.

Drwy gydol y gyfrol, cawn gyfeiriadau cyson hefyd at ei fywyd etholaethol yn Aberafan. Bu’r gwaith hwn yn amlwg yn hollbwysig iddo ar hyd y daith ac yn hollol ganolog i’w yrfa ddisglair fel gwleidydd. Hefyd yn achlysurol cawn ambell i gipolwg bach ar fywyd personol a theuluol ar awdur. Tuedda i resynu ar adegau bod ei ddyletswyddau cyhoeddus trymion wedi amddifadu ei deulu o’i bresenoldeb a’i gwmni am gyfnodau cymharol hir. I gloi, cawn gyfres o bwyntiau allweddol am ei yrfa wleidyddol.

Gan i’r awdur rannu’r testun yn chwech-ar-hugain o benodau cymharol fer ac iddynt strwythur cronolegol, hawdd yw dilyn ei yrfa ar hyd y daith o Gapel Bangor i’r Senedd ac yna i’r Arglwyddi. Hefyd dewiswyd nifer fawr o luniau deniadol ac arwyddocaol o’r albwm teuluol sydd yn wir gaffaeliad i’r gyfrol.

Rhannu |