Llyfrau

RSS Icon
29 Medi 2011

Dihirod diflas, menywod mileinig a chymeriadau chwithig

PWY yw dihirod mwyaf diflas a chymeriadau mwyaf chwithig Cymru? Byddai rhestr pob un ohonom yn wahanol iawn, mae’n siŵr!

Ond mae hanes Cymru yn llawn o bobl ddrwg a gwahanol ac maen nhw’n llawer mwy diddorol na phobl dda, neis-neis, yn ôl yr hanesydd Catrin Stevens o Gasllwchwr.

Ei dewis hi o’r cymeriadau mwyaf dychrynllyd o ddieflig ac eithriadol o eithafol welir ym mhumed teitl y gyfres arbennig Hanes Atgas a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Fel teitlau eraill y gyfres, darlunnir Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig gan Graham Howells o Lanelli gan roi gwedd ysgafn ar ambell i bwnc astrus a chreulon mewn hanes gyda’i luniau a chartwnau clyfar.

Llechai môr-ladron medrus iawn o gwmpas arfordir Cymru. Yr enwocaf yn y byd i gyd oedd Barti Ddu o Gasnewydd-bach, Sir Benfro. Mewn dwy flynedd fe gipiodd Barti Ddu bedwar cant o longau, gwerth £51 miliwn i gyd, llawer ohonyn nhw’n eiddo i Sbaen, Lloegr, Ffrainc a’r Alban.

Pan wrthododd capten y Porcupine, llong yn llawn caethweision, dalu arian i’w hachub, fe daniodd Barti’r llong gan losgi’r caethweision dan y dec yn eu cadwynau.

Roedd gan Barti ei reolau rhyfedd – dim cweryla, rhegi na chwarae cardiau ar fwrdd y llong, dim gweithio nac ymosod ar longau ar ddydd Sul ond roedd digon o ymosod, llofruddio, llosgi a lladd ar ddiwrnodau eraill yr wythnos!

Er mwyn osgoi talu tollau ar nwyddau fel brandi, tybaco, te, sidan a halen, magwyd llawer o smyglwyr syfrdanol yng Nghymru. Yn ôl yr awdur, petai llyfrau Mr Men amdanyn nhw, byddai ganddyn nhw lysenwau.

Mr Lliwgar – Siôn Cwilt, y smyglwr mewn clogyn clytwaith lliwgar

Mr Cyfrwys – William Arthur o Benrhyn Gŵyr a guddiai brandi ar ei fferm

Mr Arswydus – Un o gang arswydus Gwrachod Llanddona, Ynys Môn

Mr Neis – Howard Marks o Fynydd Cynffig, smyglwr cyffuriau gyda 43 o enwau gwahanol er mwyn twyllo’r heddlu

Mr Clyfar a Miss Fach Fwy Clyfar – Ymgyrch Julie yn nhref Tregaron yn 1977

Caradog, Buddug, Gwrtheyrn, Mynyddog Mwynfawr – ai arweinwyr ardderchog neu arweinwyr anobeithiol oedden nhw? Drwy roi sgôr allan o ddeg am eu hymdrech a’u llwyddiant ar sail ffeithiau’r bennod, gwelir taw Caradog sy’n dod i’r brig.

Mae hanes yn llawn storïau am bobl sydd wedi llwyddo i dwyllo pobl eraill ond ydy’r hanesion amdanyn nhw’n wir neu gau? Roedd dychymyg di-ben-draw gyda Sieffre o Fynwy, roedd Mari’r Fantell Wen yn credu ei bod wedi dyweddïo â Iesu Grist ac fe ychwanegodd Iolo Morgannwg ei gerddi ei hun at rai Dafydd ap Gwilym mewn cyhoeddiad a honni taw Dafydd oedd wedi eu hysgrifennu nhw!

Ond y troseddwyr mwyaf trychinebus oll oedd y llofruddion. Yn y llyfr ceir hanesion nifer ohonyn nhw gan gynnwys William Powell, sgweier Plasty Glanareth ger Llangadog yn cael ei lofruddio gan griw o ddynion lleol. Wyddoch chi fod yna gysylltiad â Chymru gyda’r dihiryn enwog Murray the Hump, un o gang creulon Al Capone yn Chicago, America? Enw bedydd Murray the Hump oedd Llywelyn Morris Humphreys ac fe symudodd ei rieni draw i America o Garno, Powys.

Menywod mileinig, cymeriadau chwithig a chywilydd y caethweision yw rhai o’r penodau eraill difyr yn Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig.

Rhannu |